Cyrsiau Ar-lein Am Ddim i Ehangu’ch Gwybodaeth
Mae ein cyrsiau byr ar-lein, ein gweminarau a'n cyfleoedd dysgu hunan-gyfeiriedig wedi'u cynllunio gan academyddion ac ymarferwyr arbenigol Prifysgol Bangor ac maent yn cynnig ffordd hyblyg o archwilio pynciau newydd, meithrin gwybodaeth, neu brofi astudiaeth ar lefel prifysgol.
Gall ein harlwy gynnwys gweminarau am ddim, dysgu hunan-gyfeiriedig, cyrsiau ar-lein enfawr agored (MOOCs), sesiynau blasu a chyrsiau byr ar-lein. Mae rhai cyfleoedd am ddim, ac efallai y bydd ffi i ddilyn rhai cyrsiau. Edrychwch ar dudalen y cwrs unigol am fanylion.
Gyda darpariaeth hyblyg ar-lein a dim gofynion mynediad ffurfiol i lawer o’r cyfleoedd, gall dysgwyr gael mynediad at ddysgu o ansawdd uchel mewn ffordd sy'n gweddu i'w bywydau.
Pam Dewis Cyrsiau Byr Ar-lein a Gweminarau?
Astudio Hyblyg
Dysgu ar-lein sydd wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch amserlen chi.
Dewisiadau Hygyrch
Dewiswch o blith ystod o gyfleoedd dysgu ar-lein, gan gynnwys cyrsiau am ddim, cyrsiau cost isel a chyrsiau y mae’n rhaid talu amdanynt.
Dysgu o Unrhyw Le
Fe gewch fynediad i’r cyrsiau byr, y gweminarau a’r dysgu hunan-gyfeiriedig i gyd ar-lein.
Meithrin Gwybodaeth a Sgiliau
Dewch i archwilio pynciau newydd, dyfnhau eich gwybodaeth bresennol, neu baratoi ar gyfer astudiaethau bellach.