Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr
Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr
Gall myfyrwyr gael eu hunain yn gweithredu fel gofalwyr anweladwy, gan ddarparu lefel sylweddol o gefnogaeth anffurfiol i gyd-fyfyriwr.
Mae’n bwysig iawn felly bod y rhai sy’n helpu yn ymwybodol o’u hanghenion a’u cyfyngiadau eu hunain, a chael cymorth iddynt eu hunain. Gall y Cynghorwyr Iechyd Meddwl rhoi cefnogaeth a chyngor.
Mae bod yno i rywun arall yn rhan o’n dynoliaeth ac mae’n helpu i wneud y byd yn well lle, ond gall rhoi cefnogaeth i rywun arall fod yn flinedig yn emosiynol ac yn rhwystredig, a gall greu pryder sylweddol gan arwain o bosibl at ddicter a chasineb.
Dilynwch y 5 cam yma i sicrhau eich lles eich hun a'i gwneud yn haws rhoi cefnogaeth i eraill:
1. Byddwch yn realistig ynghylch yr hyn y gellwch ei gynnig.
2. Cofiwch am eich cyfrifoldeb i edrych ar eich ôl eich hun. Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi brofi ffrind mor dda ydych drwy roi anghenion eich ffrind o flaen eich rhai eich hun bob amser.
3. Helpwch i adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth. Nid yw'n syniad da i chi fod yn unig neu brif gyfrwng cefnogaeth i'ch ffrind. Gallai'r baich fod yn ormod i chi a gallech golli golwg ar bethau'n wrthrychol hefyd. Eglurwch wrth eich ffrind ei bod yn bwysig bod ganddo/ganddi eraill y gall droi atynt yn ogystal, a bod gennych chithau rywun y gellwch drafod materion efo nhw pan fo angen.
4. Anogwch eich ffrind i geisio cymorth proffesiynol. Gall helpu i edrych beth sy'n eu rhwystro rhag ceisio cymorth, a gall hynny helpu i ddod dros y rhwystrau hynny. Er enghraifft:
- Os ydynt yn meddwl bod mynd at feddyg neu gynghorwr yn arwydd o wendid, anogwch hwy i weld bod ceisio help proffesiynol yn dangos eu bod yn cymryd cyfrifoldeb dros eu lles eu hunain.
- Os ydynt yn poeni bod mynd am sesiynau cynghori yn eu gwneud yn 'od', ceisiwch normaleiddio hynny iddynt. Dywedwch wrth eich ffrind os ydych chi, neu eraill agos atoch, wedi cael cymorth drwy gynghori.
- Os ydynt yn meddwl na fydd hynny o gymorth, anogwch hwy i gadw meddwl agored: nid oes ganddynt unrhyw beth i'w golli drwy fynd at gynghorwr i gael sesiwn gychwynnol, a gallai wneud gwahaniaeth.
- Os oes arnynt ofn cysylltu â rhywun am gymorth, gallech gynnig aros efo nhw tra byddant yn ffonio eu meddyg teulu neu'r gwasanaeth cynghori. Efallai y byddent hefyd yn gwerthfawrogi cynnig i gerdded gyda hwy i'w hapwyntiad.
5. Ceisiwch gymorth i chi eich hun - pan ydych mewn sefyllfa anodd ac yn ansicr sut i'w rheoli, gall cael trafod hynny gyda rhywun arall wneud gwahaniaeth mawr iawn.
Mae’r Cynghorwyr Iechyd Meddwl a’r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr yn cynnig sesiynau cefnogi galw-heibio i fyfyrwyr sy’n cefnogi myfyrwyr eraill. Os ydych chi’n poeni am iechyd meddwl cyd-fyfyriwr ac yr hoffech siarad â rhywun yn gyfrinachol, cysylltwch â cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk neu cynghori@bangor.ac.uk.