Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r broses ymholi yn ganolog wrth addysgu Lleihau Straen ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR), Therapi Gwybyddol wedi’i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) a dulliau wedi eu haddasu ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar. Yn wahanol i elfennau eraill o addysgu ymwybyddiaeth ofalgar, nid oes modd ymarfer mewn paratoad ar gyfer ymholi, ac ar adegau gall damcaniaethau ac amrywiol bethau y ‘dylid’ eu gwneud rwystro’r hyn a all fod yn broses ddarganfod hylifol, ffrwythlon a phleserus. Bydd yr hyfforddiant deuddydd hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu ymhellach eich dealltwriaeth, eich sgiliau a’ch hyder wrth ymwneud â’r broses ymholi.
Hyfforddiant trwy brofiad fydd hwn yn bennaf a bydd yn canolbwyntio ar ddod ag ymholi yn ôl at ei hanfod, gan gefnogi athrawon i wrando, ymlacio a mwynhau'r broses ymholi. Fel rhan o hyn, byddwn yn archwilio beth yw’r bwriad wrth ymholi oddi fewn ac oddi allan i'r broses, ac yn darganfod harddwch ymholi fel ffurf ar gefnogaeth sy’n dod â rhyfeddod i'n bywydau. Bydd digon o gyfle i ymarfer ymholi mewn grwpiau bach gydag chyd-athrawon ymwybyddiaeth ofalgar eraill o dan arweiniad y tîm hyfforddi.
Mae'r hyfforddiant hwn yn elfen o'r Llwybr Hyfforddi Ymwybyddiaeth Ofalgar ffurfiol a gyflwynir mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, a gellir cynnwys y dystysgrif presenoldeb ym Mhortffolio eich Llwybr Hyfforddi. Gellir dilyn y cwrs hwn hefyd fel digwyddiad hyfforddi annibynnol fel rhan o'ch Datblygiad Proffesiynol a Phersonol Parhaus. Os byddwch yn cofrestru ar y llwybr hyfforddi ar ôl cwblhau'r hyfforddiant hwn, gellir cynnwys y dystysgrif yn ôl-weithredol.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs yn agored i athrawon ymwybyddiaeth ofalgar profiadol fel cyfle i adnewyddu eu hymarfer personol a’u hymarfer addysgu ac mae hefyd yn agored i athrawon newydd sydd yn dechrau datblygu eu sgiliau addysgu.
Pam astudio’r cwrs? Beth ydy prif nod y cwrs?
1. Gwella dealltwriaeth o'r broses ymholi
a. Archwilio ymholi fel elfen ganolog a neilltuol o addysgu ar sail ymwybyddiaeth ofalgar.
b. Egluro ei swyddogaeth fel rhan o MBSR, MBCT, a dulliau sydd wedi eu haddasu.
2. Datblygu hyder a sgiliau wrth hwyluso ymholiad
a. Cryfhau'r capasiti i gynnal ymholiad fel proses hylifol ac ymatebol, nad yw’n cael ei ymarfer ymlaen llaw.
b. Meithrin hyder wrth lywio ymholiad heb ddibynnu ar ddamcaniaethau anhyblyg na pethau y “dylid” eu gwneud.
3. Dychwelyd ymholi at ei hanfod
a. Pwysleisio presenoldeb, chwilfrydedd, a bod yn agored yn y foment.
b. Annog athrawon i wrando’n astud, ymlacio, ac ymgysylltu â’r broses ymholi fel un bleserus a chreadigol.
4. Archwilio bwriadau a swyddogaethau ymholiad
a. Ymchwilio i bwrpas ymholi o fewn profiad y cyfranogwr ac o safbwynt yr athro/athrawes.
b. Deall ymholi fel ffordd o feithrin darganfyddiad, mewnwelediad a rhyfeddod.
5. Ymgysylltu ag ymarfer trwy brofiad
a. Cymryd rhan mewn ymarferion i grwpiau bach er mwyn ymarfer ymholi mewn amgylchedd lle ceir cefnogaeth.
b. Derbyn arweiniad ac adborth gan hyfforddwyr profiadol.
6. Cefnogi datblygiad proffesiynol
a. Integreiddio'r hyfforddiant i'r Llwybr Hyfforddi Ymwybyddiaeth Ofalgar ffurfiol mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor.
b. Ennill tystysgrif presenoldeb i'w chynnwys ym Mhortffolio’r Llwybr Hyfforddi neu fel rhan o Ddatblygiad Proffesiynol a Phersonol Parhaus.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs deuddydd hwn ei gyflwyno ar-lein ar 10-11 Chwefror 2027, rhwng 9.30am a 5.30pm.
Tiwtor
Dr Sophie Sansom
Sophie yw cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor: Fel uwch ddarlithydd, mae Sophie yn addysgu ar y rhaglen meistr ac mae'n frwd dros fentrau cymdeithasol ac amgylcheddol ar ôl cyd-ddatblygu'r rhaglen Inner Change Works (ICW) yn ddiweddar. Fel sylfaenydd SiTT (Support for Integrity in Teaching and Training) mae Sophie wedi sefydlu fframweithiau ar gyfer datblygu cymunedol a safonau proffesiynol yn y maes. Ar ôl cydweithredu i ddatblygu dull arloesol o gael cydnabyddiaeth i’r cwricwla MBP newydd, Sophie sydd bellach yn cadeirio panel cydnabyddiaeth rhyngwladol yr European Association of Mindfulness-based Approaches (EAMBA). Gan ei bod yn arwain o ran ysgolheictod ac yn datblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mae gwaith academaidd Sophie yn archwilio ffyrdd o gefnogi arloesedd a hygyrchedd addysgeg tra’n cynnal ansawdd ac uniondeb; mae hyn yn rhan allweddol o’i gwaith fel cadeirydd y British Association of Mindfulness-based Approaches (BAMBA).
Cost y Cwrs
Y ffi ar gyfer Chwefror 2027 fydd £377.00 (yn cynnwys TAW).
Gofynion Mynediad
Rhagofynion i fynychu:
- profiad personol o gwrs wyth wythnos MBCT neu MBSR
- yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn bersonol ers tro byd
- wedi dilyn hyfforddiant Essentials y Mindfulness Network neu hyfforddiant tebyg
- bod â rhywfaint o brofiad o addysgu Ymyriadau/Cyrsiau ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar
Rhaid i gyfranogwyr ymrwymo i'r hyfforddiant ar-lein yn ei gyfanrwydd. Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, ni allwn gytuno i unrhyw un gyrraedd yn hwyr na gadael yn gynnar. Os nad yw hyn yn bosib, cysylltwch â ni i drafod cyn cyflwyno cais.
Gwneud Cais
I gofrestru ar gyfer y cwrs, cliciwch ar y ddolen isod:
Hyfforddiant Arbenigol - Sgiliau Ymholi (2027)