Cyfleusterau a Lleoliad y Ganolfan

Dim ond paen o wydr ryngoch chi a rhai o'r golygfeydd harddaf yn y wlad  

Croeso i'r Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor, Canolfan gynadleddau a hyfforddi preswyl sydd mor unigryw ô'i hamgylchedd gwych ac sy'n gwneud argraff barhaol ar bawb sy'n dod iddi.

Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cyfuno'r elfennau gorau o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat er mwyn darparu addysg, hyfforddiant a datblygu arloesol sy'n ysbrydoli.

Er mai ychydig oriau’n unig o daith sydd rhyngom a dinasoedd Lerpwl, Manceinion a Dulyn, rydym mewn byd ar wahân. Cliciwch ar y cynorthwyydd llywio ar y chwith i ddarganfod sut i fynd i'r Ganolan Reolaeth ac am wybodaeth am barcio.

Yn lleol, mae llawer iawn i’w wneud a’i brofi, o heicio i sgwba-blymio, o ymweld â hen siambrau claddu i gestyll trawiadol, heb sôn am y cynnyrch lleol ffres a’r croeso Cymreig rhyfeddol. Am fwy o wybodaeth am yr ardal leol cliciwch yma.

Mae gan y Ganolfan Rheolaeth amrywiaeth o ddewisiadau bwyta, megis Siop Goffi, Ty Bwyta a bar. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch ni ar:

E-bost: info@themanagementcentre.co.uk
Ffôn: +44 (0)1248 365 900