Myfyrwyr Ysgol y Gymraeg yn Serennu yn Eisteddfod yr Urdd
Ffion ac ElisCafodd rhai o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg wythnos hynod lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2015a gynhaliwyd wythnos diwethaf yng Nghaerffili.
Ddydd Mercher, Ffion Haf Williams a enillodd y Fedal Ddrama. Graddiodd Ffion mewn Cymraeg haf diwethaf ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd meistr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Yn drydydd yn yr un gystadleuaeth roedd Gareth Evans-Jones, un o fyfyrwyr ymchwil cyfredol Ysgol y Gymraeg.
Bethan a GarethDdydd Iau, tro Elis Llwyd Dafydd oedd hi i ennill y Gadair. Graddiodd Elis hefyd yn haf 2014 ac mae ar hyn o bryd yn dilyn cwrs MA yn Ysgol y Gymraeg.
Ddydd Gwener, daeth Gareth Evans-Jones yn drydydd unwaith eto, y tro hwn yng nghystadleuaeth y Goron.
Derbyniodd Llio Mai Hughes Wobr Goffa Jennie Eirian Davies am ddarn o waith meicro a gyfansoddwyd ganddi. Graddiodd Llio hithau o Ysgol y Gymraeg a chwblhau MA cyn ymgymryd â’i phroject PhD presennol. Yn gynharach fis Mai, enillodd Llio Dlws y Ddrama i rai dan 25 oed a Thlws yr Ifanc yn Eisteddfod Môn.
Gwen a LlioA dydd Sadwrn, bu dwy o fyfyrwyr yr ail flwyddyn yn serennu ar lwyfan mawr yr ŵyl. Daeth Bethan Elin Wyn Owen yn drydydd yng nghystadleuaeth y Cyflwyniad Dramatig Unigol a Gwen Elin yn drydydd yng nghystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd. Dewiswyd Gwen hefyd fel un o’r chwe chystadleuydd llwyfan mwyaf addawol i ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ym mis Hydref – dymunwn yn dda iddi bryd hynny.
Llongyfarchiadau mawr i’r holl fyfyrwyr dawnus hyn – mae Ysgol y Gymraeg yn ymfalchïo yn eu llwyddiannau!
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2015