Uniondeb Ymchwil

Arweinwyr a gwasanaethau academaidd dynodedig

Fel un o brif flaenoriaethau'r Tîm Gweithredu, mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol wedi creu swyddogaethau gweinyddol ffurfiol er mwyn gofalu am uniondeb ymchwil ac egwyddorion gwyddoniaeth agored. Mae’r rhain yn cynnwys:

Yn ogystal, mae gan Brifysgol Bangor nifer o endidau sydd wedi ymrwymo i welliant ac uniondeb ymchwil, gan gynnwys y Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig, a'r Ganolfan Cydweithredu a Rheoli Data Ymchwil a o fewn yr adran Llyfrgell ac Archifau.

Cysylltiadau

O fewn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ceir rhwydwaith lleol o'r UK Reproducibility Network (UKRN): “Consortiwm dan arweiniad cymheiriaid sy’n ceisio sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn ganolfan ar gyfer ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd, drwy ymchwilio i’r ffactorau sy’n cyfrannu at ymchwil gadarn, hyrwyddo gweithgareddau hyfforddi a lledaenu’r arferion gorau, a gweithio gyda rhanddeiliaid allanol – sefydliadau sy’n yn rhan o’r ecosystem ymchwil ehangach – i sicrhau cydgysylltu ymdrechion ar draws y sector.” Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol hefyd gysylltiad â nifer o fentrau ar lawr gwlad megis ReproducibiliTea, y ceir cangen leol o’r fenter yma, ynghyd â’r Ymrwymiad i Dryloywder Ymchwil. Mae'r cysylltiadau hyn yn gofnod cyhoeddus o'n hymrwymiad i uniondeb ymchwil ac yn ein galluogi i aros ar flaen y gad o ran yr arferion gorau.

‘Arferion 'gwyddoniaeth agored'

Mae ein hymchwilwyr yn ymgysylltu'n helaeth â dulliau gwyddoniaeth agored. Mae hyn yn cynnwys defnyddio – lle bo’n ymarferol ac yn ddichonadwy – rhag-gofrestru ac adroddiadau cofrestredig, a rhagargraffu a rhannu data, naill ai drwy gadwrfa labordy-benodol a gynhelir gan wasanaeth megis y Fframwaith Gwyddoniaeth Agored neu bioRxiv, neu drwy Borth Ymchwil dynodedig Prifysgol Bangor ei hun.

Hyfforddi ac addysgu

Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn cynnal cyfleoedd datblygu 'arferion gorau' rheolaidd ar bynciau megis ystadegau, codio a rheoli amgylchedd cyfrifiannol, a llywio cadwrfeydd data cyhoeddus. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd ReproducibiliTea lle byddwn yn trafod metawyddoniaeth, o ddulliau ac athroniaeth gwyddoniaeth i'r dirwedd academaidd. Mae croeso i bawb ymuno â’r sesiynau hyn.

Er mwyn datblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol a meithrin myfyrwyr gyda setiau sgiliau hynod drosglwyddadwy, rydym yn ymgorffori egwyddorion uniondeb ymchwil, moeseg, a gwyddoniaeth agored yn ein haddysgu o'r cychwyn cyntaf. O lefel israddedig mae ein myfyrwyr yn dod i gysylltiad â materion megis atgynhyrchu, pŵer ystadegol, hacio-p a HARKio, a thuedd samplu, ac yn cael eu hannog i weithio ar y cyd a rhag-gofrestru eu dadansoddiadau yn ystod projectau. Rydym hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o feddalwedd cod agored trwy gydol ein haddysgu.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?