Module CXC-4009:
Technegau Cyfansoddi
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
40.000 Credits or 20.000 ECTS Credits
Organiser: Prof Gerwyn Wiliams
Overall aims and purpose
- Gallu dirnad a diffinio'n glir y defnydd o gywair, arddull, idiom ac ieithwedd
- Gallu dirnad a diffinio'n glir y gwahanol dechnegau a strategaethau a roddir ar waith mewn gweithiau llenyddol
- Gallu dirnad a diffinio'n glir brif strwythurau gwahanol weithiau llenyddol
- Meithrin agwedd ymholgar wrth ystyried y defnydd o gywair, arddull, idiom ac ieithwedd o fewn gweithiau llenyddol
- Cyflwyno'r hyn a ystyriwyd ar ffurf traethawd academaidd a luniwyd yn unol â'r confensiynau priodol a'r medrau technegol perthnasol
- Cynyddu a dwysáu ymwybyddiaeth o'r posibiliadau ar gyfer ysgrifennu creadigol.
Course content
Mae ‘Technegau Cyfansoddi’ yn un o fodiwlau craidd MA: Ysgrifennu Creadigol, ac ynddo bydd cyfle i drafod ystod o weithiau llenyddol gan amryfal awduron. Teilwrir yr union destunau llenyddol a drafodir at ofynion y myfyriwr unigol. Yn ei hanfod, ymholi a wna’r modiwl hwn ynghylch yr iaith lenyddol a’r technegau a fabwysiedir fel rhan o’r broses gyfansoddi. Sylwir yn fanwl ar faterion fel y berthynas rhwng cynnwys a thema gwaith llenyddol a’i gywair a’i dechnegau, ei idiom a’i ieithwedd. Y nod yn y pen draw yw cynllunio rhaglen gydgysylltiol ac ynddi berthynas glòs rhwng darllen ar y naill law ac ysgrifennu ar y llall. Bydd cysylltiad tryloyw felly rhwng y traethawd a osodir a’r portffolio creadigol. Rhoddir sylw i hyfforddiant ymchwil o fewn y modiwlau unigol. At hynny, mewn cyfres o seminarau pwnc-benodol, trafodir amryw faterion sy’n berthnasol i’r broses o ymchwilio ar gyfer gwaith ôl-radd, e.e. cywair priodol ar gyfer traethodau academaidd, llên-ladrad, cywain ffynonellau, trefnu nodiadau, sefydlu llyfryddiaethau. Trwy gyfrwng ymweliadau â llyfrgelloedd ac archifdy Prifysgol Bangor, tynnir sylw at yr ystod o gronfeydd gwybodaeth sydd ar gael a’u defnyddioldeb i’r ymchwilydd unigol. Yn ogystal â sylw i’r agweddau ymarferol a thechnegol hyn ar weithgaredd ymchwil, bydd cyfle mewn seminarau i gyfranogi o amgylchedd ymchwil Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac elwa ar y cyfle i drafod rhaglenni unigol yng nghwmni myfyrwyr ôl-radd ac ymchwil eraill.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Assessment Criteria
excellent
A- i A* - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Rhagoriaeth
- dangos gallu datblygedig i adnabod, gwerthfawrogi ac arfer grym mynegiannol iaith
- dangos gallu datblygedig i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi
- dangos gallu datblygedig i ysgrifennu'n feirniadol
- dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus
- dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon sylwebyddion eraill yn deg ac yn gytbwys
- dangos gallu datblygedig i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu datblygedig i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael sicr ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
C- to C+
C- i C+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Pasio
- dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith
- dangos gallu i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi
- dangos gallu i ysgrifennu'n feirniadol
- dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
- dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon sylwebyddion eraill
- dangos gallu i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
good
B- i B+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Teilyngdod
- dangos gallu da i adnabod, gwerthfawrogi ac arfer grym mynegiannol iaith
- dangos gallu da i ddeall priod nodweddion gwahanol gyweiriau ieithyddol a thechnegau cyfansoddi
- dangos gallu da i ysgrifennu¿n feirniadol
- dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol
- dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon sylwebyddion eraill yn deg ac yn gytbwys
- dangos gallu da i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu da i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael dda ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning outcomes
-
Cloriannu ymatebion beirniadol i amryfal enghreifftiau o gyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau o fewn detholiad o weithiau llenyddol
-
Datblygu gwell dealltwriaeth o'r gwahanol dechnegau sy'n rhan o'r broses gyfansoddi
-
Cyfleu'r hyn y buwyd yn ei drafod ar ffurf traethawd academaidd safonol a strwythuredig.
-
Ymelwa'n greadigol o'r amryfal enghreifftiau o dechnegau a strategaethau y buwyd yn eu hystyried wrth fynd ati i gynllunio eu portffolio creadigol eu hunain.
-
Adnabod amryfal enghreifftiau o gyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau o fewn amrediad o weithiau llenyddol, e.e. ffurfiol ac anffurfiol, llafar a thafodieithol, arwrol a ffugarwrol, beiblaidd, mabinogaidd, rhyddieithol blaen a barddonol flodeuog, ffwythiannol a ffeithiol, amlgymalog, sathredig, bratiog ac `ansafonol'
-
Gwerthfawrogi a gwerthuso priod nodweddion cyweiriau, arddulliau, idiomau ac ieithweddau
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd | 100.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | Astudiaeth unigol |
360 |
Tutorial | Tiwtorialau unigol |
20 |
Seminar | Seminarau dosbarth |
20 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Courses including this module
Compulsory in courses:
- Q5AN: Diploma Ysgrifennu Creadigol year 1 (DIP/YSGCRE)
- Q5AO: MA Ysgrifennu Creadigol year 1 (MA/YSGCRE)