Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r modiwl craidd hwn yn cyfarparu myfyrwyr i ddylunio, cynnal a gwerthuso'n feirniadol ymchwil addysgol annibynnol. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgysylltu â llenyddiaeth ryngwladol, yn archwilio methodolegau amrywiol, ac yn cymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i gynhyrchu ymholiad ystyrlon o fewn eu cyd-destun proffesiynol eu hunain
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Ymarferwyr sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y sector addysg. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Uwch arweinwyr
- Athrawon
- Cynorthwywyr addysgu
- Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Ymarferwyr sy'n gweithio yn yr awdurdod lleol
- Partneriaid gwella ysgolion
- Staff Estyn
Pam astudio’r cwrs?
Erbyn diwedd y modiwl, dylai'r myfyriwr allu:
- Cynllunio eu hastudiaethau ymchwil/ymholiadau annibynnol eu hunain o fewn cyd-destun neu leoliad eu hysgol/sefydliad addysgol eu hunain.
- Ymgysylltu'n feirniadol â'r llenyddiaeth ymchwil ryngwladol mewn ffyrdd sy'n llywio eu hymchwil annibynnol a'u hymarfer proffesiynol parhaus.
- Myfyrio ar y dadleuon damcaniaethol cyfredol o fewn y gwyddorau cymdeithasol ac o fewn ymchwil addysgol er mwyn llywio eu penderfyniadau ynghylch dylunio ac ymholi ymchwil.
- Gwerthuso prosesau ymchwil/ymholi uwch yn feirniadol, gan gynnwys dylunio ymchwil, dadansoddiadau data a chynrychiolaeth data.
- Gwerthuso gwahanol baradaimau, methodolegau a safbwyntiau ymchwil yn feirniadol a'u cymhwyso o fewn eu cyd-destun proffesiynol eu hunain.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae'r cwrs byr hwn yn rhedeg dros un flwyddyn academaidd
Gwybodaeth am asesiadau
Mae'r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu cynnig ymchwil 4000 o eiriau
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil annibynnol o fewn eu cyd-destun addysgol eu hunain drwy ddatblygu sgiliau ymholi a dadansoddi uwch sy'n hanfodol ar gyfer astudiaeth lefel Meistr. Bydd dysgwyr yn archwilio'n feirniadol ystod o baradaimau ymchwil, fframweithiau damcaniaethol, a dulliau methodolegol sy'n sail i ymchwil addysgol effeithiol, gan gynnwys ymholi ansoddol, meintiol, a dulliau cymysg.
Bydd myfyrwyr yn ennill arbenigedd mewn dylunio a chynllunio astudiaethau ymchwil ar raddfa fach, gan gynnwys adolygiadau llenyddiaeth, technegau casglu a dadansoddi data, a chyflwyno canfyddiadau'n effeithiol. Mae'r modiwl hefyd yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i foeseg ymchwil, gan alluogi dysgwyr i gynnal ymholiad sy'n gadarn yn fethodolegol ac yn gyfrifol yn foesegol.
Drwy ymgysylltu â llenyddiaeth addysgol ryngwladol, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y gall safbwyntiau ymchwil byd-eang lywio a chyfoethogi arfer lleol. Byddant yn cael eu hannog i gymhwyso'r mewnwelediadau hyn i lunio eu hymholiad proffesiynol eu hunain, gan sicrhau bod eu hymchwil yn berthnasol, yn seiliedig ar dystiolaeth a chyd-destun.
Erbyn diwedd y modiwl, bydd myfyrwyr wedi'u cyfarparu â'r offer hanfodol a'r hyder i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil neu ymholi yn annibynnol sy'n cyfrannu'n ystyrlon at eu datblygiad a'u hymarfer proffesiynol.
Gwybodaeth bellach
Mae pob llyfr gwaith ar-lein ar gael yn ddwyieithog. Lle bo modd, cynigir sesiynau cydamserol ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fodd bynnag, nodwch, os nad oes digon o gyfranogwyr sy'n siarad Cymraeg i alluogi trafodaeth ystyrlon, efallai y cewch wahoddiad i ymuno â sesiwn cyfrwng Saesneg.
Cost y Cwrs
Cost y cwrs hwn yw £975.00.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn unrhyw bwnc. Er mwyn gallu cwblhau gweithgareddau myfyriol o fewn y llyfrau gwaith a'r aseiniadau, rhaid i ymgeiswyr hefyd fod â rôl gyfredol o fewn y sector addysg.
Lefel o sgiliau iaith Saesneg
Rhugl
Lefel o sgiliau iaith Cymraeg
Rhugl, os ydych chi am gymryd rhan drwy'r llwybr cyfrwng Cymraeg.
Nid oes angen os ydych chi'n cwblhau'r cwrs drwy gyfrwng y Saesneg.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Addysg. Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch: y cod yw: XME-4312 XMC-4312. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol.