Module QCL-4479:
Traethawd Hir MArts
Traethawd Hir MArts 2023-24
QCL-4479
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
60 credits
Module Organiser:
Eben Muse
Overview
Gall testunau amrywio, yn dibynnu ar ddewisiadau myfyrwyr a rhaglen y radd. Maent yn ymwneud ag ystod eang o faterion mewn ieithyddiaeth, ond rhaid iddynt fod yn berthnasol i raglen y radd y mae'r myfyriwr wedi cofrestru arni. Bydd testunau'n cynnwys, ymhlith eraill, ymchwil mewn Ieithyddiaeth Wybyddol, Dwyieithrwydd, Caffael Iaith, Datblygiad Iaith, a dysgu Saesneg fel iaith dramor (TEFL). Bydd y rhan fwyaf o bynciau yn cynnwys casglu a dadansoddi data, ond ni fydd y posibilrwydd o ddefnyddio data presennol neu wneud adolygiad estynedig o lenyddiaeth yn cael ei eithrio os yw'n berthnasol i'r pwnc, ac y cytunir ar hynny â'r goruchwyliwr. Mae’r Ysgol yn gwneud pob ymdrech i oruchwylio unrhyw bwnc y mae myfyrwyr yn ei ddewis, ond yn yr achos prin nad ydy’r Ysgol â’r gallu i oruchwylio pwnc, yna gofynir i fyfyrwyr ddewis pwnc arall.
Dim ond myfyrwyr sydd eisiau casglu data yn ymwneud â phlant neu oedolion sy’n agored i niwed sydd angen prawf DBS (gwelwch isod).”
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn gallu cynhyrchu a chynnal dadl soffistigedig ac estynedig yn ysgrifenedig.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth a dealltwriaeth soffistigedig o gyfyngiadau moesegol ar gasglu ymchwil a llunio adroddiadau.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o ddarllen beirniadol i safon uwch sy'n ystyried nifer o ddarnau o waith ymchwil ysgrifenedig mewn dull priodol a thrylwyr.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o ystyried gwahanol ddulliau methodolegol mewn modd soffistigedig a defnyddio dulliau angenrheidiol sy'n addas i'r testun yr ymchwilir iddo.
- Bydd myfyrwyr yn gallu llunio project ymchwil ymarferol soffistigedig o'u heiddo eu hunain gyda sgôp sylweddol iddo
- Bydd myfyrwyr yn gallu nodi a defnyddio corff perthnasol o dystiolaeth i safon uwch.
- Bydd myfyrwyr yn gallu ymwneud â darn sylweddol o ymchwil academaidd, unigol ar destun o'u dewis i safon uwch.
Assessment type
Summative
Weighting
0%
Assessment type
Summative
Weighting
100%
Assessment type
Summative
Weighting
0%
Assessment type
Summative
Weighting
0%
Assessment type
Summative
Weighting
0%