Newyddion: Ebrill 2018

Llwyddiant Gwobrau WhatUni i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ei dewis fel y gorau ym Mhrydain am ei Chlybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr ac am ei Llety Myfyrwyr yng ngwobrau blynyddol WhatUni.com Student Choice Awards. Hefyd, daeth y Brifysgol yn drydydd ym Mhrydain yn y categori Prifysgol y Flwyddyn ac yn ail am ei Chyrsiau a Darlithwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018