Myfyriwr yn gweithio ar liniadur gyda ffôn symudol, sbectol a llyfryn nodiadau ar y ddesg

Costau Byw a Chefnogaeth Ariannol

Gall costau byw yn y brifysgol amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a'ch dewisiadau o ran ffordd o fyw. Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn gwario mwy ar rent, tra bydd eraill yn gwario mwy ar fwyd neu adloniant. Pwrpas y dudalen hon yw eich helpu i feddwl am eich cyllideb a’ch gwneud yn ymwybodol o rai o’r costau y gallech ddod ar eu traws yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, a darparu gwybodaeth am y gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig i’n myfyrwyr.

Costau y gallwch ddod ar eu traws fel myfyriwr

Crynodeb o gostau llety

  Ystafelloedd Stiwdios
Ffriddoedd £122-155 / wythnos £195 / wythnos
Santes Fair £146-168.50 / wythnos £185-215 / wythnos
Wrecsam £100 / wythnos Amh

 

 

 

 

 

 

Beth sydd wedi ei gynnwys?

  • Cysylltiad i’r rhyngrwyd, naill ai drwy Wi-Fi neu â gwifrau
  • Biliau cyfleustodau (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan) wedi'u cynnwys yn y rhent
  • Aelodaeth o’r gampfa ar gyfer pentrefi’r Santes Fair a Ffriddoedd
  • Aelodaeth o’r rhaglen Campws Byw
  • Yswiriant
  • Gofal bugeiliol

Mae aelodaeth o’r gampfa ac aelodaeth o’r rhaglen Campws Byw yn gynwysedig i’r holl fyfyrwyr sy'n byw yn neuaddau'r Brifysgol. Gallwch ddefnyddio'r brif ganolfan chwaraeon, Canolfan Brailsford ym Mhentref Ffriddoedd neu'r ystafell ffitrwydd ym Mhentref y Santes Fair. Mae Campws Byw yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau sy'n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau ffilm, cwisiau, teithiau a gweithgareddau awyr agored. Mae'n ddrwg gennym nad yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw ar Gampws Wrecsam, ac mae’r ffioedd neuaddau yn Wrecsam yn cael eu haddasu'n unol â hynny.

Ar gyfer y sector preifat daw ein gwybodaeth o wefan Studentpad ac roedd yn gyfredol ar 22/01/2024. Adolygir costau yn Ionawr ac Awst. Caiff biliau cyfleustodau am nwy/olew, trydan a dŵr eu cynnwys yn y costau. Amlinelliad yw hwn o gost debygol llety a chyfleustodau ar gyfer un unigolyn..

  Y person, yr wythnos Y person, y mis
Pris cyfartalog gan gynnwys cyfleustodau £119 £518
Pris cyfartalog heb gynnwys cyfleustodau £85 £367
Ystod gyfartalog gan gynnwys cyfleustodau £99 - £130 £432 - £564
Ystod gyfartalog heb gynnwys cyfleustodau £70 - £113 £300 - £489

 

Bydd costau bwyd hefyd yn amrywio yn dibynnu ar eich arferion bwyta. Fel arfer bydd myfyrwyr sy'n coginio gartref yn gwario llai na myfyrwyr sy'n bwyta allan yn aml.

Fe ddewch o hyd i bron bob un o'r prif archfarchnadoedd yma ym Mangor. Bydd gwefannau cymharu prisiau megis Which?: Cymharu prisiau archfarchnadoedd yn eich helpu i ddewis yr un sy’n gweddu orau i’ch anghenion a’ch cyllideb

Creu cyllideb bwyd am y tro cyntaf? Edrychwch ar gynllunwyr bwyd megis hwn, Cynllun Prydau £25  gan Debra o Savvy Bites neu, os ydych yn hoffi TikTok, ewch i broffil beckyexcelli wylio ei rîl 5 pryd am £25

Argymhellion a chyngor i fyfyrwyr am sut i arbed arian ar fwyd:

  • Cynlluniwch eich prydau bwyd a siopa yn unol â hynny.Bydd hyn yn eich helpu i osgoi bod yn fyrbwyll wrth siopa bwyd a sicrhau mai dim ond y bwyd sydd ei angen arnoch yr ydych yn ei brynu.
  • Prynwch mewn swmp pan fo modd. Gall hyn arbed arian i chi yn y tymor hir, yn enwedig ar eitemau nad ydynt yn ddarfodus megis reis, pasta a ffa.
  • Coginiwch gartref yn amlach. Gall bwyta allan fod yn ddrud, felly mae coginio gartref yn ffordd wych o arbed arian.
  • Coginiwch mewn sypiau. Dyma ffordd wych o arbed amser ac arian. Coginiwch swp mawr o fwyd ac yna ei rewi i’w fwyta ar adeg arall.
  • Manteisiwch ar ostyngiadau i fyfyrwyr. Mae llawer o fwytai a siopau bwyd yn cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn holi amdanynt
  • Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth. Os ydych yn cael trafferth fforddio bwyd, peidiwch â bod ofn gofyn am help gan eich ffrindiau, eich teulu, neu gan y Tîm Cefnogaeth Ariannol.

Bydd costau cyfleustodau, megis trydan, nwy a dŵr, yn amrywio yn dibynnu ar faint eich llety a'ch defnydd ohono.

Os ydych yn byw yn neuaddau'r Brifysgol ni fydd yn rhaid i chi gyllidebu ar gyfer costau ychwanegol megis costau trydan a dŵr. Mae’r un peth yn wir os oes gennych denantiaeth gynhwysol, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw derfynau gwariant ar gostau cyfleustodau a fydd yn cael eu rhestru yn eich cytundeb tenantiaeth.

Os nad yw eich tenantiaeth yn gynhwysol, efallai y bydd eich landlord yn gallu amcangyfrif eich costau trydan, nwy a dŵr i'ch helpu i gyllidebu ar gyfer y costau hyn.

Gall biliau cyfleustodau fod yn gost sylweddol i fyfyrwyr, yn enwedig os ydych yn byw mewn eiddo wedi ei rentu. Gall costau ynni amrywio yn dibynnu ar faint eich llety, nifer y bobl rydych yn byw gyda nhw, a'ch arferion defnyddio ynn

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer arbed arian ar gostau cyfleustodau:

  • Cymharwch ddarparwyr ynni. Mae llawer o wahanol ddarparwyr ynni ar gael, felly mae’n werth cymharu prisiau i ddod o hyd i’r fargen orau. Gallwch ddefnyddio gwefan cymharu prisiau i wneud hyn.
  • Newidiwch ddarparwr ynni. Os nad ydych yn hapus gyda'ch darparwr ynni presennol, gallwch newid i un newydd. Gall hyn arbed arian i chi, yn enwedig os ydych ar gontract cyfnod penodol.
  • Ceisiwch gael cytundeb dwbl ar gyfer tanwydd. Mae cytundeb dwbl ar gyfer tanwydd yn golygu eich bod yn cael eich nwy a’ch trydan gan yr un darparwr. Yn aml gall hyn arbed arian i chi.
  • Defnyddiwch ddyfeisiau ynni-effeithlon. Mae dyfeisiau ynni-effeithlon yn defnyddio llai o ynni, a all arbed arian i chi ar eich biliau.
  • Dad-blygiwch ddyfeisiau pan nad ydych yn eu defnyddio. Hyd yn oed pan fyddant wedi'u diffodd, gall dyfeisiau dal ddefnyddio ynni. Gall eu dad-blygio pan nad ydych yn eu defnyddio arbed arian i chi.
  • Gosodwch eich thermostat i dymheredd is yn y gaeaf a thymheredd uwch yn yr haf. Gall hyn arbed arian i chi ar eich biliau gwresogi ac oeri.
  • Agorwch y llenni yn ystod y dydd i adael golau naturiol i mewn. Gall hyn helpu i leihau eich defnydd o ynni.
  • Diffoddwch y goleuadau pan fyddwch yn gadael ystafell. Dyma ffordd syml o arbed ynni.

Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch arbed arian ar eich costau cyfleustodau a lleihau eich effaith amgylcheddol.

Dyma rai awgrymiadau ychwanegol sy'n benodol i lety myfyrwyr:

  • Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir, cytunwch ar set o reolau ar gyfer defnyddio ynni. Gallai hyn gynnwys pethau megis diffodd goleuadau pan fyddwch yn gadael ystafell, dad-blygio dyfeisiau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, a gosod y thermostat i dymheredd is yn y gaeaf.
  • Os ydych yn byw mewn eiddo sy’n cael ei rentu’n breifat, gwiriwch delerau eich cytundeb tenantiaeth. Gall rhai landlordiaid gynnwys cymal yn y cytundeb sy’n nodi mai chi sy’n gyfrifol am dalu’r biliau cyfleustodau.
  • Os ydych yn cael trafferth fforddio eich biliau cyfleustodau, mae yna nifer o sefydliadau a all helpu. Gall y sefydliadau hyn ddarparu cymorth ariannol neu gyngor am effeithlonrwydd ynni.

Mae eich eiddo’n werthfawr ac rydym yn eich annog i'w hyswirio rhag colled neu ddifrod. Gall costau yswiriant amrywio o £66 y flwyddyn ac yn fwy. Defnyddiwch wefan gymharu prisiau megis Endsleigh neu Compare the Market i ddod o hyd i bolisi.

Mae yswiriant yn amddiffyniad ariannol pwysig i fyfyrwyr. Mae llawer o wahanol fathau o yswiriant ar gael, a bydd y math gorau i chi yn dibynnu ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol.

Dyma rai o’r mathau pwysicaf o yswiriant i fyfyrwyr:

  • Yswiriant cynnwys: Gall hyn helpu i dalu costau adnewyddu eich eiddo personol os ydyw’n cael ei ddwyn neu ei ddifrod.
  • Yswiriant atebolrwydd tenantiaid: Gall hyn helpu i dalu am gost yr iawndal yr ydych yn ei achosi i eiddo eich landlord.
  • Yswiriant car: Os ydych yn gyrru, bydd arnoch angen yswiriant car i yrru'n gyfreithlon ar y ffordd.

Mae'n bwysig cymharu gwahanol bolisïau yswiriant cyn i chi brynu un. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y polisi'n ofalus i ddeall beth sydd wedi'i gynnwys a beth sydd ddim.

Dyma rai awgrymiadau ychwanegol i fyfyrwyr am yswiriant:

  • Sicrhewch eich bod yn cael dyfynbrisiau gan fwy nag un yswiriwr. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i'r fargen orau.
  • Ystyriwch eich anghenion a'ch cyllideb. Pan fyddwch yn cymharu polisïau, meddyliwch am yr hyn y mae angen i chi gael yswiriant ar ei gyfer a faint y gallwch fforddio ei dalu.
  • Darllenwch y polisi’n ofalus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth sydd wedi'i gynnwys a beth sydd ddim.
  • Cadwch eich polisi’n gyfredol. Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru'ch polisi.

Trwy ddewis y polisïau yswiriant cywir, gallwch amddiffyn eich hun yn ariannol rhag ofn y bydd digwyddiad annisgwyl.

Mae trwydded deledu yn ofyniad cyfreithiol os ydych yn gwylio teledu’n fyw neu’n dal i fyny â rhaglenni teledu trwy ddefnyddio’r ap iPlayer. Sylwch nad yw trwydded deledu wedi'i chynnwys yn rhent llety'r Brifysgol.

Mae trwydded deledu yn ofyniad cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig i unrhyw un sy’n gwylio neu’n recordio rhaglenni teledu byw wrth iddynt gael eu dangos ar unrhyw sianel, gwasanaeth teledu neu wasanaeth ffrydio. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ddefnyddio BBC iPlayer.

Nid oes arnoch angen trwydded deledu os ydych ond defnyddio BBC iPlayer i ddal i fyny ar wylio rhaglenni teledu sydd eisoes wedi eu dangos yn fyw, neu os ydych ond yn gwylio cynnwys ar alw drwy wasanaethau eraill megis Netflix, Amazon Prime Video neu Disney+.

£159 y flwyddyn trwydded deledu ar hyn o bryd.

Mae llawer o wahanol wasanaethau ffrydio ar gael yn y Deyrnas Unedig, pob un â'i bris a'i gynnwys ei hun. Dyma rai o'r gwasanaethau ffrydio mwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr:

  • Netflix o £4.99 y mis
  • Amazon Student Prime Video: £5.99 y mis
  • Disney+: £7.99 y mis (gallwch arbed 15% ar gost tanysgrifiad blwyddyn i fyfyrwyr drwy Unidays)
  • Apple TV+: ££5.99 y mis
  • Mae rhai gwasanaethau ffrydio am ddim, gan gynnwys y rhai a restrir isod. Efallai y bydd angen i chi fod wedi cofrestru am wasanaeth arall yn barod i gael y gwasanaethau isod am ddim.

    Wrth ddewis gwasanaeth ffrydio, mae'n bwysig ystyried eich anghenion a'ch cyllideb. Meddyliwch pa fath o gynnwys rydych am ei wylio, ar sawl dyfais rydych am eu gwylio, a faint rydych yn fodlon ei dalu.

    Gallwch hefyd arbed arian trwy danysgrifio i wasanaeth ffrydio gyda ffrind neu aelod o'r teulu. Mae llawer o wasanaethau ffrydio yn caniatáu i chi greu mwy nag un proffil, felly gall pob un ohonoch wylio'ch cynnwys eich hun

">

Mae cymdeithasu’n rhan bwysig o fywyd myfyriwr, ond gall fod yn ddrud hefyd. Bydd faint o arian y byddwch yn ei wario ar gymdeithasu yn amrywio yn dibynnu ar eich ffordd o fyw, ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r costau fel y gallwch gyllidebu'n unol â hynny.

Dyma rai o’r costau mwyaf cyffredin sy’n gysylltiedig â chymdeithasu:

  • Mynd allan am fwyd: Gall hyn fod yn un o'r ffyrdd drutaf o gymdeithasu. Gall pryd o fwyd mewn bwyty gostio £20 neu fwy y person. Edrychwch ar dudalennau gwe Bwyta Yfed Bangor am y prisiau mwyaf diweddar ym Mar Uno, Lolfa’r Teras, Pontio, Caffi’r Teras, y Ganolfan Rheolaeth a Barlows.
  • Mynd i fariau neu glybiau: Gall hyn fod yn ddrud hefyd, yn enwedig os ydych yn prynu diodydd. Mae Academi, clwb nos swyddogol y Brifysgol, yn le gwych i gwrdd a chymdeithasu â ffrindiau. Mae mynediad am ddim i fyfyrwyr sy’n byw yn Neuaddau’r Brifysgol a mynediad am bris gostyngol i aelodau timau sydd wedi’u noddi.
  • Mynd i gyngherddau neu i’r sinema: Gall hyn fod yn ffordd fwy fforddiadwy o gymdeithasu, ond gall dal fod yn ddrud os byddwch yn gwneud hynny'n aml. Gall tocynnau i gyngerdd neu ffilm gostio £20 neu fwy felly edrychwch ar wefan Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio lle mae tocynnau myfyrwyr yn costio £6.
  • Mynd allan am baned o goffi neu de: Mae hwn yn opsiwn mwy fforddiadwy, ond gall dal fod yn ddrud os byddwch yn mynd pob dydd. Gall paned o goffi neu de gostio £2 neu fwy felly edrychwch ar dudalennau gwe Bwyta Yfed Bangor i wirio prisiau coffi - a chofiwch ddefnyddio ap Teya ar y campws a chewch y 10fed coffi am ddim.
  • Prynu diodydd neu fyrbrydau i ffrindiau: Gall y gost o wneud hyn gronni’n gyflym, yn enwedig os ydych yn prynu i grŵp o ffrindiau.

Os ydych yn ceisio cadw at gyllideb, mae dal llawer o ffyrdd i gymdeithasu heb dorri'r banc. Dyma rai awgrymiadau:

  • Ymunwch â chlwb chwaraeon neu gymdeithas. Mae dros 150 o glybiau a chymdeithasau sy’n rhad ac am ddim i ymuno â nhw ac mae rhywbeth at ddant pawb.
  • Manteisiwch ar weithgareddau Campws Byw. Mae Campws Byw yn cynnal calendr o ddigwyddiadaui fyfyrwyr sy'n byw yn Neuaddau'r Brifysgol. Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ond efallai y gofynnir i chi dalu ffi fechan i fynd i rai o’r digwyddiadau oddi ar y campws.
  • Mwynhewch Ardd Fotaneg Treborth. Mae gan Brifysgol Bangor ardd fotaneg achrededig sy’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr ymweld â hi. Mae gan yr ardd bymtheg hectar o goetir brodorol, dau hectar o laswelltir heb ei drin sy’n cynnwys llawer o rywogaethau, un hectar o berllan dan reolaeth a llawer o goed a llwyni aeddfed, a chwe thŷ gwydr o dymheredd amrywiol sy’n cynnwys casgliadau arbennig megis tegeirianau, cacti, planhigion suddlon a phlanhigion cigysol.
  • Cynhaliwch ginio nos ‘potluck’ lle mae pawb yn cyfrannu bwyd, neu nosweithiau gemau. Dyma ddwy ffordd wych o arbed arian a chael hwyl gyda ffrindiau.
  • Ewch am dro neu am daith gerdded. Dyma ffordd rad ac am ddim i gael ychydig o ymarfer corff a chael hwyl wrth fwynhau'r awyr agored yma yng ngogledd Cymru. Ewch i edrych ar ein teithiau cerdded yng nghanol y ddinasa’r llwybrau ymwybyddiaeth ofalgar llwybrau ymwybyddiaeth ofalgar a ddatblygwyd gennym yn ddiweddar.
  • Ewch i ddigwyddiadau rhad ac am ddim. Mae llawer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn digwydd yn y rhan fwyaf o ddinasoedd, megis cyngherddau, gwyliau, a sioeau celf - rydym yn argymell eich bod yn edrych ar wefan Pontio , ein canolfan sy'n cyfuno celfyddydau a diwylliant, arloesedd, addysg a chymuned mewn ffordd gyffrous ac unigryw.
  • Gwirfoddolwch eich amser. Dyma ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned a chwrdd â phobl newydd felly edrychwch ar ein tudalennau gwirfoddoli a’n tudalennau gwirfoddoli chwaraeon i ddod o hyd i rywbeth a fyddai'n addas i chi.
  • Manteisiwch ar ostyngiadau i fyfyrwyr. Mae llawer o fusnesau’n cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn holi amdanynt.
  • Trwy fod yn greadigol a dyfeisgar, gallwch ddod o hyd i ffyrdd o gymdeithasu heb wario llawer o arian.

">

Y peth da am Fangor yw bod ein llety myfyrwyr o fewn pellter cerdded i brif adeiladau’r Brifysgol felly ni fydd arnoch angen car na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd o’r neuaddau i’ch darlithoedd.

Gall costau cludiant fod yn gost sylweddol i fyfyrwyr, yn enwedig os nad ydych yn byw gartref. Bydd costau cludiant yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw, pa mor aml rydych yn teithio, a pha fath o gludiant rydych yn ei ddefnyddio.

Dyma rai o’r ffyrdd mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr yn teithio:

  • Trafnidiaeth gyhoeddus: Mae hwn yn opsiwn poblogaidd i fyfyrwyr, gan ei fod yn gymharol fforddiadwy a gall fynd â chi i'r rhan fwyaf o leoedd y mae angen i chi fynd iddynt. Bydd cost trafnidiaeth gyhoeddus yn amrywio yn dibynnu ar y ddinas neu’r dref yr ydych yn byw ynddi. Dyma’r costau ar gyfer Bangor a'r cyffiniau: Tocyn bws wythnosol £14.00 / Tocyn bws blynyddol Bangor £490.00 gydag Arriva .
  • Car: Gall hwn fod yn opsiwn drutach, ond mae'n rhoi mwy o hyblygrwydd a rhyddid i chi. Mae’r gost o fod yn berchen ar gar yn cynnwys pris prynu’r car, costau yswirio, prynu tanwydd a chostau cynnal a chadw ac os byddwch yn dod â’ch car i’r campws neu’n gyrru i Fangor bydd angen i chi brynu trwydded barcio i barcio yn unrhyw un o feysydd parcio’r brifysgol neu ar gampws y brifysgol, gan gynnwys y neuaddau preswyl. Cost trwydded barcio flynyddol yw tua £40.00.
  • Cerdded neu redeg: Dyma’r opsiwn rhataf ac mae’n gyfleus iawn os ydych yn byw ym Mangor lle mae popeth o fewn pellter cerdded, ond efallai na fydd yn ymarferol os ydych yn byw ymhell o’r campws neu yn eich tref enedigol.

Os ydych yn teithio adref o'r brifysgol, bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar ba mor bell byddwch yn teithio a sut byddwch yn teithio. Yr opsiwn rhataf fel arfer yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond efallai nad dyma'r opsiwn mwyaf cyfleus.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer arbed arian ar gostau teithio:

  • Cynlluniwch eich teithiau ymlaen llaw. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi gwneud teithiau diangen.
  • Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus. Dyma'r opsiwn mwyaf fforddiadwy fel arfer.
  • Rhannwch lifft gyda ffrindiau neu deulu. Gall hyn helpu i leihau costau petrol neu docynnau trên.
  • Cerddwch neu seiclwch. Dyma'r opsiwn rhataf, ac mewn lle fel Bangor fe gewch olygfeydd anhygoel ar hyd y ffordd.
  • Manteisiwch ar ostyngiadau i fyfyrwyr. Mae llawer o ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr.

Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch arbed arian ar gostau cludiant a chreu cyllideb yn unol â hynny.

Mae costau llety wedi'u diweddaru ym mis Awst 2023. Ein nod yw diweddaru'r wybodaeth hon ar ddechrau pob semester.

Mae'n bwysig cofio bod gwariant pawb yn wahanol. Canllaw cyffredinol yn unig yw'r costau a restrir uchod. Y ffordd orau i ddarganfod faint o arian fydd arnoch angen i fyw yn y brifysgol yw creu cyllideb. Mae llawer o wahanol declynnau creu cyllideb ar gael ar-lein ac mewn llyfrgelloedd - rydym ni hefyd wedi creu un i chi ei ddefnyddio.

Myfyriwr yn eistedd o flaen gliniadur ar fwrdd gwyn gyda pherson arall yn y cefndir

Cynllunydd Cyllideb Rhad ac am Ddim

I'ch helpu i gyllidebu, rydym wedi creu cynllunydd cyllideb rhad ac am ddim sy'n syml i'w ddefnyddio! Dewiswch y math o fyfyriwr ydych chi, a mewnbynnwch eich gwariant.

LAWRLWYTHWCH Y CYNLLUNYDD CYLLIDEB RHAD AC AM DDIM

Beth ydym ni'n ei wneud i helpu?

Gobeithiwn y bydd hyn yn eich helpu i wneud y defnydd gorau o’ch arian a chaniatáu i chi ganolbwyntio ar eich astudiaethau.

Gobeithiwn y bydd hyn yn eich helpu i wneud y defnydd gorau o’ch arian a chaniatáu i chi ganolbwyntio ar eich astudiaethau.

5 awgrym i'ch helpu i wneud y defnydd gorau o'ch arian

Treuliwch amser yn cynllunio a rhestru gwariant hanfodol a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwariant ychwanegol megis costau ar ddechrau’r flwyddyn a phen-blwyddi. Mae hefyd yn syniad da cadw cofnod o bopeth rydych yn ei wario er mwyn adnabod patrymau gwario rheolaidd ac achlysurol.

Talwch cymaint ag y gallwch pan fyddwch yn derbyn eich rhandaliad benthyciad myfyriwr, megis talu eich rhent am y semester cyfan, ffioedd dysgu a biliau..

Pan fyddwch yn fyfyriwr, mae'n bwysig rhoi blaenoriaeth i’r pethau hanfodol. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr eich bod yn gwario'ch arian ar y pethau sydd arnoch eu hangen, megis rhent, bwyd a chludiant.

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i flaenoriaethu’r pethau hanfodol. Dyma rai awgrymiadau:

  • Ewch ati i greu cyllideb a chadw ati. Bydd hyn yn eich helpu i gadw llygad ar eich gwariant ac osgoi gorwario.
  • Gwnewch restr o'ch costau hanfodol. Bydd hyn yn eich helpu i weld lle rydych yn gwario’ch arian a gwneud yn siŵr nad ydych yn gorwario ar bethau diangen.
  • Chwiliwch am ffyrdd i arbed arian ar eich costau hanfodol. Mae yna lawer o ffyrdd i arbed arian ar rent, bwyd a chludiant. Er enghraifft, gallwch gael cyd-letywr, coginio gartref a defnyddio cludiant cyhoeddus.
  • Byddwch yn hyblyg gyda'ch cyllideb. Nid yw pethau’n mynd yn ôl y disgwyl bob amser, felly mae'n bwysig bod yn hyblyg gyda'ch cyllideb. Os oes gennych gostau annisgwyl, peidiwch â bod ofn symud arian o gwmpas yn eich cyllideb.

Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch roi blaenoriaeth i'r pethau hanfodol a gwneud yn siŵr eich bod yn gwario'ch arian yn ddoeth.

Nid yw bod yn gynnil yn ymwneud ag amddifadu eich hun. Mae'n ymwneud â bod yn graff gyda'ch arian a gwneud yn siŵr eich bod yn ei wario ar y pethau sy'n bwysig i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i fod yn gynnil fel myfyriwr. Dyma rai awgrymiadau:

  • Ewch ati i greu cyllideb a chadw ati. Bydd hyn yn eich helpu i gadw llygad ar eich gwariant ac osgoi gorwario.
  • Defnyddiwch y llyfrgell. Bydd hyn yn eich helpu i reoli'r gost o gael mynediad at yr holl lyfrau ar eich rhestr ddarllen
  • Cynlluniwch eich prydau bwyd a choginio gartref. Gall bwyta allan fod yn ddrud, felly mae coginio gartref yn ffordd wych o arbed arian.
  • Chwiliwch o gwmpas am y bargeinion gorau. Peidiwch â phrynu'r peth cyntaf a welwch. Cymerwch amser i gymharu prisiau a dod o hyd i'r fargen orau.
  • Defnyddiwch eich gostyngiad i fyfyrwyr, cwponau a thalebau. Mae yna lawer o ffyrdd o gael cwponau a gostyngiadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n manteisio arnyn nhw.
  • Prynwch eitemau ail law. Gallwch ddod o hyd i fargeinion gwych ar eitemau ail-law megis dillad, dodrefn ac offer electroneg.
  • Ceisiwch osgoi gwneud pryniannau byrbwyll. Mae'n hawdd gwario arian heb feddwl pan fyddwch allan yn siopa. Cymerwch amser i feddwl cyn prynu.
  • Peidiwch â bod ofn dweud na. Os nad oes arnoch angen rhywbeth, peidiwch â'i brynu. Mae'n iawn dweud na wrth ffrindiau neu deulu sy'n gofyn i chi wario arian.

Mae bancio yn rhan bwysig o fywyd, a gall fod yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr. Gall cyfrif banc eich helpu i reoli eich arian, cynilo ar gyfer y dyfodol, a chael mynediad at wasanaethau ariannol.

Mae yna lawer o wahanol fanciau a chynhyrchion bancio ar gael, felly mae'n bwysig cymharu eich opsiynau cyn i chi ddewis banc. Dyma rai pethau i'w hystyried wrth ddewis banc:

  • Ffioedd: Mae rhai banciau’n codi ffioedd am bethau megis codi arian o beiriant arian parod, gorddrafftiau, a ffioedd cyfrif misol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis banc sydd â ffioedd rydych chi'n gyfforddus â nhw.
  • Cyfraddau llog: Mae rhai banciau’n cynnig llog ar gyfrifon cynilo, ac eraill ddim. Os ydych chi'n cynilo arian, mae'n bwysig dewis banc sy'n cynnig cyfradd llog cystadleuol.
  • Nodweddion: Mae rhai banciau’n cynnig nodweddion megis bancio symudol, bancio ar-lein a thaliadau digyswllt. Dewiswch fanc sy’n cynnig y nodweddion sydd eu hangen arnoch chi.
  • Gwasanaeth i gwsmeriaid: Os cewch broblem gyda'ch cyfrif banc, mae angen i chi allu cael cymorth yn hawdd. Dewiswch fanc sy’n cynnig gwasanaeth da i gwsmeriaid.

Unwaith y byddwch wedi dewis banc, mae'n bwysig creu cyllideb a chadw llygad ar eich gwariant. Bydd hyn yn eich helpu i reoli eich arian ac osgoi gorwario.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer bancio fel myfyriwr:

  • Agorwch gyfrif banc myfyriwr. Yn aml mae gan gyfrifon banc myfyrwyr ffioedd is a chyfraddau llog gwell na chyfrifon banc arferol.
  • Ewch ati i greu cyllideb a chadw llygad ar eich gwariant. Bydd hyn yn eich helpu i reoli eich arian ac osgoi gorwario.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio gorddrafftiau. Gall gorddrafftiau fod yn ddrud, felly mae'n bwysig eu hosgoi.
  • Gwnewch ddefnydd o wasanaethau bancio ar-lein a bancio symudol. Gall y gwasanaethau hyn ei gwneud hi'n hawdd rheoli eich arian a thalu biliau.
  • Byddwch yn ymwybodol o dwyll. Mae yna lawer o sgamiau sy’n targedu myfyrwyr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol ohonynt.

Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch wneud y gorau o'ch profiad bancio fel myfyriwr.

Cwblhewch gwrs dysgu agored Academi Arian MSE a ddatblygwyd gan Martin Lewis o MoneySavingExpert a'r Brifysgol Agored.

 

 

Rydym yma i'ch helpu chi

Os ydych yn poeni am arian, yna gall cynghorwyr yr Uned Cefnogaeth Ariannol eich helpu yn y ffyrdd canlynol:

  • eich helpu i asesu eich sefyllfa ariannol
  • eich cefnogi i greu cyllideb gwariant a fydd yn diwallu eich anghenion hanfodol
  • gwneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad at yr holl fwrsariaeth Cyllid Myfyrwyr a bwrsariaeth Bangor y gallwch eu hawlio
  • edrych ar ffyrdd y gallwch arbed costau.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwn eich cefnogi a’ch helpu gyda phroblemau ariannol gan gynnwys:

  • cronfa caledi sy’n seiliedig ar brawf modd
  • benthyciadau tymor byr
  • grantiau argyfwng a thalebau bwyd pan fo angen cefnogaeth ar unwaith.

Rydym am i chi allu canolbwyntio ar eich astudiaethau a mwynhau eich amser yn y brifysgol heb orfod poeni am arian.

Ewch i’n tudalennau cyngor ariannol ar y we lle gallwch ddysgu mwy am y ffyrdd penodol y gallwn helpu.

Llawr 1af, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF

CYSYLLTU Â’R UNED CEFNOGAETH ARIANNOL

Llawr 1af, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?