Digital marketing in small destination enterprises- challenges in successful adoption of MARTECH
Rosalind Jones, Athro Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei harbenigedd ymchwil yn ymwneud ag astudio marchnata, rhwydweithio a masnacheiddio entrepreneuraidd, cyfeiriadedd strategol a chwmnïau twf (Busnesau Bach a Chanolig/cwmnïau newydd). Bu’n gyd-gadeirydd ar Grwp Diddordeb Arbennig Marchnata ac Entrepreneuriaeth Busnesau Bach yr Academi Farchnata rhwng 2013 a 2023 ac yn aelod o bwyllgor llywio'r Gynhadledd Ymchwil Fyd-eang mewn Marchnata ac Entrepreneuriaeth (GRCME) yn yr Unol Daleithiau ers 2014. Yn 2020 enillodd yr Athro Jones wobr fawr yr Athro Gerry Hills am y papur mwyaf dylanwadol ym maes marchnata ac entrepreneuriaeth dros y 10 mlynedd diwethaf, am ddyfyniadau, ansawdd a dylanwad ar y maes, a ddyfarnwyd gan Grŵp Diddordeb Arbennig Marchnata Entrepreneuraidd Cymdeithas Farchnata America. (AMA). Hi yw Golygydd y Journal of Research in Marketing & Entrepreneurship (JRME), y cyfnodolyn Emerald ac ar fwrdd golygyddol Management Decision. Cyhoeddodd mewn nifer o gyfnodolion rhyngwladol gan gynnwys y Journal of Business Research, Tourism Management a'r International Journal of Small Business a bu’n golygu llyfrau a rhifynnau arbennig o gyfnodolion. Bu'n Gyd-Ymchwilydd ar grant mawr gan yr EPSRC 'Hwb Technoleg Cwantwm mewn Synwyryddion ac Amseru' i LJMU ym Mhrifysgol Birmingham lle bu’n ymchwilio i gadwyni cyflenwi synwyryddion atomau oer gyda phrifysgolion, partneriaid a buddsoddwyr lu. Mae ganddi brofiad helaeth o reoli yn y sector cyhoeddus yn yr Adran Waith a Phensiynau a bu’n Farchnatwr Siartredig ac yn Llysgennad Busnesau Bach a Chanolig Gogledd Cymru ers degawd. Cyn mynd i Ysgol Busnes Bangor roedd yn Ddeon Cyswllt mewn Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth i’r Gyfadran Busnes a’r Gyfraith ac yn Athro Marchnata yn Ysgol Fusnes Lerpwl a chyn hynny bu’n Gyfarwyddwr ar Gyfres o raglenni MBA ym Mhrifysgol Birmingham, yn Ysgol Fusnes Birmingham. Astudiodd yr Athro Jones ar gyfer ei PhD yn wreiddiol a daeth yn aelod o’r staff addysgu ac ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, Cymru. Mae’r Athro Jones yn oruchwyliwr PhD a DBA profiadol ac mae’n chwilio am fyfyrwyr PhD a busnesau bach a chanolig rhagorol ar gyfer prosiectau KTP yn ei meysydd ymchwil.