Module QCL-4470:
Agweddau ar Ddwyieithrwydd
Agweddau ar Ddwyieithrwydd 2025-26 (Deleted)
QCL-4470
2025-26
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Peredur Webb-Davies
Overview
Mae mwyafrif poblogaeth y byd yn gallu siarad mwy nag un iaith. Yn y modiwl cyfrwng Cymraeg hwn byddwch yn dysgu am bobl a chymdeithasau dwyieithog ac amlieithog drwy drin a thrafod gwahanol agweddau o faes dwyieithrwydd (bilingualism).
Byddwch yn dysgu am bynciau fel sut mae plant yn dod yn ddwyieithog, sut mae dwy iaith yn bodoli o fewn cymdeithas a sut mae pobl yn cyfuno dwy iaith o fewn yr un sgwrs (cyfnewid cod, code-switching). Byddwch yn meithrin sgiliau hanfodol gan gynnwys dehongli'n feirniadol, gweithio mewn grwp a thrawsieithu.
Mae dau aseiniad i'r modiwl, sef adroddiad dadansoddi iaith a thraethawd neu "annhraethawd" ("unessay") ym maes dwyieithrwydd.
Nid oes angen cefndir mewn ieithyddiaeth arnoch chi ar gyfer cymryd y modiwl hwn gan ei fod yn addas i fyfyrwyr o unrhyw gefndir, ond mae'n enwedig o berthnasol os ydych chi'n astudio iaith, cymdeithaseg, hanes neu seicoleg.
Bydd myfyrwyr yn y modiwl hwn, yn dibynnu ar bynciau asesu, cwestiwn(cwestiynau) ymchwil a methodolegau yn cael y cyfle i ddefnyddio labordai'r adran, meddalwedd arbenigol ac adnoddau, wrth gynnal eu hasesiadau. Gall hyn gynnwys mynediad i a defnydd o; cyfleusterau labordy pwrpasol ar gyfer arbrofion, bwth ynysu sain gradd proffesiynol a gosod offer recordio o safon uchel, meddalwedd dadansoddi acwstig a ffonetig ac ystod eang o feddalwedd cydgordiant a chorpora arbenigol ar gyfer llawer o ieithoedd
Bydd myfyrwyr yn dysgu am bynciau fel: - Diffinio dwyieithrwydd - Plant dwyieithog - Dwyieithrwydd yn y gymdeithas - Dwyieithrwydd yn yr ysgol - Dysgu ail iaith fel oedolyn - Manteision (ac anfanteision) dwyieithrwydd - Cyfuno gramadeg a geiriau ieithoedd wrth siarad - Agweddau tuag at y Gymraeg a dwyieithrwydd - Dyfodol y Gymraeg yn ei chyd-destun dwyieithog
Assessment Strategy
Trothwy / Gradd C: Gafael gyffredinol ar y prif faterion sydd yn ymwneud â dwyieithrwydd yn y llenyddiaeth. Gallu derbyniol i ddehongli data ieithyddol mewn ffordd fanwl a systematig. Yn dangos gallu cyffredinol i ddadansoddi a deall pynciau ieithyddol yn eu cyd-destun, gan dynnu ar astudiaethau o’r maes er mwyn gwneud hynny. Yn gallu gwneud peth defnydd o ddehongli beirniadol er mwyn pwyso a mesur tystiolaeth wrth drafod damcaniaethau ac astudiaethau achos. Yn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol ar ffurf ysgrifenedig a llafar mewn ffordd addas. Gallu cyffredinol i gymharu dwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymreig â seftyllfaoedd dwyieithog eraill mewn ffordd aeddfed a chytbwys.
Da / Gradd B: Gafael dda ar y prif faterion sydd yn ymwneud â dwyieithrwydd yn y llenyddiaeth. Gallu amlwg i ddehongli data mewn ffordd fanwl a systematig. Yn dangos gallu i ddadansoddi a deall pynciau ieithyddol yn eu cyd-destun mewn manylder, gan dynnu ar astudiaethau o’r maes ac ar brofiad personol mewn ffordd ddeallus. Yn gallu gwneud defnydd rheolaidd a chraff o ddehongli beirniadol er mwyn pwyso a mesur tystiolaeth wrth drafod damcaniaethau ac astudiaethau achos. Yn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol ar ffurf ysgrifenedig a llafar mewn ffordd addas. Gallu amlwg i gymharu dwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymreig â seftyllfaoedd dwyieithog eraill mewn ffordd aeddfed a chytbwys.
Ardderchog / Gradd A: Gafael ardderchog ar y prif faterion sydd yn ymwneud â dwyieithrwydd yn y llenyddiaeth. Gallu uchel mewn dehongli data ieithyddol mewn ffordd fanwl a systematig. Yn dangos gallu uchel i ddadansoddi a deall pynciau ieithyddol yn eu cyd-destun mewn manylder, gan dynnu ar astudiaethau o’r maes ac ar brofiad personol mewn ffordd ddeallus. Yn gallu gwneud defnydd cyson a gwirioneddol graff o ddehongli beirniadol er mwyn pwyso a mesur tystiolaeth wrth drafod damcaniaethau ac astudiaethau achos. Yn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol ar ffurf ysgrifenedig a llafar mewn ffordd eglur a deallus iawn. Gallu ardderchog i gymharu dwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymreig â seftyllfaoedd dwyieithog eraill mewn ffordd aeddfed a chytbwys.
Learning Outcomes
- Cynhyrchu dadl feirniadol sydd yn gwerthuso pwnc mewn dwyieithrwydd drwy gyfeirio at lenyddiaeth berthnasol.
- Dadansoddi a dehongli’n feirniadol data ieithyddol (Cymraeg a Saesneg) oddi wrth bobl ddwyieithog yn cyd-fynd â theori berthnasol.
- Esbonio a chategoreiddio cysyniadau pwysig ym maes dwyieithrwydd ar lefel olraddedig ac mewn modd beirniadol.
- Synthesu a dehongli llenyddiaeth ym maes dwyieithrwydd yn feirniadol, gan gynnwys agweddau theoretig.
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
60%