5 Rheswm i Astudio Seicoleg ym Mangor
Mae seicoleg yn datgelu cymhlethdodau rhyfeddol am y ffyrdd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Fe gei di ddarganfod beth sy'n sbarduno ymddygiad dynol ac archwilio'r cysylltiadau cymhleth rhwng ein meddyliau, ein hemosiynau a'n gweithredoedd.
Rydym yn mynd ati’n weithredol i archwilio seicoleg yr ymennydd a’r meddwl drwy gydol bywyd. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar:
- Datblygiad trwy gydol y rhychwant oes
- Dealltwriaeth o’r duedd i gael cyflyrau iechyd meddwl
- Prosesau gwybyddol sy'n llunio ein meddwl
- Sut rydym yn deall ac yn defnyddio iaith
- Cefnogi heneiddio iach
- Hyrwyddo deallusrwydd artiffisial
- Creu newid ymddygiad ystyrlon
Er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiynau mawr hyn, mae angen i ni ddeall SUT mae'r ymennydd yn gweithio mewn gwirionedd. Byddi di’n archwilio ffisioleg y meddwl wrth ddysgu ffyrdd ymarferol o gefnogi a hyrwyddo lles meddyliol.
Mae ein labordai yn rhoi profiad ymarferol i ti gyda thechnolegau o'r radd flaenaf. Byddi di’n gweithio fel cyfranogwr ac ymchwilydd, gan ddefnyddio Potensial Digwyddiad-Berthynol (ERP), meddalwedd tracio’r llygaid, ac Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS). Ni yw un o’r unig adrannau seicoleg yn y Deyrnas Unedig gyda’n sganiwr MRI ein hunain, gan alluogi i chi archwilio gweithrediad yr ymennydd ac ymchwil ffisioleg yn fanwl.
Rydym hefyd yn arwain y maes o ran technegau therapiwtig. Byddi di'n hyfforddi mewn dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel ymwybyddiaeth ofalgar, therapi ymddygiad gwybyddol, a therapi ymddygiad dialectig, gan dy baratoi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
Mae astudio Seicoleg ym Mangor yn trawsnewid sut rwyt ti'n deall ymddygiad dynol a phrosesau meddyliol. Byddi di’n darganfod sut mae'r meddwl a'r corff yn rhyngweithio i ddylanwadu ar ymddygiad wrth archwilio'r datblygiadau diweddaraf mewn seicoleg gan ddefnyddio ein cyfleusterau a'n labordai o'r radd flaenaf.
Rydym yn darparu ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol wrth roi profiad myfyriwr dan arweiniad ymchwil sy'n wirioneddol eithriadol i ti. O Flwyddyn 1, byddi di'n profi ein cyfleusterau a'n labordai arloesol fel cyfranogwr ymchwil israddedig. Erbyn Blwyddyn 3, ti fydd yr ymchwilydd, gan gasglu dy ddata dy hun ar gyfer dy draethawd hir yn ein cyfleusterau o safon fyd-eang.
Mae ein modiwl 'Yr Ymennydd a’r Meddwl' ym Mlwyddyn 1 yn cynnig rhywbeth na fyddi di'n dod o hyd iddo yn unman arall - y cyfle unigryw i ddal ymennydd dynol. Mae'r profiad ymarferol hwn yn dy gysylltu'n uniongyrchol â'r organ anhygoel sy'n creu popeth rydyn ni'n ei astudio mewn seicoleg.
Mae dy radd Seicoleg yn datblygu dy allu i ddadansoddi data gwyddonol wrth feithrin sgiliau meddwl beirniadol a datrys problemau. Rydyn ni’n un o'r prifysgolion gorau am Seicoleg yn y Deyrnas Unedig, gyda'n hymchwil (86% wedi'i disgrifio fel un sydd o safon fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol - REF 2021) yn bwydo'n uniongyrchol i dy ddysgu. Byddi di’n profi dysgu bywiog gydag academyddion o’r radd flaenaf yn fyd-eang.
Mae dosbarthiadau bach mewn sesiynau ymarferol a sesiynau galw heibio rheolaidd ar gyfer ystadegau a sgiliau yn rhoi cysylltiad clos i ti â’r staff academaidd sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ymchwil.
Mae ein Sesiynau Ymarfer Cyflwyniadau Llafar Seicoleg (POPS) unigryw yn datblygu dy sgiliau cyfathrebu a meithrin yr hyder i rannu dy ymchwil gyda'r byd.
Mae deall seicoleg yn agor drysau ar draws llwybrau gyrfa amrywiol mewn gwaith cymdeithasol, gofal iechyd ac addysgu. Byddi di’n ehangu dy sgiliau trwy brojectau ymchwil ymarferol wrth astudio, gan ddatblygu galluoedd y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
Mae 85% o'n graddedigion yn gweithio neu'n dilyn astudiaeth bellach o fewn 15 mis (Discover Uni) - rydym yn dy baratoi ar gyfer llwyddiant.
Rydyn ni’n cynnig cyrsiau seicoleg, gan gynnwys graddau BSc, MSc a PhD. Cei deilwra dy radd yn ôl dy ddiddordebau a'th ddyheadau o ran dy yrfa. Mae ein graddau’n creu llwybrau at astudiaethau arbenigol, gan gynnwys ein gradd MSc mewn Cwnsela, cyrsiau ôl-radd mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar a Therapi Ymddygiad Dilechdidol, neu ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol. Ein rhaglen hyfforddiant Doethurol oedd y gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig.
Rydym yn cefnogi datblygiad dy yrfa gyda chyfleoedd rhwydweithio a chyngor personol un-i-un i'th helpu i lwyddo.
Mae astudio Seicoleg yn dyfnhau dy ddealltwriaeth o'r amrywiol ffyrdd y mae pobl yn meddwl, teimlo ac ymddwyn, a sut mae'r gwahaniaethau hyn yn siapio ein profiadau. Byddi di’n datblygu parch a chydymdeimlad tuag at bobl â chredoau, gwerthoedd a chefndiroedd gwahanol, ac yn gwerthfawrogi'r safbwyntiau unigryw a ddaw yn eu sgil.
Mae'r wybodaeth hon yn dy helpu i ddeall dy hunaniaeth dy hun ochr yn ochr â hunaniaethau pobl eraill, gan feithrin gwerthfawrogiad cyfoethocach o amrywiaeth ddynol.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynwysoldeb ac amrywiaeth ar draws bywyd prifysgol. Rydym yn hyrwyddo parch at bawb waeth beth fo'u rhyw, rhywioldeb, hil, ethnigrwydd, anabledd, oedran, crefydd neu statws.
Mae gan Seicoleg wobr Efydd Athena Swan, a thrwy gynrychiolwyr myfyrwyr, rydym yn ymgorffori eich lleisiau wrth ddatblygu a chefnogi ein cyrsiau. Rydym yn mynd i'r afael â'r materion mawr sy'n wynebu dynoliaeth yn yr 21ain ganrif - os yw hyn yn dy ysbrydoli, gallai Seicoleg ym Mangor fod yn gam nesaf i ti.
Gwyliwch - Seicoleg ym Mangor
Pam astudio Seicoleg?
Mae Seicoleg yn faes difyr ofnadwy, mae o’n ymwneud â phob un agwedd o’n bywydau ni. Nid yn unig sut ‘da ni’n datblygu a’n heneiddio, ond hefyd sut ‘da ni’n dysgu ac ymateb i heriau yn ein bywydau bob dydd.
Mae’r perthynas rhwng y staff academaidd a’r myfyrwyr yn un unigryw iawn. Mae’r dosbarthiadau’n llai hefyd sy’n grêt o ran gallu gofyn cwestiynau, cynnal trafodaeth.
‘Da ni’n teimlo fod neb yn cael eu colli a does ‘na neb yn cael eu gadael ar ôl.
Nid yn unig mae ein cyrsiau wedi eu cymeradwyo gan y BPS, ond hefyd mi fyddwch chi’n cael eich dysgu gan lu o ddarlithwyr ac ymchwilwyr sydd wir yn arwain yn y meysydd y maent yn rhagori ynddynt.
Mae’r ymchwil a’r modiwlau niwrowyddoniaeth wedi gwneud i mi eisiau dilyn gyrfa mewn ymchwil. Yn enwedig y modiwl Datblygiad yr Ymennydd.
Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, bydd pawb yn dilyn yr un modiwlau. Hyd at tua hanner ffordd trwy’r ail flwyddyn, mae ‘na ddigon o hyblygrwydd i chi i newid eich cwrs ar gyfer llwybr arall. Yn y drydedd flwyddyn wedyn, mae’r arbenigedd yn cicio i mewn.
Byddwch wir yn gallu cael gafael ar y pynciau, y modiwlau a’r projectau rydych chi yn diddori ynddynt.
Mae’r cyfle i ddadansoddi’r ymennydd, sydd ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, ar y cwrs Seicoleg yn hollol unigryw i Fangor.
Doeddwn i byth yn meddwl byswn i’n cael gafael ar ymennydd go iawn. Dwi’n cyfeirio’n ôl at y profiad pan dwi’n eistedd mewn darlith yn dysgu am yr ymennydd.
Un o’r pethau rydym yn ei gynnig i’n myfyrwyr yma ym Mangor ar hyd eu gradd ydi’r cyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu a’ch sgiliau cyflwyno cyhoeddus. Mae hwn yn rhywbeth sydd wir yn gwneud i’n graddedigion ni i sefyll allan.
Dwi ddim yn siaradwr cyhoeddus grêt ond fedra i rŵan sefyll o flaen myfyrwyr i siarad hefo nhw sydd bendant yn rhywbeth sydd wedi datblygu o’r sesiynau POPPS.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â gradd Seicoleg yn mynd ymlaen i wneud gyrfa hollol wahanol i Seicoleg. Enghreifftiau o’r rhain ydi’r byd addysg, y byd iechyd meddwl, y byd clinigol a hefyd hyd yn oed dadansoddi data. Mae un neu ddau o’n myfyrwyr ni wedi mynd ymlaen i weithio hefo Google a Meta.
Mae 'na dîm penodol yn yr Ysgol Seicoleg sy’n gyfrifol am gyflogadwyedd.
Rydym hefyd yn cynnig interniaethau ymchwil yn ystod y tair blynedd.
Mae’r byd o’n cwmpas ni yn newid yn gyflym iawn ac mae ‘na lawer o heriau seicolegol yn ein hwynebu ni rŵan a bydd y rhain yn parhau i’r dyfodol.
‘Da ni yma ym Mangor yn chwilio am y genhedlaeth newydd o seicolegwyr sydd yn mynd i fod yn ymdrin â phobl a meddwl am sut fedrwn ni symud y maes yn ei flaen, gweithio yn y ffordd fwyaf gwyddonol â phosib, a sicrhau ein bod yn gwneud y gorau y gallwn ni ar gyfer pobl yn ein cymdeithasau ni.
Os ydych chi’n barod am yr her yna, dewch i Fangor.
Rydym yn disgwyl amdanoch chi a’n edrych ymlaen at weithio hefo chi.
Graddau achrededig Cymdeithas Seicoleg Prydain (BPS)
Mae dy lwybr i ddod yn seicolegydd proffesiynol yn dechrau gyda'r sylfaen gywir. Bydd angen aelodaeth graddedigion o Gymdeithas Seicolegol Prydain arnat, ac mae angen achrediad BPS ar gyfer dy radd i gyrraedd yno.
Mae pob gradd anrhydedd mewn Seicoleg ym Mangor yn cario'r achrediad hanfodol hwn. Rydym yn sicrhau dy fod yn astudio'r holl gynnwys sy'n angenrheidiol ar gyfer aelodaeth graddedigion, gan dy baratoi am lwyddiant proffesiynol o'r diwrnod cyntaf.
Mae achrediad BPS yn gwarantu safonau addysgu eithriadol ac yn sicrhau bod ein harferion asesu yn deg, yn dryloyw, ac yn gynhwysol i bob myfyriwr. Rydym yn cynnal y cymarebau staff-i-fyfyrwyr gorau posibl, gan roi mynediad uniongyrchol i ti at staff darlithio o ansawdd uchel sy'n weithgar ym maes ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu meysydd.
Mae dy radd achrededig gan y BPS yn cwmpasu pob maes seicoleg craidd wrth ddatblygu sgiliau penodol i'r pwnc trwy ein modiwlau craidd cynhwysfawr a dewisol. Byddi di’n gwneud astudiaethau empirig, gan gasglu a gwerthuso dy ddata dy hun ochr yn ochr â'r ymchwil weithredol sy'n digwydd yn ein Hysgol - gan dy droi'n ymchwilydd medrus sy'n barod ar gyfer dy daith broffesiynol.
Ymdrinnir â phob un o’r canlynol yn ein cwricwla er mwyn sicrhau sail am aelodaeth siartredig i raddedigion:
- Seicoleg Fiolegol – sail niwroseicolegol a biolegol gweithrediad ac ymddygiad yr ymennydd.
- Seicoleg Wybyddol – astudio sut rydym yn meddwl, yn dysgu, yn cyfathrebu â'n gilydd ac yn y blaen.
- Seicoleg Ddatblygiadol – datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol trwy gydol oes, rhwng babandod a henaint.
- Gwahaniaethau unigol – pwnc eang sy’n ymdrin â sut a pham rydym yn wahanol i’n gilydd o ran deallusrwydd, personoliaeth, emosiwn ac iechyd meddwl.
- Seicoleg Gymdeithasol – pob agwedd ar ryngweithio dynol, o ddeinameg grŵp i arddulliau arwain a sut a pham y gall pobl gydymffurfio ag awdurdod.
- Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg – astudiaeth o seicoleg fel gwyddor, gan gynnwys patrymau a methodolegau hanesyddol a thrafodaeth ar faterion gwleidyddol a moesegol ym maes seicoleg.
- Dulliau ymchwil – sgiliau casglu a dadansoddi data sy’n caniatáu cymhwyso safbwyntiau lluosog i gwestiynau ym maes seicoleg
- Project empirig – darn sylweddol o ymchwil sy’n cynnwys casglu a dadansoddi data gwreiddiol.
Cyfleoedd gyrfa mewn Seicoleg
Fel myfyriwr graddedig gyda gradd dda mewn Seicoleg o Brifysgol Bangor, bydd amrywiaeth o yrfaoedd ar gael i ti.
Mae gradd seicoleg (gyda Sylfaen Graddedigion ar gyfer Aelodaeth Siartredig) yn hanfodol mewn rhai swyddi, ac mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn rhoi statws siartredig yn y meysydd canlynol:
- Seicolegwyr clinigol
- Seicolegwyr cwnsela
- Seicolegwyr addysgol
- Seicolegwyr fforensig
- Seicolegwyr iechyd
- Niwroseicolegwyr
- Seicolegwyr galwedigaethol
- Seicolegwyr Chwaraeon ac Ymarfer
- Athrawon ac ymchwilwyr seicoleg
Mae yna hefyd yrfaoedd lle mae cefndir mewn seicoleg yn fuddiol:
- hyfforddiant rheoli
- cyfrifeg
- addysgu
- nyrsio
- gwaith cymdeithasol
- yr heddlu
- y lluoedd arfog
Mae cyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi'r sgiliau trosglwyddadwy y byddi di’n eu dysgu; megis rhifedd, llythrennedd, a sgiliau rhyngbersonol, yn ogystal â'th ddealltwriaeth o ymddygiad dynol. Fel myfyriwr graddedig o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, bydd gennyt gyfuniad unigryw o'r rhain.
Taith Rithiol Seicoleg Prifysgol Bangor
Adeilad Brigantia
Mae Adeilad Brigantia ar Ffordd y Coleg yn gartref i swyddfeydd academaidd a gweinyddol ar gyfer Seicoleg. Bydd israddedigion Seicoleg yn ymweld â Brigantia pan fydd angen iddynt gwrdd â thiwtoriaid personol a goruchwylwyr prosiect, yn ogystal â phan fyddant yn tueddu i wahanol agweddau gweinyddol ar fywyd myfyriwr.
Uned Ddelweddu Bangor
Mae gan yr Adran Seicoleg ei chyfleuster ymchwil MRI/fMRI ei hun yn adeilad Brigantia. Mae’r cyfleusterau yn Uned Ddelweddu Bangor yn cynnwys sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig 3 Tesla pwrpasol ar gyfer ymchwil ac addysgu, EEG sy’n gydnaws â MRI, ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS), systemau cyflwyno ysgogiad, a systemau olrhain llygaid. Yn ogystal â MRI anatomegol a swyddogaethol, mae’r sganiwr wedi’i gyfarparu ar gyfer delweddu cardiaidd, tensor tryledol (DTI) a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS).
Canolfan Dyslecsia Miles
Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn darparu cefnogaeth ac asesu addysgu iaith a llythrennedd i blant ac oedolion. Mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud ymchwil i sail niwrowybyddol ac ymddygiadol darllen ac ysgrifennu. Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn cynnwys tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr addysgol sy’n datblygu arferion gorau o ran addysgu ac asesu, ynghyd ag ymchwil wyddonol flaengar.
Adeilad Lloyd
Mae Adeilad Lloyd ar Ffordd y Coleg yn gartref i nifer o wahanol labordai ymchwil a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr Adran Seicoleg Prifysgol Bangor.
Labordy Tracio Llygaid
Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau tracio llygaid mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y labordy Tracio Llygaid Mynediad Agored yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus, monitorau HD LCD, Microffon Lleisiol Cardioid Dynamig Ultravoice, cymysgydd sain, a chlustffonau dros y glust.
Mae tracwyr llygaid yn gweithio trwy ddefnyddio golau isgoch i dracio safle’r llygaid. Yn y labordy hwn, mae crud i orffwys gên hefyd ar gael i helpu i sefydlogi pen y cyfranogwr ac i sicrhau bod eu llygaid ar y pellter cywir o’r traciwr llygaid.
Labordy Seicoleg Electroffisioleg a Thopograffeg (Labordy POET)
Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau electroffisioleg a thopograffeg mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y Labordy Electroffisioleg a Thopograffeg Mynediad Agored (POET) Seicoleg yn cynnwys system mesur biopotensial cydraniad uchel aml-sianel ActiveTwo gan BioSemi, electrodau gweithredol math pin, capiau pen EEG. Mae’r labordy hefyd yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus ar gyfer mesuriadau EEG gyda thracio llygaid ar yr un pryd.
Yn y labordy POET, mae cyfranogwyr yn cael eu profi y tu mewn i gaets Faraday a warchodir yn electronig lle caiff seiniau eu lleihau. Defnyddir caetsys Faraday i wella ansawdd data EEG trwy rwystro ymyrraeth signal electromagnetig o’r ystafell fesur.
Yn y labordy hwn, mae yna hefyd gamerâu a system intercom ar gael i ymchwilwyr wirio’r cyfranogwyr yn rheolaidd yn ystod y sesiwn brofi. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r cyfranogwyr yn teimlo’n rhy ynysig o’r byd tu allan tra byddant yn yr ystafell brofi.
Yn yr ystafell reoli, mae tri chyfrifiadur bwrdd gwaith wedi’u neilltuo i ddadansoddi data.
Labordy Dal Symudiad
Mae gan yr Adran Seicoleg labordy golwg 3-D a swyddogaeth llaw sy’n cynnwys system dal symudiad Qualisys Miqus i fesur symudiadau llaw yn fanwl gywir, yn ogystal ag amrywiol ddarnau pwrpasol o offer, gan gynnwys arddangosfeydd gweledol ar gyfer cyflwyno ysgogiadau gweledol 3-D rhithiol, ac offer a phrosthesis ffug ar gyfer astudio’r defnydd o ddyfeisiau mecanyddol.
Adeilad Wheldon
Mae’r lolfa yn Adeilad Wheldon yn cynnwys argraffydd, peiriant gwerthu, ac opsiynau eistedd cyfforddus, lle gall myfyrwyr eistedd a sgwrsio â’u cyfoedion cyn eu dosbarthiadau, neu astudio mewn awyrgylch hamddenol.
Labordy Cyfrifiaduron
Mae labordy cyfrifiaduron Adeilad Wheldon yn gyfleuster amlbwrpas sy’n cynnwys 80 o gyfrifiaduron. Mae’r labordy hwn yn cefnogi ystod o sesiynau ymarferol, megis ystadegau ac ysgrifennu academaidd.
Pontio
Pontio yw canolfan gelfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Mae rhai o’r modiwlau a gynigir gan yr Adran Seicoleg yn cael eu cyflwyno ar Lefel 5 Pontio, darlithfa fawr sydd â lle i hyd at 450 o fyfyrwyr.
Sganiwr MRI
Wrth ddefnyddio’r sganiwr MRI i dynnu delweddau o’r ymennydd, mae’n hollbwysig bod cyfranogwyr yn cadw eu pen (a’u corff) mor llonydd â phosibl. Mae adeilad Brigantia yn gartref i ffug-sganiwr o’r radd flaenaf sydd â system sain i chwarae synau sganiwr, a MoTrak, meddalwedd sy’n caniatáu tracio symudiadau pen manwl. Mae’r ffug-sganiwr wedi’i gynllunio i ymgyfarwyddo cyfranogwyr, yn enwedig plant, â bod yn amgylchedd y sganiwr.
Labordy Arddangos Stereeosgopig Aml-Ganolbwynt
Mae’r labordy hwn yn cynnwys arddangosfa stereosgopig 3-D prototeip unigryw a gynlluniwyd i ymchwilio i sut rydym yn gweld mewn 3-D ac yn arbennig i archwilio atebion i broblemau amrywiol a brofir wrth ddefnyddio cyfryngau megis systemau VR, ffilmiau 3-D ac ati. Yn ogystal â mesurau canfyddiadol o ganfyddiad dyfnder, gall y system fesur ble mae’r llygaid yn edrych, a’r pellter y mae lens y llygad yn canolbwyntio arno. Mae’r arbrofion yn ei gwneud yn ofynnol mai dim ond yr ysgogiadau arbrofol sy’n weladwy, ac felly mae’r ystafell yn cael ei duo pan fydd yn cael ei defnyddio.
Lab Tîm Electroffisioleg Iaith Prifysgol Bangor
Mae adeilad Brigantia yn gartref i labordy EEG o’r radd flaenaf sy’n cynnwys dau fwth profi, gan gynnwys systemau BioSemi ar gyfer mesur bio-botensial cydraniad uchel, a monitorau CRT ar gyfer arddangos ysgogiadau gweledol yn ystod sesiynau profi. Mae gan y labordy hefyd nifer o gapiau EEG. Mae’r bythau profi wedi’u cynllunio i ddarparu amgylchedd tawel a rheoledig ar gyfer casglu data. Gall ymchwilwyr hefyd fonitro cyfranogwyr yn ystod sesiynau profi gan ddefnyddio camerâu a system intercom i sicrhau eu diogelwch a’u cysur.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Seicoleg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Seicoleg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Seicoleg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Secioleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Dilynwch ni
Darllenwch y diweddaraf gan Seicoleg Bangor a Phrifysgol Bangor.
Ein hymchwil o fewn Seicoleg
Mae ein hymchwil yn adlewyrchu dau ddull allweddol. Y cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hŷn. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil heddiw.
Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.