Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ydych chi'n gweithio mewn amgylchedd dwys iawn? Mae’r rhaglen chwe wythnos hon wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn amgylcheddau dwys eu natur ac o dan bwysau amser. Datblygwyd hi yn Adelaide yn 2008 gan Dr Maura Kenny, seiciatrydd ac hyfforddwr‑hyfforddwyr cydnabyddedig ym maes Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Mindfwlni, gyda diddordeb arbennig mewn rheoli straen yn y gweithle. Cynigiwyd y cwrs byrrach a phenodol hwn i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill a oedd yn dymuno ymarfer mindfwlni er budd eu bywydau personol a’u bywydau gwaith.
Mae’r cwrs yn cyflwyno cysyniadau ac ymarferion myfyrdod mindfwlni a hyfforddiant meddwl tosturiol, gyda phwyslais arbennig ar ddysgu sut i reoli straen yn fwy effeithiol mewn sefyllfaoedd gwaith a chartref. Bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu ag ymarferion sy’n gwella ffocws, sefydlogrwydd a hunan‑dosturi, gan eu helpu i ailgysylltu â’r hyn sy’n bwysicaf yn eu gwaith, cefnogi eu lles personol a chyfrannu at ddiwylliant gweithle iachach a mwy cynaliadwy.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn, gan gynnwys gofal iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, lleoliadau cyfreithiol, a sefydliadau trydydd sector. Os yw eich swydd yn cynnwys sefyllfaoedd pwysau uchel a gofynion emosiynol, bydd y rhaglen hon yn dysgu ffyrdd ymarferol i chi i wella gwytnwch a lles.
Pam astudio’r cwrs?
Mae'r Rhaglen Hunanofal Ystyriol wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi gweithwyr proffesiynol mewn gweithleoedd heriol. Trwy'r cwrs hwn, byddwch yn:
- Cael dealltwriaeth ddyfnach o straen a chwythu plwc a sut maent yn effeithio ar les.
- Datblygu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi i ymateb yn fwy effeithiol i heriau yn y gweithle.
- Dysgu technegau ymarferol i wella ffocws, sefydlogrwydd emosiynol, a hunan-dosturi.
- Ailgysylltu â'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yn eich gwaith, gan feithrin egni a chymhelliant o’r newydd.
- Symud y tu hwnt i ymdopi yn unig, ac yn hytrach, meithrin agwedd iachach a mwy cynaliadwy at eich bywyd proffesiynol.
Nid yw'r cwrs hwn yn ymwneud â rheoli straen yn unig - mae'n ymwneud â ffynnu yn eich swydd a chael effaith gadarnhaol ar eich gweithle.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Cyflwynir y cwrs byr hwn ar-lein dros chwe wythnos, trwy sesiynau 75 munud o hyd ar ddydd Iau.
Bydd y cwrs nesaf yn cychwyn ar ddydd Iau 16 Ebrill ac yn rhedeg hyd at ddydd Iau 28 Mai 2026,
4.45pm tan 6pm.
Tiwtoriau
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan un o’n tiwtoriaid ymwybyddiaeth ofalgar arbenigol: Sarah Millband, Christina Shennan, neu Phoebe Roman. Mae pob un o’n tiwtoriaid yn ymarferwyr ymwybyddiaeth ofalgar hyfforddedig a phrofiadol iawn, gydag arbenigedd helaeth mewn cefnogi unigolion sy’n gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn.
Mae Sarah Millband yn seicotherapydd, yn athrawes ymwybyddiaeth ofalgar, yn hyfforddwr ac yn oruchwyliwr. Mae’n addysgu ymwybyddiaeth ofalgar yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gleifion, myfyrwyr meddygaeth a staff clinigol ac yn y sector gwirfoddol i staff a gwirfoddolwyr, i ofalwyr a thrwy bartneriaethau presgripsiynu cymdeithasol. Mae Sarah yn byw yn Ne Cymru ac yn dysgu’r Rhaglen Hunanofal Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Christina yn diwtor ar y radd Meistr mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP), Prifysgol Bangor ac mae’n dysgu Rhaglen Hunanofal Ymwybyddiaeth Ofalgar i’r Brifysgol. Mae'n gweithio fel seicotherapydd ac athrawes ymwybyddiaeth ofalgar mewn Gwasanaethau Seicolegol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ym maes oncoleg. Mae gan Christina brofiad helaeth o gefnogi staff a gofalwyr, yn enwedig ym maes oncoleg, ac mae’n arwain gweithdai sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i weithwyr iechyd proffesiynol.
Mae Phoebe wedi gweithio yng ngwasanaethau gofal iechyd meddwl eilaidd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers 1989. Mae’n arwain y modiwl Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Therapi Ymddygiad Dialectig ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n athrawes ac yn oruchwyliwr cyrsiau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi staff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gynnwys trwy raglenni ymwybyddiaeth ofalgar.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r cwrs byr hwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol o ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi, gan eich helpu i ddatblygu strategaethau ymarferol i reoli straen yn fwy effeithiol. Byddwch yn archwilio:
- Gwyddor straen: deall sut mae straen yn effeithio ar y corff a'r meddwl.
- Patrymau meddwl sy'n cyfrannu at straen a sut i'w hadnabod a chamu'n ôl oddi wrthynt.
- Technegau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi i wella lles personol.
- Strategaethau i feithrin profiad gweithle iachach.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych becyn cymorth o ddulliau ymarferol i wella gwytnwch, ffocws, a lles cyffredinol yn eich bywyd proffesiynol a phersonol.
Beth mae dysgwyr yn ddweud am y cwrs?
“mae'n wych sut dwi'n sylwi cymaint mwy ac yn gallu arafu a dewis fy ymateb i bethau”
“Gwnaeth i mi feddwl yn fwy cadarnhaol amdanaf fy hun a bywyd yn gyffredinol”
“Fe helpodd fi i ailasesu fy llwyth gwaith a chanolbwyntio ar bethau y gallaf eu rheoli.”
“Roedd cael lle diogel ac ymroddedig i rannu fy meddyliau a’m teimladau a chlywed gan eraill yn ddylanwadol ac wedi helpu i normaleiddio a rhesymoli rhai o’r pethau sy’n achosi straen i mi.”
Cost y Cwrs
£200 (pris yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26)
Gwneud Cais
Mae cofrestru ar gyfer y cwrs nesaf bellach ar agor. Bydd y cwrs yn rhedeg o ddydd Iau 16 Ebrill hyd at ddydd Iau 25 Mai 2026, gyda sesiynau wythnosol rhwng 4.45pm a 6pm.
I sicrhau eich lle, gallwch gofrestru a thalu drwy ein siop ar-lein:
Cofrestrwch a thalwch drwy’r Siop Ar-lein
Caiff eich lle ei gadarnhau unwaith bydd y taliad wedi'i dderbyn. Argymhellir cofrestru’n gynnar.