UWB Crest

Astudio Ôl-raddedig mewn Seicoleg

Graddau Meistr

Image of a group of graduates

Mae gan yr Ysgol gymuned fywiog a chynyddol o fyfyrwyr Meistr, ac yn cynnig nifer o gyrsiau a ddisgrifir yn fyr isod. Bydd yr adran hon yn rhoi cyfle ichi gymryd golwg fanwl ar ein darpariaeth ar gyfer graddau Meistr, fel y gellwch benderfynu pa raglen sydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau.

**Bwrsariaethau ar gael ar gyfer astudiaeth ôl-radd – cliciwch yma.**

MSc Ymchwil Seicolegol

Mae’r radd Meistr hon yn adlewyrchu ymrwymiad yr Ysgol wrth ddyfodol proffesiynol myfyrwyr sy’n gorffen eu gradd gyntaf. Yn y cwrs Meistr hwn, rydym yn cyfuno cyfres o fedrau arbenigol a throsglwyddadwy sy’n hollbwysig ar gyfer eich dyfodol proffesiynol fel seicolegydd. Gall myfyrwyr ddewis dilyn cwrs cyffredinol neu, wrth ddewis rhai opsiynau, gael MSc gydag un o’r arbenigeddau isod:
• Dwyieithrwydd
• Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd
• Niwrowyddoniaeth Glinigol
• Niwrowyddoniaeth Wybyddol
• Niwrowyddoniaeth Wybyddol ym maes Iaith

MA Seicoleg

Cwrs newydd yw hwn, sydd â’r bwriad o gynnig astudiaeth uwch mewn Seicoleg gyda phwyslais ar ragoriaeth mewn ymchwil a hefyd ar fedrau ysgrifennu creadigol. Yn dilyn dau semester o astudiaeth of academaidd, mae myfyrwyr yn ysgrifennu adolygiad annibynnol ar lenyddiaeth ym maes seicoleg sydd o ddiddordeb penodol iddynt. Gall myfyrwyr ddewis dilyn cwrs cyffredinol neu, wrth ddewis rhai opsiynau penodol, gael MA gydag un o’r arbenigeddau isod:
• Seicoleg Gymhwysol
• Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd
• Niwrowyddoniaeth Wybyddol
• Seicoleg Arbrofol Defnyddwyr
• Dysgu, a Datblygiad Iaith

MRes Seicoleg

Mae'r cwrs yma wedi ei anelu at fyfyrwyr o'r radd flaenaf (sydd efallai gyda nod ymchwil penodol mewn golwg) sy'n barod i gyflawni ymchwil annibynnol ym maes Seicoleg sy'n arwain at astudiaeth PhD, neu sydd eisiau cymhwyster ymchwil arunig. Mae'n wahanol i radd Feistr traddodiadol gan fod llai o fodiwlau wedi eu dysgu ac mae mwy o bwyslais ar y traethawd hir.

MSc Sylfeini Seicoleg Glinigol

Mae’r cwrs Meistr hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n awyddus i gael hyfforddiant ar lefel doethurol mewn seicoleg glinigol (Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol neu PhD mewn Ymchwil Glinigol). Mae’r Cwrs yn gosod sylfaen academaidd gref mewn meysydd sy’n gymorth ar gyfer astudiaeth uwch ym maes seicoleg glinigol. Gyda’r radd Meistr hon, cewch fwy o brofiad, gan wella, trwy hynny, eich gobeithion o gael eich derbyn ar y rhaglen Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol. Sylwch – nid yw’r cwrs yn cyfrif fel hyfforddiant proffesiynol mewn seicoleg glinigol.

MA/MSc Sylfeini Niwroseicoleg Glinigol

Mae’r MSc yn Sylfeini Niwroseicoleg Glinigol yn anelu at roi i fyfyrwyr sylfaen wybodaeth gref mewn niwroseicoleg glinigol fel sylfaen ar gyfer ymchwil, hyfforddiant clinigol, neu ymarfer proffesiynol yn y maes.

MSc/MA Seicoleg Defnyddwyr gyda Busnes

Mae cyfuniad y ddwy ddisgyblaeth yn y cwrs hwn yn un naturiol, gan y gall deall ymddygiad, yn enwedig ymddygiad defnyddwyr ym myd busnes, fod yn dyngedfennol bwysig i lwyddiant sefydliad. Yn yr oes sydd ohoni, mae ar sefydliadau angen pobl dra hyfforddedig a all eu helpu i ddeall eu cwsmeriaid a deall materion megis: beth sy’n gwneud iddynt ddewis un cynnyrch yn hytrach nag un arall? A yw enwau brand a hysbysebu’n cael effaith wirioneddol ar ein ffordd ni o feddwl? A fydd y rhyngrwyd yn newid wyneb mannau siopa trefol a maestrefol? Gall ymgeiswyr ddewis rhwng llwybrau MA neu MSc, sy’n wahanol trwy nodweddion y traethawd hir. Bydd traethawd hir yr MSc yn gofyn am wneud ymchwil empeiraidd, tra bydd traethawd hir yr MA yn gofyn am adolygiad llenyddol estynedig.

MSc Dadansoddiad Cymhwysol ar Ymddygiad

Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at y rhai sy’n dymuno arbenigo mewn dadansoddiad cymhwysol ar ymddygiad, neu mewn seicoleg gymhwysol. Bwriad y cwrs yw datblygu gwybodaeth theoretig uwch ac ymarferol o egwyddorion sylfaenol dadansoddi ymddygiad a chymhwyso’r egwyddorion o fewn sefyllfaoedd clinigol ac ymchwil. Mae’r rhaglen wedi’i datblygu gan Ddadansoddwyr Ymddygiad a Ardystiwyd gan y Bwrdd (BCBA) gan gydweithredu â’r Bwrdd Ardystio Dadansoddwyr Ymddygiad, (BACB,); mae’n ymdrin â’r cyfan o fanylion eu Rhestr Dasgau ac mae’r BACB yn cydnabod ei bod yn ateb y meini prawf sy’n angenrheidiol, o ran ei chynnwys, i ymgeiswyr sefyll arholiad llawn y BCBA.

MSc dulliau sy’n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae’r MSc mewn Dulliau sy’n Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (DYO) yn anelu at roi i fyfyrwyr sylfaen wybodaeth gref, o ran profiad a theori, mewn DYO fel sail ar gyfer ymarfer proffesiynol, addysgu ac ymchwil yn y maes.

MSc Niwroddelweddu

Mae'r MSc hwn yn un o'r ychydig raglenni sy'n cael eu cynnig ym Mhrydain ac mae'n rhagorol yn ei ffocws ar agweddau Niwroddelweddu. Mae'r rhaglen wedi ei dylunio i ddarparu gwybodaeth gefndirol a sgiliau technegol i fyfyrwyr.