Emma Chappell yw Dysgwr y Flwyddyn

Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Emma Chappell a fynychodd gyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor ac yn gweithio yn y Brifysgol yn Y Ganolfan Rheolaeth, wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. 

Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig nos Fercher, yng Ngwesty Tre Ysgawen, Llangefni, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.  Y beirniaid eleni oedd Jenny Pye, R Alun Charles a Nia Roberts.

Ganwyd Emma Chappell yng Nghaergrawnt ac fe’i magwyd yn Royston, Hertfordshire, ond erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Deiniolen ar lethrau’r Wyddfa yma yng Nghymru.  Mae ganddi hi a’i phartner Arwel ddau fab, Deion a Guto sy’n siarad Cymraeg ac yn mynychu’r ysgol leol.  Aeth Emma ati i ddysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod ei phartner.  Gwyddai fod yr iaith a hunaniaeth genedlaethol yn bwysig iawn iddo fo, ac felly, aeth ati i ddysgu’r iaith yn iawn.  Roedd yn byw yn Warrington ar y pryd, ac yn ffodus, roedd dosbarth nos yn y dref, ac yna, pan symudodd i Gymru, aeth ati’n syth i ddysgu Cymraeg gyda chriw Cymraeg i Oedolion.

Mae Emma’n defnyddio Cymraeg yn ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor bob dydd, gyda chwsmeriaid, myfyrwyr, staff a chontractwyr, ac mae hefyd yn rhan o’r grŵp gweithredu’r Gymraeg ac wedi bod yn helpu rhai o’r staff gyda’u Cymraeg.  Cymraeg hefyd yw iaith yr aelwyd, a’i bywyd cymunedol yn y pentref Cymraeg ei iaith, ac mae Emma’n chwarae rhan lawn ym mywyd y pentref.

Dywedodd Emma, “Byddwn i’n hoffi datblygu fy Nghymraeg yn y gwaith ac adra.  Dwi’n gwybod fel mae’r plant yn tyfu y bydd ‘na fwy o sefyllfaoedd pan mae’n bwysig i ddeall beth sy’n mynd ymlaen.  Gobeithio rydw i'n gallu ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg a byw eu bywydau yn yr iaith hefyd.  Mi faswn i'n hoffi dweud diolch yn fawr i'r tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion a Chanolfan Bedwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.”

Derbyniodd Emma dlws arbennig, yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £300 (Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor).  Cafodd y tlws unigryw eu cynllunio a’u creu gan Emma Smith a Naomi Williams, ill dwy yn fyfyrwyr Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2017