Llety preswyl
Llety Dros Nos
Gyda 17 ystafell wely o safon ragorol, gall y Ganolfan Reolaeth groesawu ymwelwyr i gynadleddau a digwyddiadau sy’n para am nifer o ddyddiau, yn cynnwys penwythnosau. Gallwn hefyd gynnig llety i ymwelwyr achlysurol â’r Ganolfan, y Brifysgol neu’r ardal. Mae pris hollgynhwysol ein hystafelloedd gwely, sef £75.00, yn cynnwys defnyddio rhyngrwyd wi-fi a brecwast cyfandirol yn ein bwyty. Hefyd fe gewch ddefnyddio am ddim y ganolfan fusnes sydd ar y llawr isaf ac sy’n cynnwys bar, man darllen a chyfleusterau TG*. Mae gwelyau dwbl yn y rhan fwyaf o’n hystafelloedd ac rydym yn barod iawn i letya gwesteion ychwanegol am dâl ychwanegol bychan o £10.00.
Mae gennym ystafell wely benodedig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, gyda drysau llydan a chyfleusterau ymolchi wedi eu haddasu.
* Disgwylir i Ganolfan Busnes Eryri agor yn 2008, a bydd 40 ystafell ychwanegol ar gael yn ystod ail gam y project yn y dyfodol agos.
Bwyta yn y Ganolfan Rheolaeth
Ar ôl cyrraedd eich llety dros nos, efallai yr hoffech fwynhau coffi yn ein Neuadd Hugh Owen ysblennydd, neu gael pryd bwyd yn ein bwyty sydd ar y llawr is. Yn y café, sy'n agored bob dydd i ymwelwyr, gellir cael byrbrydau ysgafn, coffi, te a diodydd oer drwy gydol y dydd, tra bo'r bwyty'n darparu prydau safonol a mwy sylweddol mewn lleoliad godidog. Dewch i fwynhau’r machlud dros Ynys Môn wrth i chi flasu gwydraid o win da gyda’ch pryd nos!