Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Archwiliwch sut mae tystiolaeth addysgol yn cael ei chrynhyrchu, ei defnyddio, a'i chymhwyso ar draws cyd-destunau. Mae'r modiwl hwn yn cyfarparu gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu'n feirniadol ag amrywiol ffurfiau o dystiolaeth, gan gynnwys ymchwil ryngwladol, i lywio ymarfer, hunaniaeth a chydweithio. Mae'r asesiad yn cynnwys traethawd beirniadol sy'n archwilio'r defnydd o dystiolaeth wrth lunio ymarfer proffesiynol effeithiol, moesegol a myfyriol.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Ymarferwyr sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y sector addysg. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Uwch arweinwyr
- Athrawon
- Cynorthwywyr addysgu
- Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Ymarferwyr sy'n gweithio yn yr awdurdod lleol
- Partneriaid gwella ysgolion
- Staff Estyn
Pam astudio’r cwrs?
Erbyn diwedd y modiwl, dylai myfyrwyr allu:
- Gwerthuso'r gwahanol ffyrdd y cyflwynir a chyhoeddir tystiolaeth.
- Dadansoddi a syntheseiddio tystiolaeth empirig berthnasol, gan gynnwys llenyddiaeth ryngwladol a dogfennau polisi.
- Archwilio sut mae gwahanol ffurfiau o dystiolaeth yn llywio ymddygiadau ac arferion proffesiynol.
- Dadansoddi'r gwahanol ffyrdd y cynhyrchir, y ceir mynediad at dystiolaeth, a'i harchwilio o fewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol.
- Archwilio a dehongli tystiolaeth ryngwladol mewn ffyrdd ystyrlon a moesegol.
- Gwerthuso'n feirniadol ffyrdd y gall defnyddio tystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a pherthnasoedd cydweithredol.
- Gwerthuso'n feirniadol sut y gall tystiolaeth lywio a newid arfer proffesiynol.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae'r cwrs byr hwn yn rhedeg dros un ar ddeg wythnos. Disgwylir i fyfyrwyr weithio trwy lyfrau gwaith hunan-dywys a mynychu dwy sesiwn 'cwrdd â'r tiwtor' cydamserol 1 awr o hyd.
Gwybodaeth am asesiadau
Yr aseiniad ar gyfer y modiwl hyn yw traethawd 4,000 o eiriau sy'n cynnig archwiliad a chraffu beirniadol o'r defnydd o dystiolaeth i lywio ymarfer proffesiynol effeithiol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae ymarfer seiliedig ar dystiolaeth yn fodiwl cyflwyniadol i ymarferwyr heb TAR diweddar. Mae'r modiwl hwn yn annog myfyrwyr i werthuso'n feirniadol a chymhwyso ystod o ffynonellau tystiolaeth. Nod hyn yw cefnogi twf proffesiynol, dylanwadu ar ymarfer cydweithredol, a chynnal newid ystyrlon.
Gwybodaeth bellach
Mae pob llyfr gwaith ar-lein ar gael yn ddwyieithog. Lle bo modd, cynigir sesiynau cydamserol ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fodd bynnag, nodwch, os nad oes digon o gyfranogwyr sy'n siarad Cymraeg i alluogi trafodaeth ystyrlon, efallai y cewch wahoddiad i ymuno â sesiwn cyfrwng Saesneg.
Cost y Cwrs
Cost y cwrs hwn yw £975.00.
Gofynion Mynediad
Mae angen i ymgeiswyr fod â gradd israddedig mewn unrhyw bwnc. Er mwyn cwblhau gweithgareddau myfyriol o fewn y llyfrau gwaith a'r aseiniadau, bydd rhaid i ymgeiswyr hefyd fod mewn rôl gyfredol o fewn y sector addysg.
Lefel o sgiliau iaith Saesneg
Rhugl.
Lefel o sgiliau iaith Gymraeg
Rhugl, os ydych chi am gymryd rhan drwy'r llwybr cyfrwng Cymraeg.
Nid oes angen os ydych chi'n cwblhau'r cwrs drwy gyfrwng y Saesneg
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Addysg. Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Ymarfer Lywio gan Dystiolaeth: y cod yw: XME-4306; XMC-4306. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol