Y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu ei 10fed Pen-blwydd

Mae’r Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor, a grëwyd drwy brosiect 15m a chyllid Ewropeaidd sylweddol a chyllid allanol arall, yn dathlu ei Phen-blwydd yn 10 mlwydd oed eleni.

Ers ei lansio yn 2008, mae’r Ganolfan wedi perfformio yn well na’r holl dargedau dysgu a swyddi a osodwyd arni gan ei harianwyr Ewropeaidd ac mae gan y Ganolfan weithlu o 71 o staff ar hyn o bryd.

Ei chenhadaeth yw cyfuno rhagoriaeth ryngwladol gydag addysg arweinyddiaeth mewn busnes lleol a datblygiad rhanbarthol. Adlewyrchir hyn ym mhortffolio cyfredol y Ganolfan gan fod ei mentrau yn gwneud cyfraniad pwysig i economi’r rhanbarth.

Ers i’r Ganolfan Rheolaeth agor ei drysau ddeg mlynedd yn ôl, mae mwy a mwy wedi ymweld â hi yn flynyddol trwy ei chynadleddau rhyngwladol a rhaglen o ddigwyddiadau. Yn 2017, arhosodd 20,000 o bobl yn llety 4* Croeso Cymru'r Ganolfan a chofnodwyd cyfanswm o 80,000 o ymwelwyr yn yr un flwyddyn. Mae’r ymwelwyr ers ei lansiad wedi cynnwys aelodau o’r teulu Brenhinol, Sêr Roc, Barnwyr yr Uchel Lys, Gweinidogion y Llywodraeth a chast Game of Thrones.

Mae’r Ganolfan Rheolaeth yn falch o’i chyfraniad at addysg busnes, datblygiad rhanbarthol a thwristiaeth. Trwy gyd-weithio gydag arbenigwyr o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor a’r gyfadran, mae’r Ganolfan Rheolaeth wedi lansio ac yn rheoli MBA Byd-eang unigryw, sef y Chartered Banker MBA. Datblygwyd y cwrs hwn mewn partneriaeth â chorff bancio proffesiynol y Chartered Banker Institute. Yr MBA hwn yw’r pedwerydd mwyaf yn y DU, ac mae’n denu myfyrwyr proffesiynol o dros 70 o wledydd.

Mae’r Ganolfan yn darparu cyswllt effeithiol rhwng academia a busnes drwy fentrau strategol megis Clwb Busnes Prifysgol Bangor(1500 o aelodau), cartref ‘Institute of Directors’ ar gyfer Gogledd Cymru a chanolfan gymeradwy ar gyfer y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.

Mae hefyd yn cysylltu AU ac AB yn y rhanbarth drwy weithio gyda thîm datblygu a hyfforddi proffesiynol Grŵp Llandrillo Menai i ddenu cynrychiolwyr i gymryd rhan mewn ystod o raglenni caffael a rheoli proffesiynol sy’n cael eu cynnal yn Y Ganolfan Rheolaeth.

Meddai Yr Athro Ted Gardener, Rheolwr Gyfarwyddwr, Canolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor:

“Nid yw’r daith ddeg mlynedd i’r fan hon wedi bod heb ei heriau ond mae model busnes da, cynnyrch deniadol a thîm hynod o ymroddgar wedi cyfiawnhau cefnogaeth rhanddeiliaid allweddol. Mae’r dyfodol bellach yn edrych yn ddisglair wrth i fentrau newydd gael eu lansio sy’n adeiladu ar bortffolio adnoddau, cynnyrch a sgiliau llwyddiannus Y Ganolfan Rheolaeth.”

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2018