Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu'n ôl i'r Ganolfan Rheolaeth

Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein lleoliad yn ddiogel i'w ailagor i'n gwesteion a'n hymwelwyr. Rydym yn falch o rannu'r newyddion y bydd ein llety i westeion yn ailagor yn fis Medi!

Mae nifer o fesurau mewn lle i greu amgylchedd diogel i bawb ynghyd â sicrhau bod prosesau iechyd a hylendid rhagorol yn cael eu gosod er diogelwch a chysur pawb. Gwelwch ein Polisïau Covid-19 yma

Gwelwch ein taith gerdded o amgylch Neuadd Hugh Owen yma

Byddwn yn parhau i adolygu a monitro arfer gorau o ganllawiau'r Llywodraeth er mwyn darparu lleoliad diogel i ymweld ag ef.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2020