Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
COVID-19 – Diweddariad Datganiad Hygyrchedd Tachwedd 2020
Yn ystod pandemig Covid-19 mae Prifysgol Bangor yn cydnabod pwysigrwydd parhau i annog arferion da o ran creu adnoddau hygyrch a darparu dulliau cyfathrebu hygyrch i bawb. Mae Prifysgol Bangor yn defnyddio Microsoft Teams er mwyn i’r staff a’r myfyrwyr fedru cyfathrebu â’i gilydd. Mae gan Microsoft Teams nodweddion hygyrchedd integredig gan gynnwys Immersive Reader a gosod penawdau caeedig byw (Saesneg yn unig). Am wybodaeth bellach gweler Trosolwg hygyrchedd Microsoft Teams.
Fe fyddwn hefyd yn defnyddio Blackboard Collaborate ar gyfer dysgu ar-lein yn ystod y flwyddyn academaidd 2020/21. Mae’n bosib (yn ôl yr angen) i uwchlwytho unrhyw sesiwn Collaborate sydd wedi’i recordio, i Panopto, fydd yn creu is-deitlau’n awtomatig.
Gall staff hefyd gyrchu’r Dudalen Hygyrchedd ac E-ddysgu am arweiniad ac adnoddau pellach.
Mae’r Staff Dysgu’n defnyddio Panopto i draddodi darlithoedd. Yn ddiweddar cafodd ein holl fideos eu huwchlwytho i Panopto er mwyn gosod penawdau arnynt yn awtomatig â pheiriant. Mae’r gosod penawdau Saesneg yn Panopto wedi gwella’n ddirfawr yn ddiweddar ond nid yw bob amser 100% yn gywir. Nid oes penawdau awtomatig yn fideos Saesneg Panopto a recordiwyd cyn diwedd Mehefin 2020. Ni allwn gynnig gosod penawdau â pheiriant yn awtomatig ar gyfer ein fideos cyfrwng Cymraeg gan nad yw’r dechnoleg i wneud hynny’n bodoli eto. I roi pennawd ar bob fideo Cymraeg byddai’n rhaid i gyfieithydd osod y penawdau ar bob fideo’n unigol a byddai hynny’n drech na’r gwasanaethau cyfredol. Os daw datrysiad technolegol addas ar gael yna fe fydd Bangor yn ymgeisio i’w defnyddio cyn gynted â phosib. Dylai unrhyw fyfyriwr sydd angen is-deitlau Cymraeg ar gyfer unrhyw gynnwys cwrs drafod hyn gyda’u tiwtor gan ymgorffodi hyn o fewn eu ‘Cynllun Cefnogi Dysgu Personol’. Mae is-deitlo wedi’i awtomeiddio wedi’i osod yn ddi-ofyn ar gyfer is-deitlau Saesneg.
A oes angen i chi gyrchu Darllen ac Ysgrifennu Texthelp gartref? Os oes, mae datblygwyr y meddalwedd yn cynnig trwyddedau gweithio gartref i holl aelodau’r Brifysgol trwy gydol pandemig Covid-19. Os oes angen mynediad i’r meddalwedd arnoch, e-bostiwch helpdesk@bangor.ac.uk i ofyn amdano.
Yn ystod y cyfnod hwn rydym hefyd yn argymell adnoddau AbilityNet ar gyfer cefnogaeth ac arweiniad pellach. Mae AbilityNet ar hyn o bryd yn cynnig gweminarau a fydd yn ddefnyddiol i’r Staff a’r Myfyrwyr.
- Gweminar AbilityNet – Pobl Anabl yn Gweithio Gartref
- Gweminar AbilityNet – Sut mae cynnal Cyfarfodydd Ar-lein hygyrch
Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefannau ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau hygyrchedd digidol i bawb.
Dylech fedru gwneud y canlynol ar ein gwefan bresennol:
- Gwe-lywio gyda’r bysellfwrdd
- Gwe-lywio yn ôl Penawdau
- Neidio i’r cynnwys
- Chwyddo ac ail-ffrydio’r cynnwys i dros 200%
- Newid cyferbyniad y lliw trwy ddefnyddio ategion porwr
- Defnyddio ategion ac offer mewnol ‘testun i leferydd’ mewn porwyr fel Edge
- Gall staff a myfyrwyr ddefnyddio teclyn SensusAccess i drosi dogfennau i fformatau hygyrch.
Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd. Mae AbilityNet yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio dros newid bywydau pobl anabl trwy eu helpu i ddefnyddio technoleg ddigidol yn y gwaith, gartref neu mewn addysg.
Gwybodaeth dechnegol am ein gwefan
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Rydym yn gweithio ar gyflawni a chynnal safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, ond mae enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Gwyddom nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Trwy ddefnyddio ategion porwr gall defnyddwyr addasu uchder llinell testun ar rai o’n tudalennau, ond nid ar bob un ohonynt
- Gall strwythur gwe-lywio rhai o fodiwlau hynaf Blackboard fod yn gymhleth ac amrywiol a gall hynny achosi anhawster wrth we-lywio. Bydd Modiwlau Blackboard mis Medi 2020 yn defnyddio gwedd cwrs Blackboard Ultra. Mae hynny’n diddymu’r gallu i greu strwythurau cwrs cymhleth a bydd yn symleiddio trefn y cwrs i’r myfyrwyr
- Nid yw’r dogfennau PDF hynaf yn gwbl hygyrch i’r rhaglenni meddalwedd darllen sgrin Fis Gorffennaf 2020 caiff offeryn Ally ei ychwanegu at Blackboard ac yna bydd hi’n haws i’r myfyrwyr ofyn am fersiynau hygyrch o’r dogfennau PDF hynaf sydd ar Blackboard.
- Nid yw’r testun disgrifiadol mewn rhai cysylltiadau hyperdestun yn rhoi gwybodaeth lawn
- Nid oes gan bob delwedd yn ein cynnwys ddisgrifiad testun amgen
- Ni allwn gynnig gosod penawdau â pheiriant yn awtomatig ar gyfer ein fideos Cymraeg gan nad yw’r dechnoleg i gyflawni’r broses honno’n bodoli eto. I roi pennawd ar bob fideo Cymraeg byddai’n rhaid i gyfieithydd osod y penawdau ar bob fideo’n unigol a byddai gwneud hynny’n drech na’r gwasanaethau cyfredol. Dylai gwylwyr sydd angen penawdau ar fideos, Saesneg neu Gymraeg, nad ydynt yn cynnwys penawdau (neu sydd angen mwy o gywirdeb) ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd ar y dudalen hon i ofyn am hynny.
- Does dim is-deitlau ar gael ar gyfer rhai o’n hen glipiau fideo hyrwyddo ac hyfforddi.
- Does dim is-deitlau ar gael ar gyfer sesiynau Blackboard Collaborate byw.
- Mae’n anodd gwe-lywio ar rai o’n ffurflenni ar-lein gyda bysellfwrdd yn unig, all online forms are currently being reviewed
Os nad ydym wedi nodi rhwystr, cysylltwch â ni.
Cysylltu â ni a’r camau nesaf
Cysylltwch â ni os byddwch yn cael unrhyw broblem. Cofiwch ddweud wrthym beth sy’n dda ac yn ddefnyddiol i chi.
Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- E-bostiwch: helpdesk@bangor.ac.uk
- neu ar y ffôn: 01248 38 8111
- Ymwelwch yn bersonol (09:00–17:00) – Desg Gymorth TG, Adeilad Deiniol, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2UX
Mae gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C) awgrymiadau defnyddiol ar gysylltu â sefydliadau ynglŷn â gwefannau anhygyrch.
Y Drefn Gwyno
Os rhoesoch wybod am broblem gyda’r wefan neu os gofynnoch am fformat amgen, ond nid ydych yn fodlon â’r ymateb a gawsoch, cewch ddefnyddio trefn gwyno’r Brifysgol i gofrestru eich anhawster; mi wnaiff hynny ein helpu ni wella ein systemau. I wneud cwyn, ysgrifennwch at Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio’r Brifysgol yn y lle cyntaf (info-compliance@bangor.ac.uk) ac egluro sail eich cwyn.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus â’n hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS).
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Er mwyn mynd i’r afael â hen gynnwys ein system Blackboard sydd o bosib yn anodd ei gyrchu rydym wedi buddsoddi yng nghynnyrch Ally. Bydd hynny’n fodd cyflwyno cynnwys Blackboard ar sawl fformat hygyrch.
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod offer ar gael i gynorthwyo gyda hygyrchedd digidol. Rydym yn darparu hyfforddiant i staff ar ddefnyddio offer Microsoft Office 365 a all wirio dogfennau am safonau hygyrchedd. Mae gan feddalwedd Office 365 hefyd nodweddion mewnol i gynorthwyo gyda hygyrchedd gan gynnwys rhaglenni darllen sgrin. Mae’r dudalen we Microsoft Accessibility yn darparu cysylltiadau at wybodaeth bellach am offer hygyrchedd Office 365.
Rydym yn tanysgrifio i declyn SensusAccess er mwyn i’r staff a’r myfyrwyr allu trosi dogfennau nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd yn fformatau hygyrch.
Yn ddiweddar cafodd ein holl fideos eu huwchlwytho i Panopto er mwyn rhoi penawdau arnynt yn awtomatig â pheiriant. Mae gosod penawdau Saesneg yn Panopto wedi gwella’n ddirfawr yn ddiweddar ond nid yw bob amser 100% yn gywir. Caiff penawdau eu hychwanegu’n awtomatig at bob recordiad a wnaed ers Medi 2017.
Mae trwydded Microsoft y Brifysgol hefyd yn caniatáu i’n defnyddwyr gael mynediad at MS-Stream. Bydd y gwasanaeth ar-lein hwn yn darparu penawdau awtomatig i’r fideos a gaiff eu llwytho iddo.
Bydd Modiwlau Blackboard mis Medi 2020 yn defnyddio gwedd cwrs Blackboard Ultra. Mae hynny’n diddymu’r gallu i greu strwythurau cwrs cymhleth a bydd yn symleiddio trefn y cyrsiau i’r myfyrwyr
Mae’r Brifysgol yn datblygu Strategaeth Technoleg Ddigidol ar hyn o bryd a “bwriad yr holl nodau yw darparu gwasanaeth sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf posibl, beth bynnag fo’r dechnoleg neu’u gallu.”
Sut gwnaethom roi prawf ar y wefan hon
Rydym wedi cynnal ein profion ein hunain. Rydym wedi comisiynu cipolwg hygyrchedd annibynnol.
Y dyddiad diweddaru diwethaf
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 12 Tachwedd 2020. Rydym yn diweddaru’r datganiad hwn yn flynyddol a byddwn yn ei adolygu nesaf Rhagfyr 2020.