Newidiadau i'r ffordd yr ydym yn defnyddio'ch data (GDPR)

Daw un o'r newidiadau mwyaf i gyfraith preifatrwydd data'r DU ar y 25ain o Fai 2018. Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), yn golygu y bydd gennych fwy o reolaeth dros sut y defnyddir eich data. Hefyd mae’n sicrhau bod sefydliadau'n amddiffyn eich data personol yn well.

 

I adlewyrchu'r newidiadau hyn a’r rhwymedigaethau newydd, rydym wedi diweddaru ein rhybudd preifatrwydd sydd bellach yn dweud wrthych beth rydym yn ei wneud gyda'ch data personol, sut y caiff ei ddefnyddio a'ch hawliau fel unigolyn o dan y gyfraith newydd. Mae’r rhybudd preifatrwydd newydd ar gael yn yr atodiad isod.


 

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2018