Lleoliad

Sut i gael i'r Ganolfan Rheolaeth

Mae Bangor yn haws i gyrraedd i nag oeddech yn feddwl drwy ddreifio, bws neu gyda thrên! Cliciwch yma am fap i'r Ganolfan Rheolaeth.

 

Ein Cyfeiriad

Y Ganolfan Rheolaeth
Ffordd y Coleg
Gwynedd

LL57 2DG

Ar y Ffordd

Gellwch ‘lacio’ o’r map lleoliad rhyngwladol hwn (a ddarperir gan Google map) i weld ein hunion leoliad, a’i ddefnyddio i gynllunio eich taith ar y ffordd. Ein cod post yw LL57 2DG os ydych yn defnyddio Satnav. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am barcio yn y Ganolfan Rheolaeth.

Mewn Bws

Mae Bws Arriva yn gwasanaethu Bangor yn ddyddiol; ewch i wefan Arriva.

Ar y Trên

Mae Bangor o fewn cyrraedd hwylus o’r rhan fwyaf o ardaloedd ym Mhrydain ar y trên, a cheir gwasanaeth uniongyrchol rheolaidd i Lundain trwy Crewe.  Ewch i wefan i Rheilffyrdd Cenedlaethol am fanylion am wasanaethau trên i Fangor.

Ar y Môr

Os ydych yn teithio o Iwerddon, mae gennych ddewis o longau fferri neu long hofran gyflym o Ddulyn neu Dun Laoghaire.  Am fanylion ynglyn ag amseroedd hwylio, ewch i Irish Ferries neu Stena Line.

Dim ond 30 munud o daith yn y car yw Porthladd Caergybi oddi yma, neu cewch wasanaeth trenau uniongyrchol i Fangor sy’n cymryd rhyw 30 munud.  Ewch i wefan y Rheilffyrdd Cenedlaethol am fanylion.

Meysydd Awyr

Meysydd Awyr Lerpwl a Manceinion
Mae meysydd awyr rhyngwladol Lerpwl a Manceinion yn rhyw 1½ awr o daith mewn car o’r Ganolfan Rheolaeth.  Ceir hefyd wasanaeth reilffordd aml o Faes Awyr Manceinion neu Lerpwl – ewch i wefan y Rheilffyrdd Cenedlaethol am fwy o fanylion.
Am fanylion am siwrneiau awyr i Fanceinion, ewch i wefan Maes Awyr Manceinion, ac o ran siwrneiau awyr i Lerpwl, ewch i wefan Maes Awyr Lerpwl.

E-bost: info@themanagementcentre.co.uk

Ffôn: +44 (0)1248 365 900