Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Rhagfyr 2013
- Holl Newyddion A–Y
Ai thus, a roddwyd gan y doethion, yw’r cynnyrch naturiol nesaf i’w ail-ddarganfod?
ThusYstyriwyd thus yn ddigon drudfawr i’w roi’n rhodd gan y doethion i’r baban Iesu, ynghyd ag aur a myrr. Roedd yn ddeunydd naturiol a ystyrid yn werthfawr gan ddiwylliannau hynafol.
Ond pa briodoleddau oedd yn ei wneud yn rhodd ddrudfawr yn yr hen fyd. Beth oedd ei wneud yn addas fel rhodd werthfawr i frenin?
Gwerthfawrogwyd y deunydd naturiol yn hanesyddol, ac fe’i defnyddid fel arogldarth mewn seremonïau crefyddol, tra bod rhai rhywogaethau’n cael eu defnyddio i ddibenion meddyginiaethol.
Mae thus, sy’n gynnyrch naturiol o resin coed, yn cael ei gynaeafu mewn sawl gwlad yn Asia ac yn Horn yr Affrig, yn benodol Somalia, Ethiopia ac Oman. Mae ansawdd a phriodweddau’r resin yn amrywio rhwng rhywogaethau’r goeden Boswellia a’r fan lle caiff ei gynaeafu.
Mae diddordeb gan y Compton Group mewn datblygu defnyddiau newydd ar gyfer echdyniadau o thus, ac mae ganddynt ddiddordeb mewn un rywogaeth arbennig o thus, Boswelia frereana, a elwir hefyd yn ‘frenin y thus’ neu Asli yn Arabeg. Dim ond yn Somalia y mae’n tyfu’n naturiol. Mae ganddi amrywiaeth gwahanol o gemegau i’r hyn a geir mewn rhywogaethau eraill o Boswellia.
Mae technegau bio-buro cyfoes, sydd ar gael mewn uned arbenigol ym Mhrifysgol Bangor, wedi galluogi gwyddonwyr a masnachwyr, sydd eisiau datblygu cynnyrch newydd, i gydweithio i ynysu, adnabod a mesur purdeb rhai o’r cynhwysion sy’n weithredol o fewn y cynnyrch naturiol.
Ffermwyr a choeden thus.Mae adnabod ac ynysu’r cyfansoddyn gweithredol o’r thus yn ei gyfanrwydd yn ddolen hanfodol i alluogi cwmnïau i ddatblygu deunyddiau fferyllol o gynnyrch naturiol, gan wybod bod y cynhwysion gweithredol yn bur ac y byddant yn gweithredu mewn modd cyson. Mae hynny’n angenrheidiol i ddibenion cynhyrchu da a rheoli ansawdd yn cynnyrch terfynol.
Dylai’r gwaith a wnaed yn Ysgol Gemeg a Chanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor alluogi datblygu deunyddiau newydd sy’n deillio o thus ar raddfa fasnachol.
Mae Dr Ahmed Ali yn ymgynghorydd ymchwil i’r Compton Group, sydd mewn trafodaethau efo partneriaid masnachol yn yr Unol Daleithiau sy’n ymchwilio i ddatblygiadau masnachol a chynnal profion effeithiolrwydd ar gyfer cynnyrch newydd sy’n seiliedig ar thus. Bydd y rhain yn galluogi pobl i werthfawrogi buddiannau a ddaw o thus a’u defnyddio.
Meddai Dr Ahmed Ali, sydd o dras Somali:
“Rwyf wedi bod yn ymchwilio i thus am dros ddeng mlynedd ac wrth fy modd efo’r datblygiadau diweddaraf.
“Mae’n rhaid profi deunyddiau fferyllol modern am eu hansawdd a’u purdeb. Mae cael defnyddio cyfleusterau fel y rhai ym Mhrifysgol Bangor, drwy project BEACON, yn galluogi cwmnïau fel ein rhai ni i ymchwilio i ddefnydd newydd ar gyfer deunyddiau naturiol.”
“Mae ymchwil flaenorol wedi dangos y gall thus fod o gymorth i rai sydd efo cryd cymalau. Y gobaith yw y bydd nid yn unig yn lleddfu poen, ond hefyd yn atal niwed pellach i’r gewynnau a’r esgyrn. Mae’r Compton Group yn siarad â chwmnïau sydd yn awyddus i fasnacheiddio a datblygu cynnyrch newydd sy’n seiliedig ar thus ar gyfer y farchnad fawr a phwysig hon.”
Roedd y Compton Group yn medru gweithio gyda Phrifysgol Bangor drwy broject BEACON, menter a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, ynghyd â chonsortiwm o bartneriaid, gan gynnwys prifysgolion Bangor ac Abertawe. Mae’r project yn galluogi cwmnïau i gael mynediad at arbenigedd gwyddonol a technegol ac amrywiaeth o offer arbrofol i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd. Cefnogwyd gwaith datblygiadol Compton Group ar thus gan dîm Beacon ym Mhrifysgol Bangor drwy ddefnyddio technegau cromatograffig uwch, sydd ar raddfa llawer mwy na’r hyn sydd ar gael fel rheol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2016