Gwynedd yn Dathlu Llwyddiant gyda Penblwydd Wythnos Busnes Gwynedd yn 10 oed
Mae'r Ganolfan Rheolaeth wedi cynnal Cinio Gala i ddathlu 10fed mlynedd o Wythnos Busnes Gwynedd. Dyma ddigwyddiad cloi ar ddiwedd wythnos brysur o ddigwyddiadau ar ledled Gwynedd, gyda cherddoriaeth byw, pryd o fwyd blasus 3-cwrs, siaradwr gwadd a seremoni wobreuo. Y siaradwr oedd Dr Fraser C Logue, Is-lywydd a Chyfarwyddwr Rheoli, Siemens Healthcare Diagnostics Products Ltd.
Fe wobreuwyd y canlynol gan Gyngor Gwynedd am eu cyfraniad tuag ac economi Gwynedd-
- Harlech Foodservices
- Parciau Gwyliau Y Bala
- Zipworld
Roedd Rhwydwaith Busnes Gwynedd hefyd yn dathlu ei ddegfed flynedd ac wedi cyflwyno gwobr i Chris Allwood, Cyfarwyddwr Welsh Slate gyda'r wobr 'Person Busnes y Flwyddyn'.
Roedd Ffederasiwn Busnesau Bach wedi cyflwyno Louis Hiatt o gwmni glanhau Scrubadub o Aberdyfi gyda gwobr 'Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn'.
Fel gwobr arbennig, roedd y Cyng. Mandy Williams-Davies wedi cyflwyno gwobr i Dafydd Iwan am ei waith fel Cadeirydd PEG.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015