Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs hyfforddi 5 diwrnod hwn yn rhoi cyfle i chi ymgolli mewn addysgu MBSR. Archwiliad trwy brofiad ar gyfer athrawon ymwybyddiaeth ofalgar yw’r cwrs MBSR wyth wythnos, i gefnogi a datblygu sgiliau a hyder wrth addysgu cwricwlwm MBSR. Wedi'i gynnig mewn amgylchedd ar-lein, bydd yr hyfforddiant yn darparu cyfleoedd i gyfuno dysgu ac ehangu ymarfer
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs yn agored i athrawon ymwybyddiaeth ofalgar profiadol fel cyfle i adnewyddu eu hymarfer personol a’u hymarfer addysgu ac mae hefyd yn agored i athrawon newydd sydd yn dechrau datblygu eu sgiliau addysgu MBSR.
Rhaid i bob cyfranogwr fodloni’r meini prawf canlynol:
- profiad personol o gwrs wyth wythnos MBSR
- yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn bersonol ers tro byd
- wedi dilyn hyfforddiant Essentials y Mindfulness Network neu hyfforddiant cyfatebol
- cefndir proffesiynol a/neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol o'r poblogaethau y bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno iddynt.
Byddwch yn ymarfer addysgu themâu sesiwn MBSR megis cyfathrebu llawn straen. Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â chwricwlwm MBSR.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu dod i’r digwyddiad yn ei gyfanrwydd. Os nad yw hynny’n bosibl, cysylltwch â ni i drafod cyn cyflwyno cais.
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
- archwilio’r themâu a bwriadau’r cwricwlwm MBSR
- strategaethau addysgu MBSR
- sail ddamcaniaethol MBSR
- archwilio llif yr addysgu a'r dysgu drwy'r cwricwlwm
- diffinio strwythur cyffredinol y cwricwlwm
- ymarferion ac arferion sy'n gysylltiedig â themâu gwersi, gan gynnwys opsiynau a dewisiadau amgen
- dealltwriaeth fanylach o nodweddion penodol MBSR
- hwyluso grŵp; gan ganiatáu dysgu
- datblygu sgiliau ymholi sy'n rhan annatod o MBSR
- archwilio cysylltiadau rhwng ymarfer personol, addysgu a dysgu
- ystyried addasiadau i MBSR ar gyfer cyd-destunau addysgu unigol a grwpiau bach
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys sesiynau ymarfer addysgu sy'n canolbwyntio ar themâu'r sesiwn MBSR (e.e. canfyddiad, archwilio profiadau dymunol ac annymunol, adweithedd i straen, cyfathrebu llawn straen, yr hyn a gymerwn i mewn). Ac eithrio symudiad ymwybodol, ni fydd yr ymarferion addysgu’n canolbwyntio ar yr ymarferion myfyrdod dan arweiniad.
Mae'r hyfforddiant hwn yn elfen o'r Llwybr Hyfforddi a gyflwynir mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, a gellir cynnwys y dystysgrif presenoldeb ym Mhortffolio eich Llwybr Hyfforddi. Os byddwch yn cofrestru ar y Llwybr Hyfforddi ar ôl cwblhau'r hyfforddiant hwn, gellir cynnwys y dystysgrif yn ôl-weithredol.
Cynhelir y cwrs ar-lein gan ddefnyddio Zoom.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs byr hwn ei gynnal dros bum diwrnod ar y dyddiadau isod.
Mae’r cwrs wedi’i strwythuro’n ddau fodiwl:
Modiwl 1: 10, 11 a 12 Mehefin 2026
Modiwl 2: 18 a 19 Mehefin 2026
Yr amser fydd 9.30am tan 5.30pm pob dydd.
Amseroedd y DU yw’r rhain (BST – Amser Haf Prydain).
Os ydych yn ymuno o barth amser gwahanol, gwiriwch yr amser cyfatebol yn eich ardal chi.
Tiwtor
Dr Sophie Sansom
Sophie yw cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Fel uwch ddarlithydd, mae Sophie yn addysgu ar y rhaglen meistr ac mae'n frwd dros fentrau cymdeithasol ac amgylcheddol ar ôl cyd-ddatblygu'r rhaglen Inner Change Works (ICW) yn ddiweddar. Fel sylfaenydd SiTT (Support for Integrity in Teaching and Training) mae Sophie wedi sefydlu fframweithiau ar gyfer datblygu cymunedol a safonau proffesiynol yn y maes. Ar ôl cydweithredu i ddatblygu dull arloesol o gael cydnabyddiaeth i’r cwricwla MBP newydd, Sophie sydd bellach yn cadeirio panel cydnabyddiaeth rhyngwladol yr European Association of Mindfulness-based Approaches (EAMBA). Gan ei bod yn arwain o ran ysgolheictod ac yn datblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mae gwaith academaidd Sophie yn archwilio ffyrdd o gefnogi arloesedd a hygyrchedd addysgeg gan gynnal ansawdd ac uniondeb; mae hyn yn rhan allweddol o’i gwaith fel cadeirydd y British Association of Mindfulness-based Approaches (BAMBA)
Cost y Cwrs
Y ffi ar gyfer Mehefin 2026 fydd £798.00 (yn cynnwys TAW).
Gofynion Mynediad
Rhaid i bob cyfranogwr fodloni’r meini prawf canlynol:
- profiad personol o gwrs wyth wythnos MBSR
- yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn bersonol ers tro byd
- wedi dilyn hyfforddiant Essentials y Mindfulness Network neu hyfforddiant cyfatebol
- cefndir proffesiynol a/neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol o'r poblogaethau y bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno iddynt.
Byddwch yn ymarfer addysgu themâu sesiwn MBSR megis cyfathrebu llawn straen. Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â chwricwlwm MBSR.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu dod i’r digwyddiad yn ei gyfanrwydd. Os nad yw hynny’n bosibl, cysylltwch â ni i drafod cyn cyflwyno cais.
Gwneud Cais
I gofrestru ar gyfer y cwrs, cliciwch ar y ddolen isod: