Myfyrwraig arobryn yn graddio
Manon Elwyn HughesBydd myfyrwraig dalentog a gweithgar yn graddio'r wythnos hon ar ôl ‘tair blynedd wych ym Mhrifysgol Bangor’.
Mae Manon Elwyn Hughes, 21 oed, Bethel, ger Caernarfon, yn gyn-ddisgybl Ysgol Brynrefail, a bydd yn graddio gyda gradd BA Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg. Enillodd Manon un o brif ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio ym Mangor.
Manon yw enillyd Gwobr Syr John Morris Jones eleni. Cafodd y wobr ei sefydlu dros ddeugain mlynedd yn ôl ac fe’i dyfernir i'r myfyriwr/myfyrwyr a dderbyniodd y canlyniadau gorau yn yr arholiadau gradd yn ei flwyddyn/eu blwyddyn derfynol.
Eglurodd Manon: ‘Penderfynais astudio ym Mangor oherwydd bod y cwrs a'r Adran Gymraeg yma yn apelio’n fawr a mwynheais y Diwrnod Agored. Roedd cael y cyfle i fyw mewn neuadd Gymraeg, sef Neuadd John Morris-Jones, hefyd yn rhinwedd a'm hysgogodd i astudio ym Mangor, yn ogystal â bod yn weddol agos at fy nghartref. Golygai hynny hefyd y gallwn barhau i weithio'n rhan amser gyda Gwasanaeth Ysgolion William Mathias. Roedd bod yn aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yn bwysig yn ystod fy nghyfnod yma, gan fod yr Undeb yn unigryw i Brifysgol Bangor ac yn cynnig amrediad eang o gyfleoedd i'r myfyrwyr Cymraeg. Bydd y seremoni raddio'n sicr o fod yn ddiwrnod i'w gofio, ac yn ffordd dda o ddathlu tair blynedd fythgofiadwy ym Mhrifysgol Bangor.’
Yn ystod ei hail flwyddyn, derbyniodd Manon Wobr Thomas L. Jones am fod y myfyriwr Cymraeg gorau yn ei blwyddyn a’r flwyddyn wedyn roedd Manon yn un o’r wyth myfyriwr trwy Brifysgol Bangor i ennill Gwobr Rhagoriaeth mewn Cyflogadwyedd, gwobrau a gyflwynir i fyfyrwyr sydd wedi dangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chydgyrsiol yn y Brifysgol.
Hefyd yn ystod ei thair blynedd yn yr Ysgol bu Manon yn hynod weithgar yn Arweinydd Cyfoed, Uwch-Arweinydd Cyfoed ac yn aelod o dîm golygyddol Y Llef (gan ddod yn Olygydd y papur yn ystod ei blwyddyn olaf). Yn ychwanegol at hynny, safodd Manon arholiadau'r Dystysgrif Sgiliau Iaith yn 2014, ac enillodd Wobr Norah Isaac y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gael y marciau uchaf drwy Gymru yn yr arholiadau hynny. Bu ar brofiad gwaith yng Nghanolfan Bedwyr, a arweiniodd at gael ei chyflogi yno yn ystod gwyliau’r haf 2014.
Dywedodd yr Athro Angharad Price, Ysgol y Gymraeg: ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Manon am ei holl weithgarwch oddi mewn i’r Ysgol, a’r modd y mae wedi llwyddo i feithrin sgiliau byd-gwaith gwerthfawr yn ystod ei gradd, gan gadw safon uchel ei gwaith academaidd yr un pryd. Rydym yn ymhyfrydu yn ei llwyddiant, ac yn ei llongyfarch ar ennill gradd ddosbarth cyntaf.’
Bydd Manon yw dychwelyd i Ysgol y Gymraeg i ddilyn cwrs Meistr y flwyddyn academaidd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015