Fy ngwlad:
""

Cyrsiau Cymunedol Ym Mhrifysgol Bangor

Dysgu i Bawb – Meithrin Sgiliau, Cwrdd â Phobl, Rhoi Cynnig ar Rywbeth Newydd 

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ystod eang, a chynyddol, o gyrsiau byr, datblygiad proffesiynol parhaus, a chyfleoedd dysgu hyblyg wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'ch bywyd.

Rydym yn falch o gefnogi dysgu gydol oes drwy wneud addysg yn hygyrch i bawb, gyda'n cyrsiau cymunedol yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fframwaith Dysgu Gydol Oes Grŵp Llandrillo Menai, gan gefnogi cyfleoedd dysgu hygyrch ledled Gogledd Cymru.

Nid yw ein cyrsiau cymunedol yn ymwneud ag ennill cymwysterau yn unig; maen nhw hefyd yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd. Drwy gysylltiadau cryf â mentrau dysgu oedolion a chymunedol ledled Gogledd Cymru, rydym ni’n helpu i greu mannau croesawgar lle gall dysgwyr feithrin sgiliau, rhannu profiadau, a theimlo'n rhan o gymuned ddysgu ehangach.

P'un a ydych chi'n awyddus i ddatblygu'n broffesiynol, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, neu ailgysylltu â dysgu, mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi ym mhob cam. Mae llawer o'n cyrsiau dysgu cymunedol yn cael eu cyflwyno gyda'r nos ac yn rhad ac am ddim, gan ei gwneud hi'n haws cydbwyso dysgu â gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill.

""

Pam Dewis Cwrs Cymunedol?

  • Mae ein cyrsiau’n ymarferol ac yn berthnasol, gan eich helpu i feithrin sgiliau defnyddiol neu archwilio diddordebau newydd, heb ymrwymo i astudio'n llawn amser.
     
  • Maen nhw'n cynnig y cyfle i chi gysylltu, dysgu, a datblygu fel rhan o gymuned gefnogol.
     
  • Yn rhad ac am ddim
     
  • Gyda'r nos neu ar benwythnosau, gan ei gwneud hi'n haws cydbwyso dysgu â gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill. 
     
  • Ar gael i bawb, waeth beth fo'u cefndir neu brofiad. 

Y Cyrsiau Cymunedol sydd ar gael

Bob blwyddyn academaidd, rydym yn darparu detholiad eang ac amrywiol o gyrsiau cymunedol. O droseddeg a’r gyfraith i hanes Cymru, ymwybyddiaeth o ddyslecsia, a meddwl beirniadol, mae rhywbeth i bawb, beth bynnag fo’ch cefndir neu brofiad.

Isod fe welwch y cyrsiau sydd ar gael o hyd i ymuno â nhw yn y flwyddyn academaidd hon. 

Cadwch lygad ar Gyrsiau Byr a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys ein cyrsiau, digwyddiadau a chyf

Straeon Myfyrwyr

Clywch gan ein dysgwyr a dysgwch sut mae cyrsiau byr a dysgu cymunedol ym Mangor yn creu cysylltiad, hyder a phosibiliadau newydd.

Charlotte: O Gwrs Byr i Radd 

An image of Charlotte smiling to someone off camera in a large lecture theatre
Fideo: Charlotte: O Gwrs Byr i Radd

Manon: Cwrs Byr yn Ailgynnau Chwilfrydedd 

An image of Manon smiling to camera in a large lecture theatre
Fideo: Manon: Cwrs Byr yn Ailgynnau Chwilfrydedd

Llywela: Taith Ryfeddol at gael Gradd

An image of Llywela smiling to camera in a large lecture theatre
Fideo: Llywela: Taith Ryfeddol at gael Gradd

Bernard: Does Dim Diwedd ar Ddysgu 

An image of Bernard smiling to someone off camera in a large lecture theatre
Fideo: Bernard: Does Dim Diwedd ar Ddysgu