Cyfnod Agoriadol y Balans 201500
Bellach mae cyfnod agoriadol y balans 201500 yn cynnwys y Balansau a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol 201400 i 201413.Bydd y wybodaeth ganlynol yn helpu i sicrhau eich bod yn deall goblygiadau dewis gwahanol ystodau cyfnodau ar yr adroddiadau.
Beth yw ystyr 201500?
Dynodir y flwyddyn ariannol yn Agresso gan 4 digid cyntaf y cyfnod ystyr 2015 yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn Awst 2015 ac yn parhau hyd fis Gorffennaf 2016. Ystyr 2016 yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn Awst 2016 ac yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2017.Mae'r ddau ddigid olaf yn dynodi'r mis o fewn y flwyddyn ariannol:
00 - Defnyddir hyn i ddal y Balansau a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol. 01 hyd 12 - Mae'r rhain yn dynodi misoedd y flwyddyn ariannol gan ddechrau gyda 01 (Awst) a gorffen gyda 12 (Gorffennaf) 13 - Cyfnod arbennig yw hwn a ddefnyddir yn y swyddfa gyllid i gwblhau blwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar ol i'r flwyddyn gael ei chau i drafodion arferol.Felly 201500 yw'r cyfnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau Awst 2015 sy'n dal y balansau a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol.Mae adroddiad ar gael yn adran 'codes and lists' Adroddiadau Agresso o'r enw 'Financial Periods' sy'n rhestru manylion fel dyddiadau go iawn a statws cyfnodau ariannol.
Sut ydw i'n cynnwys balansau a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn flaenorol mewn adroddiad?
I redeg adroddiadau i gynnwys balansau a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol, defnyddiwch ystod cyfnodau sy'n cynnwys y cyfnod 00. Er enghraifft, i redeg adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol Awst 2015 i Orffennaf 2016 a chynnwys y Balansau a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn flaenorol, defnyddiwch yr ystod cyfnodau 201500 hyd 201513.Yn achos y rhan fwyaf o adroddiadau mae'r ystod cyfnodau diofyn yn cynnwys 00 hyd at 13, felly nid oes raid i chi wneud dim byd.
Mae gen i ddiddordeb yn y flwyddyn hon yn unig?
I gynnwys y flwyddyn gyfredol yn unig defnyddiwch ystod o 01 hyd 13.
Mae'n fis Awst 2015 ac rydw i wedi rhedeg adroddiad o 201500 hyd at 201513 ond nid oes dim Balansau wedi eu dwyn ymlaen?
Dim ond unwaith y flwyddyn y dygir balansau ymlaen ac ar l gorffen cyfrifon blwyddyn ariannol. Ni fydd y cyfrifon am y flwyddyn Awst 2015 hyd Orffennaf 2015 ar eu ffurf derfynol am rai misoedd felly ni chyhoeddir unrhyw falansau ar gyfer 201500 tan fis Rhagfyr 2015 o leiaf.Anfonir hysbysiad pan gyhoeddir balansau.
Allaf i redeg adroddiad ar draws mwy nag un flwyddyn ariannol?
Ydym, rydym yn argymell defnyddio un o'r adroddiadau rhestru trafodion 'Life to Date' yn Adroddiadau Agresso oherwydd bod y rhain wedi eu hidlo'n arbennig i osgoi defnyddio'r trafodion Balansau a Ddygwyd Ymlaen. Os ydych yn rhedeg adroddiad wedi ei seilio ar flwyddyn ariannol arferol ar draws dwy flynedd ariannol yna gellir cynnwys y trafodion a'r balansau a chwyddo'r gwerthoedd.Ar hyn o bryd mae tri adroddiad 'Life to date' i ddewis ohonynt vi. Adran adroddiadau ar sail trafodion- Adroddiad cyfriflyfr Life to Date yn ol Project/Cyfnod - Adroddiad Cyfriflyfr Life to Date yn ol Project/Cyfrif - Rhestr Trafodion Life to Date (heb ei fformatio)
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015