Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein cyrsiau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ogystal â’r rhai y tu allan i’r Brifysgol.
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hein wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o lefelau - o ddechreuwyr i ddysgwyr a allai fod eisiau adnewyddu sgiliau iaith sydd angen dipyn bach o waith ac/neu barhau o astudiaethau TGAU/Lefel A.
*Mae cyrsiau’n cael eu cynnal yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn - mewn achosion lle mae cyrsiau’n orlawn byddwn yn gweithredu cofrestru ar sail y cyntaf i’r felin. Yr isafswm oedran yw 18.
Amserlen y cwrs
- Dechrau: 6.10pm
- Egwyl: 7.00pm - 7.10pm
- Diwedd: 8.00pm
- Sesiwn gyntaf: wythnos sy'n dechrau 5 Hydref 2026.
- Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos sy'n dechrau 2 Tachwedd 2026.
- Sesiwn olaf: wythnos sy'n dechrau 14 Rhagfyr 2026.
Dosbarthiadau sydd ar gael
Dechreuwyr (A1) – Cod LXN-1021
Grŵp 1 - Dydd Llun (LR1)
Grŵp 2 - Dydd Mawrth (LR1)
Canolradd (A2) – Cod LXN-1051
Dydd Mercher (LR1)
Ystafelloedd Darlithio
Mae Ystafelloedd Darlithio (LR) 1, 2, 3 i gyd wedi'u lleoli ar lawr cyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau (Bangor LL57 2DF). Trowch i'r chwith ar ben y grisiau. Mae maes parcio ar gael wrth yr adeilad hwn, sydd fel arfer yn rhad ac am ddim gyda'r nos.
Amserlen y cwrs
- Dechrau: 6.10pm
- Egwyl: 7.00pm - 7.10pm
- Diwedd: 8.00pm
- Sesiwn gyntaf: wythnos sy'n dechrau 1 Chwefror 2027.
- Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos sy'n dechrau 1 Mawrth 2027.
- Gwyliau'r Gwanwyn (3 wythnos, dim sesiynau): wythnos sy'n dechrau 22 Mawrth 2027.
- Sesiwn olaf: wythnos sy'n dechrau 3 Mai 2027.
Dosbarthiadau sydd ar gael
Dechreuwyr (A1) – Cod LXN-1524
Dydd Llun (LR1)
Dechreuwyr Uwch (A1+) – Cod LXN-1022
Dydd Mawrth (LR1)
Canolradd Uwch (A2+) – Cod LXN-1052
Dydd Mercher (LR1)
Ystafelloedd Darlithio
Mae Ystafelloedd Darlithio (LR) 1, 2, 3 i gyd wedi'u lleoli ar lawr cyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau (Bangor LL57 2DF). Trowch i'r chwith ar ben y grisiau. Mae maes parcio ar gael wrth yr adeilad hwn, sydd fel arfer yn rhad ac am ddim gyda'r nos.
Ieithoedd I Bawb - Pa Lefel Sydd I Mi?
Edrychwch ar y disgrifyddion isod i werthuso’r lefel ddelfrydol ar gyfer eich gofynion chi. Os nad ydych yn siŵr pa lefel sydd orau i chi, siaradwch gyda’r tiwtor ar y noson cyntaf am gyngor ac arweiniad.
Dechreuwyr (CEFR*: A1) Rydych yn ddechreuwr pur, heb nemor ddim gwybodaeth o’r iaith. Byddwch yn dod yn fedrus mewn amrywiaeth o dasgau iaith syml, mewn sefyllfaoedd bob dydd y gellir eu rhagweld. Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth sylfaenol iawn o gystrawen a geirfa’r iaith.
Dechreuwyr a mwy (CEFR*: A1+) Efallai y byddwch wedi astudio’r iaith yn yr ysgol ers rhai blynyddoedd neu ddilyn cwrs dechreuwyr. Mae gennych eirfa gyfyngedig iawn a rhywfaint o ddealltwriaeth o’r cystrawennau sylfaenol. Bydd y cwrs yn cyflwyno amseroedd newydd y ferf a’ch helpu i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd bob dydd, yn gymdeithasol neu yn y gwaith..
Canolradd (CEFR*: A2) Mae gennych sylfaen resymol yn yr iaith ar lefel ysgol, efallai i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd o ‘raid’. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer iaith syml yn unig yn ystod eich gwyliau tramor, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn codi’n rheolaidd.
Canolradd a mwy (CEFR*: A2+) Mae gennych sylfaen gadarn yn yr iaith ar lefel ysgol, bron yn sicr i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyffredin. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer dialogau syml yn unig yn ystod eich gwyliau neu’ch taith dramor ar gyfer eich gwaith, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd a chyfrannu at sgyrsiau o ddiddordeb cyffredin.
*CEFR = Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin o ran lefelau iaith.
Deunyddiau Dysgu a Gwerslyfrau
Gwerslyfrau
Mae ein modiwlau yn gofyn i fyfyrwyr brynu gwerslyfr. Cyn gynted ag y byddwch wedi cael eich derbyn ar fodiwl, sicrhewch eich bod yn prynu'r gwerslyfr perthnasol ar gyfer eich lefel.
Dechreuwyr a Dechreuwyr Uwch:
Totem: Livre de l'élève A1 + DVD-Rom + manuel numérique simple gan Marie-José Lopes a Jean-Thierry Le Bougnec
Canolradd a Chanolradd Uwch:
Totem: Livre de l'élève A2 + DVD-Rom + manuel numérique simple gan Jean-Thierry Le Bougnec a Marie-José Lopes
Uwch ac Uwch Plus:
Totem: Livre de l'élève B1 + DVD-Rom + manuel numérique simple gan Jean-Thierry Le Bougnec a Marie-José Lopes
* CEFR = Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer lefelau iaith.
Am ragor o gymorth a chyngor ynghylch y lefelau iaith, cysylltwch â ni. Cofiwch nodi pa iaith y mae gennych ddiddordeb mewn ei dysgu.
Cost y Cwrs
Rwy'n Fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor
Gall myfyrwyr Prifysgol Bangor gofrestru ar fodiwlau Ieithoedd i Bawb am ffi o £60 y modiwl. Caiff y modiwlau hyn eu cyflwyno ar sail archwilio yn unig (audit mode), heb unrhyw asesiad ffurfiol na chredydau academaidd yn cael eu dyfarnu.
Rwy'n Fyfyriwr Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Bangor
Bydd myfyrwyr sy'n dewis modiwlau Ieithoedd i Bawb fel rhan o'u Blwyddyn Sylfaen yn cael y cwrs ac am ddim fel rhan o'u hastudiaethau, gan fod y modiwl yn opsiwn a ddewiswyd fel rhan o'r rhaglen ehangach. Wrth gofrestru eich diddordeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich bod yn fyfyriwr Blwyddyn Sylfaen sy'n dewis modiwl Ieithoedd i Bawb.
Rwy’n Aelod o Staff Prifysgol Bangor
Gall aelodau o staff Prifysgol Bangor gofrestru ar fodiwlau Ieithoedd i Bawb am £150 y modiwl. Cynigir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig – hynny yw, ni fydd asesiad ffurfiol nac unrhyw gredydau’n cael eu dyfarnu.
Rwy'n Athro/Athrawes Ysgol Gynradd neu Uwchradd
Gall athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd gofrestru ar fodiwlau Ieithoedd i Bawb am ffi ostyngol o £60 y modiwl. Caiff y categori hwn ei ariannu'n rhannol gan Brosiect Ieithoedd Rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Fel pob modiwl Ieithoedd i Bawb, cynhelir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig, heb unrhyw asesiad ffurfiol na chredydau academaidd yn cael eu dyfarnu.
Rwy’n Aelod o’r Gymuned
Mae croeso i aelodau’r gymuned ymuno â’n dosbarthiadau nos rhan-amser Ieithoedd i Bawb. Y ffi yw £170 y modiwl, gyda phob modiwl yn cynnwys 10 sesiwn wythnosol. Cynigir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig, heb unrhyw asesiad ffurfiol nac unrhyw gredydau.
Rwy’n Aelod o’r Gymuned sy’n Gymwys i Gael Gostyngiad (aelodau sydd wedi gwneud cwrs Ieithoedd i bawb yn y gorffennol a phensiynwyr)
Mae aelodau’r gymuned sydd wedi cwblhau cwrs Ieithoedd i Bawb yn y gorffennol, neu sydd yn bensiynwyr, yn gymwys i gael gostyngiad o £120 y modiwl. Cynigir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig, heb unrhyw asesiad ffurfiol nac unrhyw gredydau.