Desg Gymorth Agresso – Newidiadau Staff
Mae Clare Brass wedi gadael Tîm Cefnogi Agresso i ymgymryd â swydd newydd yng Ngwasanaethau Myfyrwyr ac rydym i gyd yn dymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd a chyffrous.
Bydd Gwasanaethau TG yn recriwtio i lenwi’r swydd wag mor fuan â phosib ond yn y cyfamser rydym yn eich annog i wneud defnydd llawn o’r deunyddiau hyfforddi ar-lein a’r ddau ganllaw defnyddiol datrys problemau Agresso a luniwyd gan Clare cyn cysylltu â Desg Gymorth Agresso.
Gellir cael mynediad at lawlyfrau hyfforddi Agresso a’r canllawiau datrys problemau o’r dudalen we newyddion agoriadol sydd ar Wasanaethau Gwe Agresso drwy glicio’r botwm ‘Agresso manuals’ ar ben y ddewislen ar ochr y dudalen.
Neu fe ellir gwneud hynny o’r brif dudalen we Cyllid: http://www.bangor.ac.uk/finance/index.php.cy? drwy’r ddolen ‘Llawlyfr Agresso i ddefnyddwyr’
Neu’n uniongyrchol drwy’r dolenni isod:
Canllaw Datrys Problemau Agresso
http://www.bangor.ac.uk/finance/agresso/documents/AgressoTroubleshootingGuide2013.pdf
Canllaw Datrys Problemau Agresso - Llif Gwaith
http://www.bangor.ac.uk/finance/agresso/documents/TroubleshootingusingWorkflowEnquiriesx.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2012