Fy ngwlad:
""

RHAGLENNI DPP YM MHRIFYSGOL BANGOR

Rhaglenni sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i uwchsgilio, ailsgilio, neu barhau â'u datblygiad proffesiynol trwy ddysgu hyblyg dan arweiniad prifysgol. 

Dysgu Proffesiynol sy'n Canolbwyntio ar Yrfa 

Mae ein cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) wedi'u cynllunio i gefnogi unigolion sy'n awyddus i ddyfnhau eu harbenigedd, datblygu sgiliau newydd, neu symud ymlaen yn eu maes.  

Mae ein rhaglenni wedi'u datblygu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr academaidd o bob rhan o Brifysgol Bangor ynghyd ag ymarferwyr arbenigol er mwyn darparu hyfforddiant proffesiynol o ansawdd uchel i ddysgwyr yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy ddarpariaeth hyblyg ar y campws ac ar-lein. 

Pam Dewis Cwrs DPP?

""

Dysgu Hyblyg 

Mae dewisiadau i astudio ar-lein ac ar y campws ac mae’r cyrsiau wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith a’ch ymrwymiadau personol. 

Datblygu eich Gyrfa 

Datblygwch sgiliau y mae galw amdanynt sy'n cyd-fynd ag anghenion diwydiant ac sy’n gwella eich hygrededd proffesiynol gyda chyflogwyr.

Cydnabyddiaeth 

Yn dibynnu ar y cwrs, efallai y byddwch yn gallu ennill oriau DPP, tystysgrif cwblhau, neu gredyd academaidd. Ceir manylion am y gydnabyddiaeth sydd ar gael ar dudalennau pob cwrs unigol. 

Sut y byddwch yn astudio?

Caiff ein cyrsiau DPP eu cyflwyno mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys ar-lein, ar y campws, trwy ddull cyfunol ac ar ffurf dwys a byr. Bydd y dull cyflwyno yn amrywio yn ôl cwrs.

Ewch i dudalen y cwrs unigol i weld manylion am gynnwys a strwythur y cwrs, dyddiadau dechrau a hyd y cyfnod astudio. 

""

Sut i Wneud Cais? 

Mae’r prosesau ymgeisio a chofrestru yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs. Mae rhai cyrsiau’n caniatáu ichi archebu’n uniongyrchol ar-lein, tra gall eraill ofyn  i chi fynegi diddordeb neu gysylltu â thîm y cwrs cyn gwneud cais.

Mae manylion cyswllt hefyd wedi'u cynnwys os oes gennych gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch cyn gwneud cais. 

Archwiliwch ein Cyrsiau DPP yn ôl Pwnc 

Porwch trwy’r cyrsiau DPP sydd ar gael isod. Os ydych chi'n chwilio am gyrsiau byr y cewch gredydau am eu gwneud, efallai yr hoffech archwilio ein micro-gymwysterau hefyd. Gall sefydliadau hefyd gysylltu â ni i drafod DPP wedi'i deilwra neu hyfforddiant pwrpasol. 

Addysg Weithredol:

Mae Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor yn cynnig ystod o raglenni dysgu o bell arloesol. Mae'r holl fodiwlau ar y MBA Bancwr Siartredig a'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol ar gael i'w hastudio fel modiwl annibynnol.

Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol canol gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad neu gymwysterau.

 

Micro-gymwysterau:

 

Cyrsiau Di-gredyd

Micro-gymwysterau:

 

Cyrsiau di-gredyd:

Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau gyda’r nos mewn tair iaith:

Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr sydd am adnewyddu sgiliau iaith sydd wedi darfod neu barhau o astudiaethau TGAU/UG.

Mae dysgu iaith yn weithgaredd pleserus a heriol, ac yn eich annog i ehangu eich gorwelion, agor drysau i ddiwylliannau eraill ac ehangu eich cylch cymdeithasol.

Mae’r dosbarthiadau wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr (A1) i ddysgwyr uwch (B1) sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith. Gallwch ddarganfod mwy am y lefelau gwahanol yma.

Bydd y modiwlau ar gael ar sail archwilio yn unig – hynny yw, ni fydd unrhyw asesiad ffurfiol o’r modiwl ac ni fydd unrhyw gredydau’n cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau’r modiwl.

Cynhelir cyrsiau yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn – os bydd cyrsiau’n orlawn, bydd cofrestru’n cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Yr oedran lleiaf yw 18.

Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin – Cyrsiau i Bob Lefel

P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, mae Prifysgol Bangor yn cynnig rhaglen strwythuredig ac effeithiol i gefnogi oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

  • Mynediad – Yn cyflwyno geirfa, patrymau iaith sylfaenol ac ymadroddion pob dydd, gyda phwyslais ar siarad yr iaith.
  • Lefelau Eraill – Mae cyrsiau lefelau eraill yn cynnwys cyrsiau Mynediad Lefel 2, Sylfaen, Canolradd, ac Lefel Uwch 1, 2 a 3. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau gloywi sydd wedi’u teilwra ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd sydd wedi cwblhau lefel Uwch. Nod cyffredinol y cyrsiau ydy datblygu sgiliau siaradwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.
    Cynhelir cyrsiau mewn cymunedau ar draws Gwynedd, Môn a Chonwy, yn ogystal ag ar-lein ar wahanol adegau i gyd-fynd â’ch anghenion.

I gofrestru ewch i dysgucymraeg.cymru a dilyn dolen 'dod o hyd i gwrs'.

Cysylltwch am wybodaeth bellach: 01248 383928 /  dysgucymraeg@bangor.ac.uk

Micro-gymwysterau:

 

Cyrsiau DPP:

 

Cyrsiau Cymunedol

Cadwch lygad ar y cyrsiau byr, yr hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus a’r cyfleoedd dysgu hyblyg sydd ar gael gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor 

Ymunwch â’n rhestr bostio