Llun o astudiaeth ymddygiad seicoleg

Seicoleg Gymhwysol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Seicoleg Gymhwysol

Pam Astudio Seicoleg Gymhwysol?

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn pynciau seicoleg gymhwysol. Yr un yw nod pob un ohonynt sef trosi ymchwil seicolegol yn weithredu mewn bywyd go iawn. Yn hytrach na dim ond profi damcaniaethau haniaethol yn y labordy, byddwch yn ceisio gweithredu a phrofi damcaniaethau mewn lleoliadau beunyddiol, er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl neu newid sut mae sefydliadau'n gweithredu.

  • Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd
  • Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'
  • Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU
  • Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol

Ym Mangor gallwch ganolbwyntio ar astudio seicoleg gymhwysol mewn nifer o feysydd:

  • Cwnsela - cewch eich hyfforddi sut i roi cyngor proffesiynol wrth ddatrys problemau personol neu seicolegol.
  • Seicoleg Glinigol ac Iechyd - os oes gennych ddiddordeb mewn hybu iechyd a lles (ac atal salwch ac anabledd) bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r prif declynnau sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal gwasanaethau clinigol gydag amrywiol boblogaethau a chyd-destunau.
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar - fe gewch hyfforddiant penodol ar sut i ymarfer technegau Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ogystal â sut i addysgu eraill, gan gynnwys yr holl elfennau therapiwtig.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Seicoleg Gymhwysol

Ar ôl graddio gyda gradd meistr yn un o feysydd seicoleg gymhwysol bydd nifer o opsiynau gyrfa ar gael i chi gan gynnwys:

  • Seicoleg Fforensig
  • Seicoleg Addysg
  • Seicoleg Sefydliadol / Busnes
  • Seicoleg Glinigol
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Seicoleg Iechyd
  • Cwnsela
  • Seicoleg Defnyddwyr

Ar wahân i yrfaoedd fel y rhain sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r pwnc mae'r sgiliau allweddol sy'n cael eu haddysgu ar lefel meistr yn ddeniadol i amrywiaeth o gyflogwyr. Ar ôl graddio bydd gennych wybodaeth ddadansoddol ac ystadegol ddatblygedig iawn, ynghyd â’r gallu i roi cyflwyniadau llafar a llunio adroddiadau ysgrifenedig. Gallwch hefyd ddefnyddio eich gradd meistr mewn seicoleg gymhwysol i symud ymlaen i astudio am PhD neu ddoethuriaethau proffesiynol eraill.

Mae angen cynyddol am ddeall a rhagfynegi ymddygiad dynol ac angen cynyddol felly am seicolegwyr cymhwysol, sy'n golygu fod nifer fawr o gyflogwyr yn chwilio am y sgiliau a'r ddealltwriaeth y byddwch chi yn meddu arnynt.

Ein Hymchwil o fewn Seicoleg Gymhwysol

Rydym yn ymchwilio yn defnyddio dau ddull allweddol. Y dull cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hŷn. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil heddiw. Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?