Llwyddiant Gwobrau WhatUni i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ei dewis fel y gorau ym Mhrydain am ei Chlybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr ac am ei Llety Myfyrwyr yng ngwobrau blynyddol WhatUni.com Student Choice Awards. Hefyd, daeth y Brifysgol yn drydydd ym Mhrydain yn y categori Prifysgol y Flwyddyn ac yn ail am ei  Chyrsiau a Darlithwyr.


Mae’r llwyddiant diweddaraf yn gadarnhad pellach o ansawdd y cyrsiau, llety, cyfleusterau a’r gefnogaeth i fyfyrwyr a gynigir ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall sydd hefyd wedi dangos ei bod ymhlith y 10 uchaf yn y DU yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol am foddhad myfyrwyr  ynghyd â derbyn safon Aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i gael y safon Aur.


Croesawyd y newyddion gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, a dywedodd:
"Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Brifysgol Bangor ennill gwobr genedlaethol WhatUni. Rwyf wrth fy modd fod y Brifysgol wedi ennill dwy brif wobr, ac mae hyn yn adlewyrchiad o’n cydweithrediad agos gydag Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr er mwyn darparu addysg a phrofiad cyffredinol rhagorol. Rwy'n ddiolchgar i’n myfyrwyr am eu cymorth, ac yn falch iawn eu bod yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr am eu hymdrechion gwych.”

Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor:
"Rydym wrth ein bodd i adennill y wobr ar gyfer Llety Gorau. Mae ein staff yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod ein myfyrwyr yn gwneud y mwyaf o’u hamser yn ein neuaddau. Mae ein Cydlynwyr Campws Byw a'r Tîm Wardeiniaid yn ymrwymedig i greu cymuned glòs. Mae'n wych bod ein myfyrwyr wedi cydnabod hyn unwaith eto. "


Dywedodd Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill gwobr WhatUni 2018 ar gyfer y Clybiau a Chymdeithasau Gorau, mae hwn yn llwyddiant arall gwych i Undeb Bangor. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, ac rydym yn llwyddo gyda’r gwobrau yma drwy wrando ar ein myfyrwyr, a gweithio mewn partneriaeth â nhw i sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael y cyfleoedd myfyrwyr gorau posibl.”

Dywedodd Simon Emmett, Prif Weithredwr Grŵp Hotcourses: "Mae ein casgliad o bron i 37,000 o adolygiadau yn rhoi llais i brofiadau myfyrwyr prifysgol. Cyflwynwyd llawer o sylwadau cadarnhaol am brofiad myfyrwyr a bydd hyn yn ysbrydoliaeth i ddarpar fyfyrwyr sy’n wynebu’r her o benderfynnu ble i astudio."

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018