Digwyddiadau Cymunedol AM DDIM i drigolion hŷn Bangor

Mae’r Tîm Digwyddiadau yn y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor yn falch o gydweithio gyda Chyngor Gwynedd i gefnogi Digwyddiadau Cymunedol i drigolion Bangor. Gyda chymaint ohonom yn treulio amser ar ein pennau ein hunain wrth ddiogelu oherwydd COVID, rydym yn falch iawn o allu cynnal dau ddigwyddiad arbennig dros y Gwanwyn ac agor ein drysau i’n cymuned a dod â phawb at ei gilydd eto. I ddathlu ein treftadaeth Gymreig leol dyma beth sydd ar gael i chi a’ch ffrindiau;

 

Cinio Dydd Sul Dau Gwrs Dydd Gŵyl Dewi

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Dydd Sul 20fed Chwefror 2022

12 canol dydd tan 2.00yp

 

Cawl a Chân – Dros Ginio

I ddathlu ein diwylliant lleol – ymunwch â ni am ginio i glywed

Unawd a Chôr Grŵp yn cael eu canu gan blant Côr Academi Westend

Dydd Sul 20 Mawrth 2022

12 canol dydd tan 2.00yp

 

Mae archebu yn handodol - cysylltwch gyda ni ar digwyddiadau@themanagementcentre.co.uk neu 01248 365912 

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2022