Y Ganolfan Rheolaeth yn derbyn Tystysgrif Rhagoriaeth gan TripAdvisor

Trip AdvisorTrip AdvisorGallwn gyhoeddi fod Y Ganolfan Rheolaeth wedi derbyn Tystysgrif Rhagoriaeth gan TripAdvisor unwaith eto. Mae hyn yn ein rhoi yn y categori 'Hall of Fame' ar y wefan gan ein bod wedi derbyn y dystysgrif pum mlynedd yn olynol. Bwriad y dystysgrif ydi i ddathlu rhagoriaeth yn y maes lletygarwch ac yn cael eu rhoi i fusnesau sydd yn derbyn nifer cyson o adolygiadau da ar wefan TripAdvisor. Mae busnesau yn y categori yma yn cynnwys llety, bwytai ac atyniadau sydd yn rhoi profiad rhagorol parhaus i gwsmeriaid. Dyma wobr sydd yn golygu llawer i ni ac yn dyst i waith caled ein staff sydd yn gweithio yn galed i roi profiad proffesiynol a phleserus i bob cwsmer. 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2015