Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Casglu Gwastraff Ty

Delwedd yn danogs logo 'Cadwch Cymru'n daclus'

Gyda mewnlifiad sylweddol o fyfyrwyr y brifysgol i dai preifat yn ardaloedd ym Mangor, yn cynnwys; Bangor Uchaf, Hirael, Ffordd Caernarfon a Caellepa, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus iddynt fod yn ymwybodol o’r trefniadau rheolaidd sydd yn berthnasol ar gyfer ailgylchu a chasglu gwastraff tŷ.

  • Rhowch eich gwastraff tŷ ac ailgylchu allan i'w gasglu ar yr adeg gywir ar y diwrnod cywir.

  • Mae’r dudalen nesaf yn dangos y diwrnod casglu ar gyfer eich stryd chi.

  • Gallwch wynebu dirwy am roddi eich gwastraff allan ar adeg anghywir!

  • I holi ynglŷn â’ch diwrnod casglu, gofyn am bin newydd neu focs ailgylchu, neu i ofyn am gasglu gwastraff swmpus a llawer mwy, ffoniwch Gyngor Gwynedd ar 01766 771000.

I gloi, gofynnir i fyfyrwyr ymarfer agwedd synhwyrol a chyfrifol wrth gael gwared o wastraff ty a chadw mewn cof fod eu gweithredoedd yn creu ardrawiad ar amgylchedd eu hardal ac effaith ar y trigolion lleol.

Am fwy o wybodaeth

Am fanylion ynglŷn a gwastraff ac ailgylchu yng Ngwynedd, ewch at wefan Cyngor Gwynedd (Mae Cyngor Gwynedd wrthi'n diweddaru'r wybodaeth hon)

http://www.undeb.bangor.ac.uk/green/Canllaw%20Goroesi%20Gwastraff.pdf