Arholiadau ar y gorwel?
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal gweithdy ‘Gwneud eich gorau mewn arholiadau’ ar brynhawn Mercher, 10 Rhagfyr am 2 o’r gloch yn Narlithfa 5, Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae croeso i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Am fanylion pellach a rhai awgrymiadau a all fod o gymorth i roi hwb i’ch adolygu, ewch i: http://studyskills.bangor.ac.uk/events.php.cy
Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar strategaethau adolygu a thechneg arholiad. Byddwn yn archwilio dulliau llwyddiannus o baratoi ar gyfer arholiadau ac yn ystyried sut fedrwch chi anelu’n uwch yn ystod yr arholiadau, drwy edrych ar beth i’w wneud ar ddiwrnod yr arholiad ei hun.
Os na fedrwch chi fynychu’r gweithdy y tro hwn, mae gan wefan y Ganolfan Sgiliau Astudio (http://studyskills.bangor.ac.uk/study_exams.php.cy) lawer o wybodaeth i’ch helpu chi i lwyddo yn eich arholiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2014