Llywodraethu Ymchwil
Hyd yn oed os na fyddwch yn cyflwyno eich project am gymeradwyaeth foesegol mae’n ofynnol i chi hysbysu'r Ysgol Gwyddorau Iechyd a Meddygol bod yr ymchwil yn cael ei wneud a defnyddio un o'r dulliau a amlinellir isod.
Cofrestru Project Ymchwil ar sail Adolygiad o Lenyddiaeth ac Adolygiad Systematig
Er nad oes angen cyflwyno ymchwil ar sail adolygiad o lenyddiaeth nac adolygiad systematig am gymeradwyaeth foesegol, mae’n ofynnol i chi hysbysu'r Pwyllgor Moeseg Academaidd eich bod yn gwneud yr ymchwil trwy ddilyn y cyswllt isod a llenwi’r ffurflen gofrestru.
Cofrestru/Adolygu Project Dadansoddi Data Eilaidd
Efallai y bydd rhaid cael cymeradwyaeth foesegol hefyd i brojectau sy'n cynnwys dadansoddi data eilaidd. Lawrlwythwch y ffurflen gofrestru/adolygu project yma, a'i chyflwyno i gadeirydd y Pwyllgor Moeseg i'w hystyried, ynghyd â chopi o'ch cynnig ymchwil. Ceir arweiniad pellach ar ddadansoddi data eilaidd yn y Polisi Ymchwil. Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, Lynne Williams, trwy e-bost: lynne.williams@bangor.ac.uk.
Cofrestru Projectau a'r Gofrestr Ymbelydredd ar gyfer Arbrofion sydd wedi eu lleoli yn yr Ystafell Belydr-x
Gallwch lawrlwytho'r ffurflen gofrestru projectau a'r gofrestr ymbelydredd yma. Llenwch y ffurflen a'i chyflwyno i'r Goruchwyliwr Diogelu Ymbelydredd i'w chymeradwyo. Yna dylid cyflwyno'r copi wedi ei lofnodi i gadeirydd Pwyllgor Moeseg y brifysgol. Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, Dr Seren Roberts trwy e-bost: seren.roberts@bangor.ac.uk.
Adnoddau Defnyddiol
Canllawiau Prifysgol Bangor
- Llawlyfr Gwaith Maes
- Gwybodaeth GDPR
- Cymeradwyo'r Broses Gofrestru i Ymchwil Sensitif
- Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr Awst 2021 - Gorffennaf 31 2022
- Polisi Moeseg Ymchwil
- Polisi Rheoli Data PB
- Moeseg a'r Gymraeg
I weld Polisi Llywodraethu Ymchwil BCUHB a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, cysylltwch â;
Dr Huw Roberts huw.roberts@bangor.ac.uk
Canllawiau ar gyfer llenwi’r Ffurflen Cyflwyniad Electronig
Adnoddau ar gyfer Profion Clinigol
- Proses graffu, cymeradwyo a monitro Pwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygol (Prifysgol Bangor)
- Rhestr Wirio Treialon
- Egwyddorion Nawdd a Swyddogaeth y Noddwr
- Canllawiau MHRA GCP
- Cynrychiolwyr nawdd
Canllawiau GIG
- Sicrhau Caniatâd Ymchwil y GIG
- Adolygiad Moesegol o Ymchwil gan Fyfyriwr
- A oes angen Pasbort Ymchwil arnoch chi
- Polisi a safonau: Pasbortau Ymchwil
- Adnoddau Penderfynu
- Diffinio Ymchwil y GIG
- Canllawiau ar broses wneud cais y GIG
- Defnyddwyr Newydd IRAS
- Canllawiau i ymchwil nad yw'n ymchwil i GIG
Pasbort Ymchwil
Cyfranogiad Cleifion a'r Cyhoedd
Cysylltwch â ni
Llywodraethu – Sadia Nafees s.nafees@bangor.ac.uk
Ymwybyddiaeth a sensitifrwydd iaith– Beryl Cooledge b.cooledge@bangor.ac.uk
Cynrychiolydd noddwyr ar gyfer treialon – Huw Roberts (huw.roberts@bangor.ac.uk)
Gallwch gysylltu â gweinyddwyr y Pwyllgor Moeseg Academaidd trwy e-bost: hcmsethics@bangor.ac.uk