Ffioedd am daliadau rhyngwladol a thaliadau ar yr un diwrnod
Mae'r brifysgol wedi newid banc yn ddiweddar ac wedi ymuno â Santander. Enw'r porth ar-lein newydd i daliadau yw Santander Connect ac mae'n cymryd lle Barclays Internet Banking (BIB). Yn unol â hyn, mae'r strwythur prisio taliadau ar-lein wedi newid hefyd.
O 1 Awst 2015, codir y ffioedd canlynol ar adrannau sy'n gofyn am daliadau wedi eu prosesu trwy Santander Connect Online.
Taliadau rhyngwladol i gyfrif banc tramor
£17.50 neu ffi mantolen, os yw'r ffi mantolen yn uwch.
Pob taliad ar yr un diwrnod i gyfrif banc yn y DU
Llai na £100,000 trwy daliad cyflymach* £6
£100,000 a mwy trwy CHAPS* £21
* Mae bron bob cyfrif banc yn y DU bellach yn derbyn taliadau cyflymach, ond nid yw hyn yn wir am bob un. Dylid gofyn am CHAPS os oes rhaid cael sicrwydd llwyr fod taliad yn cael ei wneud ar yr un diwrnod, er enghraifft wrth brynu tŷ.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2015