Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r hyfforddiant 7 diwrnod hwn, sy'n seiliedig ar ymarfer, wedi ei gynllunio i gryfhau eich cymwyseddau wrth addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn lleoliadau personol a phroffesiynol.
Bydd yr hyfforddiant trochol hwn, a gyflwynir ar-lein, yn datblygu eich hyder ymhellach mewn byw bywyd pob dydd gydag ymwybyddiaeth ofalgar ac addysgu sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar trwy ddealltwriaeth ehangach a dyfnach o ymwybyddiaeth ofalgar a'r materion ehangach sy'n newid yn barhaus ac sy'n effeithio ar y ffordd rydym yn ymateb i'r byd.
*Sylwer: cyfeiriwyd at hwn yn flaenorol fel y cwrs Mynd yn Ddyfnach yn nogfennau llwybr hyfforddi athrawon - mae'r enw wedi ei newid i osgoi dryswch â chyrsiau eraill o'r un enw ond mae'r cynnwys yr un peth*
Mae gan yr hyfforddiant ddau brif nod:
- ehangu sgiliau a dealltwriaeth y tu hwnt i unrhyw hyfforddiant arbenigol blaenorol trwy archwilio ymhellach themâu allweddol o fewn ymwybyddiaeth ofalgar a ffyrdd o gysylltu'r rhain yn effeithiol ag eraill.
- dyfnhau sgiliau a dealltwriaeth trwy i/ hyfforddiant sy'n cael ei arwain gan egwyddorion ac sy'n seiliedig ar y 6 maes MBI-TAC (yn hytrach na bod yn gyfyngedig i unrhyw gwricwlwm penodol 8 wythnos); a ii/ cynnig mentora arddull dosbarth meistr i arwain y prif arferion ymwybyddiaeth ofalgar ffurfiol (sganio’r corff, symud ac eistedd) a'r broses ymholi sy'n gysylltiedig â'r rhain iii) archwilio a gwella dealltwriaeth o rai o'r prif themâu addysgu fel sy'n berthnasol i'r arbenigedd addysgu penodol rydych wedi ei ddewis.
Mae hwn yn gam hanfodol wrth gwblhau ein rhaglen hyfforddi fodiwlaidd gynhwysfawr, a gyflwynir gan y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
- Athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sydd â phrofiad o addysgu dan oruchwyliaeth sy'n dymuno trafod sut i addysgu mewn ffordd fwy corfforedig
- Athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sy'n dymuno ehangu eu repertoire o gyd-destunau addysgu a phoblogaethau gyda hyder ac uniondeb er mwyn bod yn fwy ymatebol yn y byd sydd ohoni
- Athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sy'n dymuno adeiladu ar sgiliau presennol o ran arwain arferion ac ymholi
- Y rhai sy'n hyfforddi i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar i eraill ac arwain ymarfer sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn amrywiaeth eang o leoliadau a chyd-destunau
Pam astudio’r cwrs?
- Dysgu sgiliau a chael profiad o addysgu corfforedig
- Dysgu cyfleu ymwybyddiaeth ofalgar o'r egwyddorion sylfaenol
- Deall yn fanylach themâu allweddol ymwybyddiaeth ofalgar gan gynnwys canfyddiad, y corff a symudiad, gweithio gyda heriau, meithrin cyflyrau lles, cyfathrebu a byw gydag ymwybyddiaeth mewn bywyd bob dydd
- Dysgu colegol trwy gyd-drafod dulliau ac arddulliau addysgu
- Learn through focused mentoring with highly experienced trainers on core practices and inquiry
- Cynyddu cymhwysedd ym meysydd yr MBI-TAC (mae rhagor o wybodaeth am yr MBI-TAC ar gael yma)
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
- 7 niwrnod (dyddiadau i'w cadarnhau) (2 floc o 3.5 diwrnod)
Tiwtor
Dr Sophie Sansom
Mae Sophie yn gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor: Fel uwch ddarlithydd, mae Sophie yn dysgu ar y rhaglen meistr ac mae'n frwd dros fentrau cymdeithasol ac amgylcheddol ar ôl cyd-ddatblygu'r rhaglen Inner Change Works (ICW) yn ddiweddar. Mae Sophie’n sylfaenydd SiTT (Support for Integrity in Teaching and Training) ac mae hi wedi sefydlu fframweithiau ar gyfer datblygu cymunedol a safonau proffesiynol yn y maes. Ar ôl datblygu dull arloesol ar y cyd i gael cydnabyddiaeth i’r cwricwla MBP newydd, mae Sophie yn cadeirio panel cydnabyddiaeth rhyngwladol yr European Association of Mindfulness-based Approaches (EAMBA). Mae Sophie yn arwain ar ysgolheictod a datblygiad ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar - meini prawf asesu addysgu. Mae gwaith academaidd Sophie yn trafod ffyrdd o gefnogi arloesi a hygyrchedd addysgeg tra’n cynnal ansawdd a chywirdeb; rhan allweddol o’i gwaith fel cadeirydd y British Association of Mindfulness-based Approaches (BAMBA).
Cost y Cwrs
- Y ffi ar gyfer Medi 2027 fydd £980 (yn cynnwys TAW).
Gofynion Mynediad
- Cyfranogiad mewn rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar wyth wythnos o hyd
- Hyfforddiant hanfodion (neu gyfwerth) ac o leiaf un hyfforddiant arbenigol (e.e. MBCT/MBSR/ymwybyddiaeth ofalgar mewn cyd-destun un i un/ymwybyddiaeth ofalgar yn y gwaith)
- Wedi bod mewn o leiaf un encil ymwybyddiaeth ofalgar 5 diwrnod
- O leiaf 9 mis o brofiad dysgu a/neu wedi dysgu o leiaf 2 gwrs MBCT/MBSR
- Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i gyfranogwyr ymgyfarwyddo mwy â’r parthau MBI TAC trwy hyfforddiant Lefel 1 MBI TAC
- Rhaid i gyfranogwyr ymrwymo i'r hyfforddiant ar-lein yn ei gyfanrwydd. Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, ni allwn gytuno i unrhyw un gyrraedd yn hwyr na gadael yn gynnar. Os nad yw hyn yn bosib, cysylltwch â ni i drafod cyn cyflwyno cais.
Gwneud Cais
I gofrestru eich diddordeb ar gyfer y cwrs, cliciwch ar y ddolen isod:
Datblygu Ymwybyddiaeth Ofalgar: Cydgrynhoi ac ymgorffori eich hyfforddiant (2027)