UWB Crest

Astudio Ôl-raddedig mewn Seicoleg

Pam Dewis Bangor?

Image of students conducting an experiment on an aeroplane

Sefydlwyd Prifysgol Bangor fwy na chanrif yn ôl. Mae’n un o sefydliadau cyfansoddol Prifysgol Bangor, sydd ymysg y prifysgolion mwyaf yng Ngwledydd Prydain. Mae Bangor ei hun â dros 8,000 o fyfyrwyr a 400 o staff addysgu mewn 20 o adrannau academaidd.

Ysgol Seicoleg Bangor

Mae’r Ysgol Seicoleg ym Mangor ymysg adrannau Seicoleg fwyaf blaenllaw’r wlad. Fel myfyriwr ôl-raddedig mewn Seicoleg, byddwch yn gweithio gydag ymchwilwyr o fri rhyngwladol ac yn defnyddio cyfleusterau ymchwil gwych. Mae’r Ysgol Seicoleg yn uchel iawn ei pharch o ran ansawdd yr addysgu a geir yno, ac mae wedi cael cydnabyddiaeth swyddogol fel “Rhagorol” yn Asesiad diweddaraf y Llywodraeth ar Ansawdd Dysgu. Mae aelodau ein staff academaidd nid yn unig yn addysgu’n dda, ond maent hefyd yn gwneud ymchwil o’r ansawdd uchaf sy’n dylanwadu ar y sector cyhoeddus (yn enwedig gweithgareddau Iechydol a Chlinigol) yn ogystal ag mewn diwydiant ac yn y byd academaidd. Mae'r Ysgol yn un o'r saith adran Seicoleg uchaf ym Mhrydain am ymchwil; gyda mwy na dwbwl y cyfartaledd cenedlaethol o allbwn ymchwil "ymysg yr orau yn y byd" yn ogystal a 65% o gyfanswm yr allbwn ymchwil adrannol yn y dau gategori uchaf ( "ymysg yr orau yn y byd" a "Rhagoriaeth Rhyngwladol" ) yn yr Asesiad diweddaraf ar draws y DU ar Ansawdd Ymchwil.

Ein hymrwymiadau

Rydym wedi ymrwymo i roi’r hyfforddiant gorau posibl i’n hôl-raddedigion. Rydym hefyd wedi ymrwymo i roi’r cymorth gorau posibl i’n myfyrwyr i gynorthwyo i sicrhau cyllid ar gyfer eu hastudiaethau. Ar hyn o bryd, mae’r Ysgol yn gwario mwy na £150,000 y flwyddyn ar gymorth uniongyrchol i fyfyrwyr trwy Gymrodoriaethau PhD a Bwrsariaethau Meistr yr Ysgol Seicoleg. Rydym hefyd yn cynorthwyo myfyrwyr i gael cyllid trwy ffynonellau’r Brifysgol a thrwy ffynonellau allanol megis y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a’r Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Mae Bangor yn le gwych i fyw ac i astudio

Ar ôl i chi bori trwy ein gwefan, os byddwch am wybod mwy am gyrsiau ôl-radd ym Mangor, rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i gysylltiad â ni neu’n dod draw ar ymweliad.

Mae Bangor yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw yn y DU

“Mae Bangor yn lle diogel i fyw – yn un o’r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU”
educationuk.org

Mae nifer y troseddau sy’n digwydd ym Mangor a’r cylch ymysg yr isaf yn y DU, felly, gan ei bod yn ddinas gywasgedig, mae adeiladau’r Brifysgol, llety a chanol y ddinas yn ddigon agos at ei gilydd i rywun gerdded yn ddiogel. Nid yw’n ddinas ddiwydiannol, ac mae lefel llygredd yn isel, felly mae’n lle glân ac iach i fyw.

Mae costau byw ym Mangor yn isel

Yn ôl ymchwil i’r farchnad, mae costau byw ym Mangor yn llawer is nag mewn rhannau eraill o’r DU. Dyma a ddywedir am Fangor yn yr A-Z of Universities and Higher Education Colleges a gyhoeddwyd yn yr Independent, “one of the cheapest places in Britain” (i fod yn fyfyriwr). Gallwn eich helpu i gael gwaith rhan-amser tra byddwch yma (trwy’r Ganolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd), ac rydym hefyd yn cynnig pecyn o ysgoloriaethau sylweddol.

Yr hyn sydd gan Lawlyfrau ar Brifysgolion i’w ddweud am Fangor

“...Bangor takes its place as an academic high achiever when measured against the best that the UK can offer, with ‘excellent’ ratings in a range of subjects.”
The Virgin Alternative Guide to British Universities

“There's a good mix of day and nightlife, with hiking and biking in Snowdonia National Park contrasting with three nightclubs and a popular theatre.”  The Guardian

“Bangor is a small, friendly cathedral city set in a stunning location. The local community welcomes the annual influx of around 8,000 students and during term-time students dominate the social scene. There is a new Students' Union club and several good student bars. The general consensus is that Bangor is a safe, clean and affordable place to live, and comes highly recommended.” The Guardian University Guide

“Wonderful position. On one side are the mountains of Snowdonia National Park, on the other is the Menai Strait....Boasts the best university setting in the UK, with parts within 6 feet of the sea” The Independent's A-Z of Universities and Higher Education Colleges