Gwobrau Busnes y Daily Post
Mae Gwobrau Busnes y Daily Post yn cael eu cynnal yma yn y Brifysgol eto eleni. Fel un o brif noddwyr y digwyddiad, mae Prifysgol Bangor yn awyddus i annog cynifer o gwmniau o'n siroedd lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn.
Mae'r gwobrau Busnes yn cynnig cyhoeddusrwydd rhanbarthol a Chenedlaethol i enillwyr a'r ail oreuon. Mae hefyd nifer o gategorîau y gall cwmniau wneud cais i gan gynnwys "Cychwyn Busnes", "Gwobr Wyrdd" a nifer o gategorîau "Busnes y Flwyddyn" perthnasol. Credwn fod yr amrywiaeth o gategorîau yn cynnig cyfle i fusnesau o bob lliw a maint gyflwyno cais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Hydref ac felly mae llinell amser byr, ond cyraeddadwy ar gyfer ei gyflwyno.
Mae'r wybodaeth sydd ei hangen o fewn yr e-bost isod ac mae'r atodiadau uchod yn darparu'r ffurflenni angenrheidiol ar gyfer gwneud cais. Pe gallech ledaenu'r wybodaeth i'r grwp, byddem yn ddiolchgar iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weld nifer o gwmnau a leolir yn lleol yn y noson wobrwyo ar y 27 Tachwedd yma yn Neuadd PJ, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2014