Fy ngwlad:

Llysgenhadon Llesiant Myfyrwyr

Beth Yw Swyddogaeth Llysgenhadon Llesiant Myfyrwyr?

Fel myfyrwyr presennol eu hunain, maent yn dod â mewnwelediad gwerthfawr i'r heriau y gallai eu cyfoedion eu hwynebu ac yn ein helpu i sicrhau bod ein negeseuon yn berthnasol, yn hygyrch, ac yn cael eu harwain gan fyfyrwyr.

Ffyrdd y maent yn cefnogi gwaith y Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb:

  •  helpu i godi ymwybyddiaeth o bynciau llesiant allweddol
  • cyfeirio cyfoedion at gefnogaeth
  • cyfrannu at ddatblygu mentrau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. 
     
Llysgenhadon Llesiant Myfyrwyr

Cymryd Rhan Mewn Gweithgareddau

Bydd y Llysgenhadon yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys: 

  • cefnogi digwyddiadau llesiant
  • cyfrannu syniadau at ymgyrchoedd
  • helpu i gasglu adborth myfyrwyr i wella ein gwasanaeth. 

Byddant hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth greu awyrgylch croesawgar a chynhwysol mewn gweithgareddau llesiant, gweithdai, a digwyddiadau. 

Mae eu cyfranogiad yn cryfhau ein gallu i gyrraedd mwy o fyfyrwyr, adeiladu cymuned, a hyrwyddo diwylliant lle mae llesiant yn cael ei flaenoriaethu a'i drafod yn agored.

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, anfonwch ebost atom.

Cysylltu â ni