Fy ngwlad:
Chwaraeon

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Rydym wedi bod yn darparu addysg ragorol a phrofiad myfyrwyr eithriadol ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff ers 1978. Mae gennym enw da byd-eang am gynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf a graddedigion medrus sy’n gwneud effaith sylweddol ar chwaraeon elît, gofal iechyd a busnes.

Diwrnod Agored  Ein Cyrsiau   Gweminarau  

Fideo Swyddogol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Bangor

Siot o gwfn gwlad eryri a'r mynyddoed gwyrdd, awyr las, a Llyn Nantlle yn y gwaelod

Graddau Israddedig

Rydym wedi cynllunio ein graddau o amgylch yr hyn rwyt ti am ei gyflawni. Yn angerddol am addysgu? Mae ein gradd Chwaraeon ac Addysg Gorfforol yn dy baratoi'n berffaith ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion i addysgu Addysg Gorfforol Safon Uwch. Caru'r awyr agored? Mae Gwyddorau Chwaraeon Antur yn rhoi i ti sgiliau technegol a'r gallu i addysgu mewn disgyblaethau ar y dŵr ac yn y mynyddoedd.

Mae dy ddiddordebau'n llunio dy lwybr – rydyn ni'n sicrhau dy fod di'n barod amdano.

Gweld ein Cyrsiau

Graddau Rhyngosodol

Astudio meddygaeth yn barod? Rydym yn cynnig rhaglenni BSc sy'n dy alluogi i arbenigo mewn gwyddor chwaraeon neu wyddor chwaraeon clinigol. Byddi di’n ennill arbenigedd sy'n pontio meddygaeth a pherfformiad, gan agor cyfleoedd gyrfaoedd newydd.

Gweld ein Cyrsiau

Academydd mewn du Crys T Gwyddor Chwaraeon Bangor yn gwneud gwaith labordy yn gwenu ar y cyfrifiadur

Pam Astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer?

Gwyddorau chwaraeon ac ymarfer yw lle mae angerdd yn cwrdd â phwrpas. Rydym yn defnyddio egwyddorion gwyddonol i helpu pobl i symud yn well, perfformio ar eu gorau, a byw bywydau iachach.

Mae'r maes hwn yn tyfu'n gyflym – mae'n dod yn un o'r pynciau mwyaf poblogaidd ledled y Deyrnas Unedig ac o gwmpas y byd. Mae myfyrwyr yn ei ddewis oherwydd eu bod yn gallu gweld yr effaith wirioneddol y mae'n ei chael, o berfformiad elît i lesiant beunyddiol.

Dydyn ni ddim yn astudio sut mae'r corff yn gweithio yn unig – rydyn ni'n darganfod sut i wneud iddo weithio'n well.

Myfyriwr mewn crys t coch ar beiriant rhedeg efo masg ar ei wyneb

Datblygu eich gyrfa Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor

Ym Mangor, mae ein hymchwilwyr yn gweithio gyda phartneriaid diwydiant i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn, ac maent yn dod â’r profiadau hynny i’ch ystafell ddosbarth. Felly, rydych yn astudio mwy na Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, rydych yn adeiladu’r sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Os ydych yn barod i wneud gwahaniaeth ym maes chwaraeon, iechyd a pherfformiad dynol, yma mae eich taith yn dechrau. Darganfyddwch beth mae ein graddedigion yn ei wneud  a dysgwch fwy am gyfleon lleoliadau gwaith ac interniaethau.
 

 

Gwylio - Astudio Gwyddorau Chwareon ac Ymarfer

Dau fyfyriwr yn rhedeg ar y trac yn Nhreborth

Cyfleusterau Chwaraeon Bangor

Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnat ti i aros yn egnïol a gwthio dy derfynau. Mae ein cyfleusterau dan do ac awyr agored yn barod ar gyfer beth bynnag sydd orau gen ti – o hyfforddiant pwysau ac aerobeg i athletau a dringo dan do.

P'un a wyt ti'n hoff o griced dan do, tenis, sboncen, neu drampolinio, neu bod well gennyt ti'r caeau awyr agored ar gyfer pêl-droed, rygbi a hoci, mi gei di hyd i dy le yma. Dyma lle byddi di'n hyfforddi, yn cystadlu, ac yn darganfod pethau newydd i fod yn frwd amdanynt

Taith Rithiol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prifysgol Bangor

Cadw Mewn Cysylltiad Â'n Cymuned 

Sgwrsio Gyda Staff Gwyddor Chwaraeon

Jamie Macdonald yn edrych i'r camra

Yr Athro Jamie Macdonald

Athro Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer

Sgwrsio  MIproffil

Picture of Sophie Harrison

Dr Sophie Harrison

Darlithydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer

 

Sgwrsio  MI

Dr Stuart Beattie

Dr Stuart Beattie

Darllenydd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Cyfarwyddwr y Cwrs Seicoleg Perfformiad (Dysgu o Bell).

Sgwrsio  MI proffil

Llun proffil o Geoff Coombs

Geoff Coombs

Darlithydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer

 

Sgwrsio  MI

Myfyriwr yn gwisgo gêr Profi Dygnwch Perfformiad yn y labordy ym Mhrifysgol Bangor

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Ymchwil ac Effaith Gwyddor Chwaraeon

Rydyn ni’n 1af yng Nghymru ac yn 5fed yn y Deyrnas Unedig am ymchwil mewn Gwyddorau Chwaraeon, gyda 100% o’n gwaith wedi sgorio naill ai gyda'r gorau yn y byd neu’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2021).

Nid ar bapur yn unig y mae hyn yn drawiadol – mae'n trawsnewid dy ddysgu. Byddi di'n gweithio'n uniongyrchol gydag ymchwilwyr sy'n cynghori Chwaraeon y Deyrnas Unedig, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn ystod dy radd, byddi di’n gwneud dy ymchwil dy hun dan oruchwyliaeth mewn meysydd fel Seicoleg Perfformiad Elît, Amgylcheddau Eithafol, neu Weithgarwch Corfforol a Llesiant.

Byddi di’n cyflwyno dy ganfyddiadau yn ein Cynhadledd Myfyrwyr – profiad arbennig sy'n datblygu'r sgiliau datrys problemau, dadansoddi a chyfathrebu y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Dydyn ni ddim yn dy ddysgu di am ymchwil yn unig; rydyn ni'n dy wneud di'n ymchwilydd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.