1. Mae’r ffïoedd a nodir am hanner
cyntaf y
flwyddyn yn unig (o Fedi tan Chwefror). Mi fydd y
cyrsiau’n parhau drwodd i dymor yr haf ac mi
fyddwn ni’n casglu’r ffïoedd ar gyfer ail hanner y
flwyddyn ym mis Chwefror.
2. Mae'n arbed llawer o waith gweinyddol os telir
y ffioedd i gyd yn llawn yn y dosbarth cynta, ond
mae'n bosib trefnu i dalu mewn rhandaliadau
mewn achosion arbennig.
3. Mae'r gostyngiad "Di-gyflog" ar gael i unrhywun
sy ddim yn gyflogedig neu sy’n derbyn budd-dâl
fel cymorth incwm, budd-dâl anabledd, ac ati.
4. Cronfa Ddysgu Cymraeg i Oedolion
Os ydy eich incwm cartref yn llai na £25,000,
mae'n bosib byddwch chi'n medru cael cymorth
efo ffioedd a chostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs,
e.e. deunyddiau, gofal plant, teithio, ac ati. Bydd
ffurflenni cais ar gael yn y dosbarthiadau.