Module LCM-4028:
Portffolio Ol-radd S2
Portffolio Ol-radd S2 2023-24
LCM-4028
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Helena Miguelez-Carballeira
Overview
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr ôl-raddedig i wneud ymchwil ar lefel uwch trwy wneud darnau hwy o ysgrifennu mewn maes ymchwil a bennir gan y myfyriwr a'r tiwtor. Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i'r myfyriwr ôl-raddedig i gyflwyno portffolio gwaith ymchwil annibynnol (dan oruchwyliaeth tiwtor) sy'n mynd i'r afael â thestun na fyddai efallai ar gael o fewn yr ystod bresennol o fodiwlau ôl-raddedig craidd a dewisol a gynigir gan yr Ysgol gartref o fewn y Coleg. Cytunir ar ffurf ddeallusol y portffolio gan y tiwtor a'r myfyriwr a bydd yn gyfle delfrydol i ddangos ymarfer ysgolheigaidd y myfyriwr: Y gallu i saernio darn(au) ysgrifenedig trefnus sy'n ffrwyth ymchwil fanwl; y gallu i gadw at arferion nodi a chyfeirio ysgolheigaidd; y gallu i ymwneud ar lefel uwch ag agweddau beirniadol ar y maes ymchwil a ddewiswyd; y gallu i lunio dadl ar lefel uwch.
Assessment Strategy
-threshold -C- - C+:Peth dystiolaeth o ddarllen sylweddol a pherthnasol, ond dim ond ychydig o ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad. Dealltwriaeth gyfyngedig o oblygiadau rhai o'r materion ynghlwm â'r maes ymchwil a ddewiswyd.
-good -B- - B+: Peth dystiolaeth o ddarllen sylweddol a pherthnasol,a dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn. Dealltwriaeth dda o oblygiadau llawer o'r materion ynghlwm â'r maes ymchwil a ddewiswyd.
-excellent -A- - A*:Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad soffistigedig a sylweddol o gorff sylweddol o ymchwil. Gwerthfawrogiad cymhleth a soffistigedig o'r mwyafrif o faterion ynghlwm â'r maes ymchwil a ddewiswyd.
Learning Outcomes
- Dangos ymwybyddiaeth o'r rhyngberthynas rhwng testun, cyd-destun, awduraeth a throsglwyddo testun, lle bo hynny'n briodol.
- Deall a thrafod ar lefel uwch ac yn gyson agweddau ar y maes ymchwil a ddewiswyd ganddynt.
- Ystyried gwahanol agweddau beirniadol ar y maes ymchwil a ddewiswyd ganddynt.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Weighting
100%