Gwobrau Wythnos Busnes Gwynedd 2020 WEDI'I GANSLO
Er mwyn cynorthwyo gydag atal a chyfyngu ar y firws COVID-19, mae Gwobrau Busnes Gwynedd 2020 wedi’u canslo.
Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra neu siom a achoswyd, ond hyderaf y byddwch yn deall pam y gwnaed y penderfyniad hwn.
Nod Gwobrau Wythnos Busnes Gwynedd yw cydnabod, dathlu a hyrwyddo busnesau ac entrepreneuriaid Gwynedd.
Mae Gwobrau Wythnos Busnes Gwynedd yn cynnig cyfle gwych i wobrwyo busnesau lleol a thynnu sylw at eu llwyddiannau. Bydd y digwyddiad hwn yn denu llawer o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd ac yn y wasg a’r cyfryngau a thrwy fod yn rhan ohono, gall eich busnes fanteisio ar gyhoeddusrwydd amhrisiadwy a chael ei gydnabod fel un o fusnesau mwyaf llewyrchus Gwynedd.
Sut i wneud cais
Mae Gwobrau Wythnos Busnes Gwynedd ar agor i bob busnes annibynnol sydd wedi’i leoli yng Ngwynedd – does dim ots ym mha sector mae eich busnes, beth yw ei faint na phryd y cafodd ei sefydlu.
Gallwch wneud cais am wobr, neu fwy nag un wobr, yn ddibynnol ar ba gategorïau sydd fwyaf addas ar gyfer eich busnes neu eich sefydliad chi. Mae’r broses ymgeisio’r un fath ar gyfer pob categori, a gall busnes ennill mwy nag un wobr cyn belled â’i fod yn bodloni’r meini prawf perthnasol.
Beth ddylwn i ei gynnwys yn fy nghais?
- Rhaid i bob cais gynnwys datganiad o ddim mwy na 500 gair yn egluro pam y credwch eich bod yn deilwng o’r wobr.
- Bydd angen i’r beirniad weld ychydig o wybodaeth ariannol, fel y manylir yn y canllawiau. Bydd y wybodaeth yma’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cais yn unig ac nid yw’n griteria yn y broses feirniadu. Dylai busnesau ifanc gynnwys gwybodaeth am gymaint o flynyddoedd ag sy’n bosibl.
- Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel o feirniaid diduedd a gwrthrychol a bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.
Dim ond y beirniaid fydd yn gweld y manylion ariannol.
Bydd penderfyniad y panel yn derfynol ac ni ddarperir adborth. - Gallwch lenwi’r ffurflen yn Gymraeg neu Saesneg.
- Bydd angen i bob cais gael ei gyflwyno drwy’r ffurflen gais ar-lein yma. Cysylltwch â digwyddiadau@themanagementcentre.co.uk os oes problemau technegol.
Oes angen talu i wneud cais?
Na. Mae gwneud cais am un neu fwy o Wobrau Wythnos Busnes Gwynedd yn rhad ac am ddim.
Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais?
Mae'r enwebiadau ar gyfer gwobrau ar gau ar hyn o bryd.
Pryd cyhoeddir yr enillydd?
Cyhoeddir yr enillwyr mewn cinio gala a seremoni wobrwyo a gynhalir yn Y Ganolfan Rheolaeth.
Ewch i’r wefan am wybodaeth am sut i archebu byrddau a thocynnau. Mae cyfleoedd noddi ar gael – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Categorïau
Busnes Bach y Flwyddyn – hyd at 10 o weithwyr
Mae’r categori yma ar gyfer busnesau sydd wedi cael eu lleoli yng Ngwynedd, gyda 10 neu lai o weithwyr ac sy’n gallu dangos eu bod wedi perfformio’n rhagorol. Bydd y beirniaid yn canolbwyntio ar lwyddiannau busnes ynghyd ag unrhyw fentrau eraill sydd yn eich gosod ben ac ysgwydd uwchben eich cyfoedion. Cynigiwch enw eich busnes chi, neu enwebwch fusnes arall sydd yn haeddu ennill.
Noddir gan Busnes Cymru
Person Busnes y Flwyddyn
Mae’r wobr yma yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig ac arwyddocaol i fusnes yng Ngwynedd. Mae cyn enillwyr wedi bod yn arweinwyr busnes o fewn y sector breifat yng Ngwynedd.
Noddir gan Rwydwaith Busnes Gwynedd
Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn – dan 30 mlwydd oed
Ydych chi neu un o’ch cydweithwyr yn ysbrydoli eraill, yn sefyll allan ac yn rhoi hwb i’r ardal yn ogystal ag enw da eich/eu sefydliad? Ydych chi neu nhw yn arddangos yr ysbryd entrepreneuriaid sy’n nodweddiadol o wytnwch ac adfywiad Gwynedd? Cwblhewch y ffurflen gais heddiw fel eich bod chi / nhw yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol.
Noddir gan yr FSB
Busnes Twristiaeth y Flwyddyn
Ydy eich busnes yn cynnig llety unigryw, arloesol ac o ansawdd uchel sy’n cynnig profiad gwirioneddol fythgofiadwy i ymwelwyr? Ydy eich atyniad wedi cynorthwyo’r diwydiant twristiaeth lleol a rhanbarthol i dyfu ac ehangu?
Noddir gan Dwristiaeth Gogledd Cymru
Gwobr Arloesi Busnes
Ydy eich busnes wedi cael syniad gwych – cynnyrch neu wasanaeth newydd neu ffordd newydd o weithio sydd wedi gwella perfformiad ac elw? Os felly, mae’r beirniaid yn chwilio am fusnes fel eich un chi. Rhaid i chi allu arddangos sut rydych chi’n arloesi a budd masnachol hynny i’ch busnes.
Yn cael ei gefnogi gan Yr Hwb Menter
Gwobr Menter Gymdeithasol
Mae'r categori hwn ar gyfer Mentrau Cymdeithasol Seiliedig yng Ngwynedd sy'n dangos perfformiad eithriadol wrth sicrhau llwyddiant sydd o fudd uniongyrchol i'w cymuned uniongyrchol neu ehangach, neu gymuned o ddiddordeb. Bydd y panel beirniaid yn ystyried llywodraethu cryf, masnachu llwyddiannus ac ymrwymiad i gefnogi cymunedau mewn ffordd gynaliadwy sy'n amgylcheddol gyfrifol.
Noddir gan Busnes Cymdeithasol Cymru
Gwobr Datblygu Pobl
Ydych chi’n fusnes yng Ngwynedd sy’n blaenoriaethu hyfforddiant a datblygiad yn eich gweithle? Ydych chi’n rhoi lles eich staff wrth galon eich busnes? Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflogwyr sydd ag agwedd ragweithiol tuag at ddatblygu talent yn eu cwmni. Bydd yr enillydd yn fusnes a all ddangos effeithiau positif hyfforddiant, datblygiad a lles staff.
Noddir gan Busnes@LlandrilloMenai