Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs byr hwn yn cynnig cyflwyniad i ysgrifennu creadigol drwy gyfres o weithdai diddorol dan arweiniad awduron ac academyddion profiadol. Bydd cyfranogwyr yn archwilio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau creadigol, yn datblygu eu hysgrifennu eu hunain, ac yn arbrofi gyda ffurf, llais ac arddull mewn amgylchedd cefnogol.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol ar gyfer mynegiant personol, creadigrwydd a mwynhad.
Mae’r cwrs hefyd yn gweithredu fel sail i asesu diddordeb o fewn y gymuned, gyda’r potensial ar gyfer sesiynau mwy pwrpasol yn y dyfodol yn seiliedig ar anghenion cyfranogwyr a diddordebau sy’n datblygu.
Mae pob sesiwn graidd yn cael ei dilyn gan weithdy a chlinig ysgrifennu, gan ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwaith, derbyn adborth, a dyfnhau eu hymarfer.
Iaith y cwrs
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Darlithydd
Dr Fiona Cameron
Dr Alys Conran
Professor Zoe Skoulding
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
- Annog ysgrifennu fel ffurf ar fynegiant personol, creadigrwydd a mwynhad
- Cyflwyno ystod o ffurfiau a thechnegau ysgrifennu creadigol
- Meithrin hyder wrth rannu a thrafod gwaith creadigol mewn amgylchedd cefnogol
- Meithrin ymdeimlad o gymuned drwy drafodaeth grŵp, adborth a darlleniadau
- Nodi diddordebau’r cyfranogwyr i lywio datblygiad posibl cyrsiau yn y dyfodol
Wythnos 1: Cyflwyniad i Farddoniaeth
- Archwilio ffurfiau barddonol
- Ysgogiadau ysgrifennu i danio creadigrwydd
- Canolbwyntio ar ddelweddaeth, rhythm, a llais
Wythnos 2: Gweithdy Barddoniaeth a Chlinig Ysgrifennu
- Rhannu a thrafod gwaith cyfranogwyr
- Adborth dan arweiniad mewn amgylchedd cefnogol
- Cymorth ysgrifennu un-i-un ac mewn grwpiau bach
Wythnos 3: Cyflwyniad i Ffuglen
- Creu cymeriad, lleoliad, a llais naratif
- Ymarferion byr mewn adrodd straeon
- Datblygu syniadau yn ddarnau byr
Wythnos 4: Gweithdy Ffuglen a Chlinig Ysgrifennu
- Gweithio ar ddrafftiau
- Adborth ar strwythur, arddull, a chymeriad
- Canllawiau ysgrifennu wedi’u targedu
Wythnos 5: Cyflwyniad i Ddi-ffuglen Greadigol
- Ysgrifennu o brofiad personol
- Archwilio cofiant, myfyrdod, ac arsylwi
- Canfod dilysrwydd a llais
Wythnos 6: Gweithdy Di-ffuglen a Chlinig Ysgrifennu
- Rhannu gwaith
- Adborth ar eglurder, naws, a strwythur
- Sesiwn gymorth ysgrifennu derfynol
Sesiwn Derfynol Dewisol: Darlleniad Grŵp
Sesiwn anffurfiol a dathliadol lle mae cyfranogwyr a thiwtorion yn dod ynghyd i rannu darnau dethol o ysgrifennu. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrio ar gynnydd, meithrin hyder, a dathlu cyflawniadau.
Bob wythnos, bydd yr amser yn: 6.00pm–8.00pm, a chynhelir y sesiynau hefyd yn Canolfan Rheolaeth D2.07, Prifysgol Bangor.
12/05/2026
19/05/2026
26/05/2026
02/06/2026
09/06/2026
16/06/2026
Cost y Cwrs
Does dim cost i'r cwrs.
Gwneud Cais
Mae’r cwrs hwn bellach yn llawn. I ymuno ar ein rhestr wrth gefn, cofrestrwch eich diddordeb. Os ddaw lle ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor